Adroddiad newydd yn amlygu cyfraniad prifysgolion i economi Cymru

Campws Penglais

Campws Penglais

31 Ionawr 2018

Mae Prifysgolion yng Nghymru yn cyfrannu dros £5bn ac yn cynnal bron i 50,000 yn ôl adroddiad annibynnol sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, 31 Ionawr 2018.

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei rhyddhau heddiw gan Prifysgolion Cymru, yn dangos fod prifysgolion yn parhau i gael effaith arwyddocaol ac eang ar economi Cymru, cymunedau ac unigolion, gan greu degau o filoedd o swyddi ac ysgogi gweithgaredd economaidd mewn cymunedau lleol, ynghyd ar economi ehangach.

Un canfyddiad o’r ymchwil a gafodd ei arwain gan Viewforth Consulting yn 2015/16, oedd bod gweithgaredd y prifysgolion, myfyrwyr a theulu a ffrindiau’r myfyrwyr rhyngwladol wedi cynhyrchu dros £5bn o allbwn i Gymru.

Roedd y cyfraniad economaidd sylweddol wedi ei gynhyrchu o wariant ar y campysau a thu hwnt gan greu dros £2.67bn o Werth Ychwanegol Crynswth (GVA), a 49,216 o swyddi.

Yn ôl yr adroddiad, mae prifysgolion yn cefnogi 2857 o swyddi yng Ngheredigion ac yn cyfrannu dros chwarter biliwn o bunnoedd i economi Ceredigion bob blwyddyn.

Darganfu’r ymchwil, er gwaethaf cyfnod o amgylchedd heriol a’r ansicrwydd sy’n peri o ganlyniad i Brexit, fod prifysgolion Cymru eto wedi cynyddu ei effaith ac yn parhau i gyfrannu i ffyniant ein heconomi.

Fe wnaeth y dadansoddiad ddangos bod yr effaith i’w weld ar draws Cymru gyda £561m GVA wedi ei gynhyrchu a 11,024 o swyddi wedi eu creu mewn ardaloedd lle nad oes presenoldeb Prifysgol.

Mae dadansoddiad o effaith economaidd prifysgolion yng Nghymru ar draws pob rhan o’r wlad yn dangos bod pob rhan o Gymru yn rhannu’r buddion, gan gynnwys ardaloedd lle nad oes prifysgol.

Fel sefydliadau sy’n enwog ar draws y byd, mae prifysgolion hefyd yn cyfrannu’n sylweddol i fasnach Cymru ac enillion allforio. Trwy weithgaredd rhyngwladol, cynhyrchodd Prifysgol Cymru dros £544m sy’n cyfateb i 4.1% o allforion nwyddau o Gymru yn 2016.

Dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg:
“Mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu dylanwadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein prifysgolion. Caf gyfle i gydnabod eu bod yn asedau nid yn unig i hyrwyddo gwybodaeth, ond yn fuddsoddwyr, cyflogwyr ac arweinwyr hanfodol ar y lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r cyfraniad hanfodol y mae ein prifysgolion yn ei wneud i ffyniant economaidd y wlad. Rwyf wrth fy modd bod yr adroddiad yn dangos bod y cyfraniad yn parhau i dyfu, ac yn manteisio ar gymunedau ledled Cymru.”

 Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae prifysgolion yn cyflawni rôl hollbwysig o ran yr addysg maent yn ei ddarparu, ac yn cyfoethogi bywydau diwylliannol y gymuned ehangach mewn cymaint o ffyrdd. Mae’r adroddiad diweddaraf yn tanlinellu hefyd y cyfraniad economaidd sylweddol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd fel Ceredigion a chanolbarth Cymru, cyfraniad sy’n cynnal cymaint o agweddau ar yr economi leol mewn cymaint o ffyrdd.”

Dywedodd Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgol Cymru: “Mae’r adroddiad yn dangos gwerth sylweddol y Prifysgolion, a wnaeth cynhyrchu allbwn o dros £5bn i Gymru, a chreu bron i 50,000 o swyddi yn 2015/16. Nid niferoedd bach yw rhain, sy’n dangos y ffordd mae prifysgolion yn ffynnu yn unigol a chenedlaethol, a chynnig cyfleoedd trwy gyflogaeth a chynhyrchu effaith arwyddocaol yn eu cymunedau fel angorfeydd lleol ar gyfer arwain twf economaidd yn rhanbarthol a chymunedol.

Rwy’n falch o allu profi bod ein prifysgolion yn parhau ei gwaith ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r trefi a rhanbarthau lle nad oes campws prifysgol yn gyfagos yn dal i weld buddion o’r gwerth a gynhyrchir gan y sector gyda dros 21% o’r holl GVA wedi ei greu gan brifysgolion a gynhyrchir mewn ardaloedd lle nad oes presenoldeb prifysgolion.”

Yn Tachwedd 2017, rhyddhaodd Prifysgolion Cymru adroddiad ar gyfraniad economaidd myfyrwyr rhyngwladol i Gymru.

Dangosodd yr ymchwil, gan Viewforth Consulting, fod myfyrwyr rhyngwladol a’i ymwelwyr wedi cynhyrchu £716m o allbwn i Gymru yn ystod 2015/16.

Roedd Ceredigion yn gyfrifol am 4.5% o'r holl wariant gan fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru ac yn cyfrannu £18.4 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn gyda 355 o swyddi yn cael eu cynnal.