Cyfarwyddwr newydd Canolfan y Celfyddydau
Dafydd Rhys
02 Chwefror 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi penodiad Dafydd Rhys fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd yng nghanolfan gelfyddydau fwyaf Cymru ddydd Llun 5 Chwefror 2018.
Yn aelod cyngor o Gyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys oedd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C o 2012 hyd 2016.
Yn ystod yr amser hwn, bu’n arwain tîm a fu’n gyfrifol am gomisiynu ystod eang o raglenni, gan gynnwys cyfres ddrama dditectif Y Gwyll a gafodd ei ffilmio yng Ngheredigion ac sydd wedi'i gwerthu ar draws y byd.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae gan Dafydd Rhys brofiad helaeth o weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac rwy'n hynod falch ei fod yn ymuno â'r Brifysgol fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae ganddo weledigaeth ysbrydoledig ar gyfer dyfodol y Ganolfan, sy'n chwarae rhan mor allweddol ym mywyd diwylliannol ein campws, ein cymuned a'n cenedl.”
Dywedodd Dafydd Rhys: “Mae cael y cyfle yma i arwain Canolfan sydd wedi gwneud cyfraniad mor werthfawr i fywyd diwylliannol Aberystwyth a'r byd ehangach yn anrhydedd. Gan adeiladu ar seiliau cadarn, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm o staff ymroddedig wrth i ni gychwyn ar bennod newydd gyffrous. Mae ein cenhadaeth yn un glir – i ddatblygu ymhellach enw da, perthnasedd a phwysigrwydd y sefydliad eiconig hwn i bobl Aberystwyth a Chymru.”
Hanes Gyrfa
Yn enedigol o Ddyffryn Aman, fe ddechreuodd Dafydd Rhys ar ei yrfa yn y cyfryngau yn y 1980au yn gweithio ar raglenni plant ac adloniant ysgafn i HTV Cymru.
Roedd yn un o Gyfarwyddwyr cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Criw Byw o 1988-1991 yn cynhyrchu rhaglenni ieuenctid a rhaglenni dogfen gelfyddydol, a rhwng 1991-1998 bu'n Olygydd Comisiynu ac yna’n Gyfarwyddwr Darlledu S4C.
Sefydlodd gwmni cynhyrchu annibynnol Pop 1 fel rhan o grŵp Tinopolis yn 2000 cyn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ym mis Mawrth 2012.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Agorwyd Canolfan y Celfyddydau ddechrau’r 1970au ar safle canolog ar gampws Penglais y Brifysgol, gyda golygfeydd godidog ar draws tref Aberystwyth ac ar hyd arfordir Bae Ceredigion.
Gyda mwy na 700,000 o ymweliadau bob blwyddyn, caiff ei hystyried yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang - o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno - ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth o fewn Athrofa’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.