Myfyrwyr yn gwirfoddoli ym Mhrifysgol Aberystwyth
Myfyrwyr fu'n gwirfoddoli o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i ailagor llwybr newydd trwy Barc Natur Penglais yn 2017.
19 Chwefror 2018
Am y tro cyntaf mae Mae Prifysgol Aberystwyth yn paratoi i gymryd rhan yn Wythnos Cenedlaethol Gwirfoddoli Myfyrwyr 2018 sydd yn dechrau heddiw, 19 Chwefror 2018. Mae’r wythnos wedi cael ei chydlynu gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UM Aber).
Mae’r Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr, sydd nawr yn ei 17eg mlynedd, yn ddathliad saith diwrnod o weithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli rhwng 19-25 Chwefror.
Bwriad y fenter cenedlaethol yw annog myfyrwyr mewn prifysgolion i wirfoddoli yn eu cymunedau lleol, a datblygu sgiliau newydd wrth ffurfio partneriaethau gweithredu cymdeithasol allweddol rhwng eu Prifysgol a’r gymuned leol.
Mae gwefan UM Aber yn cynnal system ‘nodi oriau’ i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli er mwyn iddynt nodi eu holl oriau gwirfoddoli. Mae dros 500 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli’n rheolaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfrannu dros 1500 awr yr wythnos mewn amryw o gyfleoedd – o gynnal cymdeithasau a chlybiau chwaraeon i wasanaethau Nightline a Gwasanaethau Ambiwlans Sant Ioan.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau AllanoL Prifysgol Aberystwyth: Mae'r wythnos hon yn gyfle delfrydol i dynnu sylw at werth yr hyn y mae ein myfyriwr sy’n gwirfoddoli yn ei wneud yn eu hamser hamdden. Mae cymaint ohonynt yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned leol yn Aberystwyth, tra eu bod yn ennill sgiliau a phrofiad hanfodol a fydd yn hollbwysig ar ôl iddynt raddio. Mae'r ystod o weithgareddau, o NawddNos i hyfforddi chwaraeon, yn wych ac rydym yn falch iawn o'r gwahaniaeth y gall ein myfyrwyr ei wneud i fywydau pobl trwy wirfoddoli.
Dywedodd Jessica Williams, Swyddog Cyfleoedd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Roeddwn yn gwneud llawer gyda Undeb Y Myfyrwyr tra’n astudio yma oherwydd fy swyddogaeth gyda Tarannau Cheerleaders. Fe godais arian tuag at RAG, ynghyd â gwirfoddoli fel ysgrifennydd cymdeithasol ac fel llywydd, ac fe wirfoddolais i gadw clwb y Cheerleaders i fynd.
“Rwyf wedi elwa drwy ddysgu cymaint am sgiliau bywyd gwahanol gan gynnwys cadw trefn, rheoli amser, gweithio fel aelod o dîm a dwi’n llawer fwy hyderus o ganlyniad i’r profiad. Mae rhain yn sgiliau defnyddiol iawn ac mae’n rhoi mantais ichi ar ôl graddio ac wrth ddechrau ceisio am swyddi.”
Fel rhan o Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr 2018, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn hyrwyddo’r gwasanaeth ‘Hafan Gwirfoddoli’ newydd sy’n rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad gyda sefydliadau lleol sy’n edrych am wirfoddolwyr.
Dywedodd Amy Goodwin, Cydlynydd Academaidd a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr: “Rhaid i fyfyrwyr gofrestru cyn cael mynediad i wasanaeth yr ‘Hafan Gwirfoddoli’. Mae’r system yn un canolog, er mwyn ystwytho dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn y Brifysgol a’r gymuned leol.
“Mae gwirfoddoli yn rhoi pwrpas ichi yn ogystal â datblygu sgiliau ac hunanhyder. Mae helpu rhywun yn rhoi teimlad o foddhad gwbl di-guro ichi!”