Y cyn-Weinidog Leighton Andrews i siarad ar rôl Facebook mewn democratiaeth
Yr Athro Leighton Andrews
22 Chwefror 2018
Dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol ar ddemocratiaeth fydd dan sylw mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau, 22 Mawrth 2018.
Traddodir Facebook, The Media and Democracy gan y cyn-Weinidog yn Llywodraeth Cymru, yr Athro Leighton Andrews o Ysgol Fusnes Caerdydd.
Cynhelir y ddarlith ar y cyd rhwng y Ganolfan Ymchwil Cyfathrebu Byd-eang (GCRC) ac Ysgol y Gyfraith Aberystwyth a bydd yn dechrau 4:10 y prynhawn ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Erbyn hyn mae gan Facebook dros ddau biliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd ac mae'n berchen ar apiau cyfathrebu allweddol eraill, gan gynnwys Instagram a WhatsApp, sydd yn rhoi pŵer marchnad digynsail iddo.
Mae'n chwarae rhan allweddol wrth siapio cymdeithas drwy ledaenu newyddion ac annog trefniant sifil ac fel llwyfan etholiadol.
Dywedodd yr Athro Gary Rawnsley, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Byd-eang ac Athro Diplomyddiaeth Gyhoeddus: "Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y ddarlith gydag Ysgol y Gyfraith Aberystwyth ar bwnc mor amserol. Mae Facebook yn newid gwleidyddiaeth a’r modd y mae unigolion yn ymgysylltu â democratiaeth mewn ffordd nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, ac mae’r dadleuon dros ac yn erbyn rheoleiddio’r cyfrwng yn esblygu bob dydd.
"Mae rôl y cyfryngau cymdeithasol yn newid dyfodol cymdeithas a democratiaeth, ond yn dilyn y ddadl ddiweddar ynglŷn â 'Newyddion Ffug' yn UDA a'r DU, mae ei goruchafiaeth yn cael ei herio gan reoleiddwyr a gwneuthurwyr cyfraith. Bydd y ddarlith yn codi cwestiynau ynglŷn â rheoleiddo o ran data mawr a llwyfannau y rhyngrwyd.”
Cyflwynir yr Athro Leighton Andrews gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Bellach mae’r Athro Andrews yn Athro Ymarfer mewn Arweinyddiaeth ac Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
Bu yn Weinidog dros Addysg a Sgiliau ac yn Weinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraethau Llafur Cymru Carwyn Jones rhwng 2009 a 2016, ac yn Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru'n Un Rhodri Morgan o 2007 tan 2009, a bu’n Athro Aelod Cynulliad dros y Rhondda o 2003 tan 2016.
Cyn ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, cafodd yrfa lwyddiannus yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac ef oedd Pennaeth Materion Cyhoeddus y BBC yn Llundain rhwng 1993 a 1996, yn ystod ymgyrch Adnewyddu’r Siarter.