Prifysgol Aberystwyth yn rhoi hwb i’r to newydd o fandiau Cymraeg
15 Chwefror 2018
Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr un o ddigwyddiadau mwyaf y sin roc Gymraeg sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth y penwythnos hwn.
Caiff Gobrau’r Selar 2018 eu cynnal yn Undeb Myfyrwyr y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r Brifysgol fod yn brif noddwr y digwyddiad a fydd eleni’n gweld perfformiadau gan Yr Eira, Band Pres Llareggub, Mr Phormula, Cadno, Omaloma, Adwaith, Yr Oria, Pasta Hyll, Serol Serol a Gwilym.
Wedi nifer o flynyddoedd yn noddi gwobr Band Gorau Gwobrau’r Selar, mae Prifysgol Aberystwyth wedi troi ei sylw at hyrwyddo bandiau ac artistiaid newydd.
Eleni mae’r Brifysgol yn noddi gwobr y Band neu’r Artist Newydd gorau 2018, a’r tri enw sydd ar y rhestr fer yw Gwilym, Pasta Hyll a Serol Serol.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno gan Gwion Llwyd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth - UMCA.
Y Brifysgol hefyd fydd lleoliad noson arbenning i nodi cyfraniad arbennig un o gantoresau pop mwyaf poblogaidd Cymru.
Bydd Heather Jones yn perfformio yn yr Hen Goleg ar nos Wener 16 Chwefror yng Ngig Cyfraniad Arbenning Gwobrau’r Selar, hanner can mlynedd ers iddi ryddhau Caneuon Heather Jones.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ers degawdau bu Aberystwyth yn ganolbwynt pwysig i’r sîn roc Gymraeg, ac yn feithrinfa werthfawr tu hwnt i fandiau Cymraeg o bob math. Aeth sawl un ymlaen i wneud cyfraniad eithriadol, gan gynnwys Mynediad am Ddim, Y Trwynau Coch ac yn fwy diweddar Yr Ods. Addas iawn felly yw ein bod eleni, nid yn unig yn brif noddwr i Wobrau’r Selar, ond hefyd ein bod yn noddi’r wobr i’r Band neu’r Artist Newydd gorau, a thrwy hynny yn hyrwyddo’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, perfformwyr a chyfansoddwyr ifanc a fydd yn llywio’r sîn Gymraeg am flynyddoedd i ddod.”
Bydd defnyddwyr Snapchat sy'n ymweld â'r noson wobrwyo yn medru defnyddio ein ‘ffilter’ Snapchat arbennig Gwobrau’r Selar, unrhyw fan yn adeilad Undeb y Myfyrwyr rhwng 5yp a 1yb.
Bydd y penwythnos hefyd yn gyfle i fandiau ifanc berfformio, wrth i UMCA a Gigs Cantre’r Gwaelod ddod at ei gilydd i drefnu Gig Ffrinj ar nos Wener 16 Chwefror 2018.
Y bandiau Bwncath, The Routies a Miskin, sydd yn cynnwys aelodau o UMCA, fydd yn chwarae yn y gig, sy’n cael ei chynnal yn yr Hen Lew Du, Aberystwyth, gan ddechrau am 21:30. Pris mynediad yn £3.
Yn ogystal â pherfformiadau, mae yna nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn ystod y penwythnos, gan gynnwys arwerthiant recordiau yn yr Hen Goleg rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn, ddydd Sadwrn 17 Chwefror.