Penodiadau newydd i brosiect yr Hen Goleg
Yn edrych ar gynlluniau’r Hen Goleg mae (o’r chwith i’r dde): Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor; Nia Davies, Swyddog Cydlynydd yr Hen Goleg; Lyn Hopkins, Prif Bensaer, Lawray Architects; Chris Evans, Cyfarwyddwr, Lawray Architects; Andrea Pennock, Cyfarwyddwr Ystadau; Jim O’Rouke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg; Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni ac Andrew Thomas, Rheolwr Gwelliannau Ystadau ‘Adeiladau Hanesyddol’.
15 Chwefror 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi dau benodiad o bwys fel rhan o’i chynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu’r Hen Goleg fel canolfan dreftadaeth a diwylliant.
Mae cwmni penseiri sydd yn arbenigo mewn adfer adeiladau hanesyddol wedi ennill tendr y tîm dylunio.
Bydd Lawray Architects o Gaerdydd yn llunio cynlluniau cysyniadol a chadwraeth ar gyfer ail greu ac adfywio’r Hen Goleg, a agorodd fel Coleg Prifysgol cyntaf Cymru ym 1872.
Mewn penodiad ar wahân, mae’r ymgynghorydd Jim O’Rourke o Aberystwyth wedi ymgymryd â rôl y Rheolwr Prosiect.
Yn gyn-Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, sefydlodd Jim O’Rourke ymgynghoriaeth rheoli prosiectau yn 2004.
Mae wedi gweithio ar nifer o ddatblygiadau uchel eu proffil yng Nghymru gan gynnwys rôl yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm ac ailddatblygiad £6m Nant Gwrtheyrn, ac mae wedi darparu cefnogaeth ymgynghorol i amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth, elusennau ac awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau, timau staff a chraffter busnes.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r rhain yn benodiadau pwysig a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn ystod camau nesaf y prosiect wrth i ni anelu at drawsnewid yr Hen Goleg a chreu canolfan fywiog ar gyfer ymgysylltu a chreadigrwydd. Daw Jim â chyfoeth o brofiad fel Rheolwr Prosiect ac mae tîm Lawray Architects wedi creu argraff arnom gyda’u gweledigaeth, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad i’r prosiect uchelgeisiol hwn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw a rhannu a thrafod syniadau gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill yn fuan.”
Gan weithio gyda’r penseiri treftadaeth Austin Smith Lord, y peirianwyr strwythurol Mann Williams a’r ymgynghoriaeth peirianneg Hoare Lea, bydd Lawray yn arwain y prosiect i’r cam nesaf gan gynnwys cynlluniau cysyniadol a chadwraeth, a darparu mewnbwn arbenigol mewn digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus.
Dywedodd Chris Evans, Cyfarwyddwr Lawray Architects: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cael y gwaith o arwain cam nesaf ailddatblygu’r Hen Goleg. Rydym yn gwmni pensaerniol profiadol sydd wedi bod yn gwneud gwaith cadwraeth ac atgyweirio ar adeiladau rhestredig dros bedwar degawd ac mae’n cysylltiad gyda’r Hen Goleg yn ymestyn yn ôl dros ugain mlynedd.
“Mae pwysigrwydd a dylanwad pensaernïol yr Hen Goleg a’i arddull Gothig Fictorianaidd yng Nghymru a’r DU yn golygu y gellir dadlau mai hwn yw’r prosiect treftadaeth mwyaf arwyddocaol i Lawray Architects. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her sydd o’m blaenau, nid yn unig er mwyn gwarchod yr adeilad eiconig hwn â’i hanes cymdeithasol cyfoethog, ond hefyd y cyfle i roi bywyd newydd i’r adeilad mewn ffordd a fydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos.”
Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Jim O’Rourke: “Rwy’n falch iawn o’r cyfle i weithio ar brosiect mor gyffrous yn fy milltir sgwâr, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu fy mhrofiad a’m hegni at y tasgau allweddol wrth i ni ddatblygu tîm prosiect yr Hen Goleg, a chanolbwyntio ar y gweithgareddau a’r mannau sydd am wneud y defnydd gorau o’r adeilad hanesyddol hwn yn ei leoliad gwych ger y lli.”
Derbyniodd Bywyd Newydd i’r Hen Goleg gyllid datblygu rownd un o £849,500 o gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Ngorffennaf 2017, sydd yn caniatáu iddo fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.
Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn gweithio ar fanylion manwl yr ailddatblygiad gan lunio cynlluniau cysyniadol a chynhwysfawr yn ogystal â gosod ffynonellau cyllid ychwanegol yn eu lle. Bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri yn ystyried y cynigion yn yr ail rownd, pan fydd penderfyniad terfynol ar ddyfarniad y cyllid llawn o £10.5m (£10,581,800) yn cael ei wneud.
Mae’r Hen Goleg eisoes yn cynnal cyfres o ddarlithoedd, digwyddiadau ac arddangosfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Yr arddangosfa ddiweddaraf yw ‘Wallace: Gŵr Angof Esblygiad?’, sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru ac sydd ar agor o 10yb-4yp, ddydd Llun i ddydd Sadwrn tan 17 Ebrill.
Manylion llawn ar wefan yr Hen Goleg.