Prifysgol Aberystwyth yng 100 uchaf Stonewall
Chwith i’r Dde: Dan Steward, Aelod Staff Rhwydwaith LGBT; Susan Chambers, Cyfarwyddwr Adrnoddau Dynol; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor; Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor; Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb; a Bob McIntyre, Aelod Staff Rhwydwaith LGBT yn dathlu llwyddiant Prifysgol Aberystwyth Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.
31 Ionawr 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth ymysg 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 31 Ionawr 2018.
Cyhoeddir Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle gan Stonewall a chaiff ei ddisgrifio fel y rhestr ddiffiniol o’r cyflogwyr gorau o ran staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.”
Bellach yn ei bedwaredd blwyddyn ar ddeg, derbyniodd rhifyn diweddaraf y Mynegai gyflwyniadau gan fwy na 430 of fusnesau a sefydliadau yn y DU, a mwy na 92,000 o ymatebion gan gyflogedigion.
Dringodd Prifysgol Aberystwyth 60 lle i safle 56 yn y DU a’r 9fed yng Nghymru. Daw hyn yn sgìl cynnydd o 121 safle yn 2017.
Yn ogystal, Aberystwyth yw’r 8fed brifysgol orau yn y DU, a’r 3edd yng Nghymru.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Yma yn Aber, rydym yn meithrin amgylchedd gynhwysol a chroesawgar sydd yn cydnabod ac yn dathlu amrywioldeb ar ein campws ac yn y gymuned. Mae’r diwylliant o barch yn cael ei adlewyrchu yn ein safle diweddaraf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, a hoffwn longyfarch cydweithwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl drwy eu hymroddiad tuag at gydraddoldeb a chynwysoldeb yn y gweithle.”
Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n wych o beth bod Prifysgol Aberystwyth wedi dringo eto eleni ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a bellach yn safle 56 yn y DU ar draws pob sector. Mae’n dangos bod Aberystwyth yn lle ffantastig i fyw a gweithio, pwy bynnag y’ch chi. Mae canlyniad hwn hefyd yn tanlinelli bod Prifysgol Aberystwyth wir yn un o’r llefydd mwyaf goddefgar, blaengar, rhyddfrydig a chynwysol i astudio a byw yn y DU.”
Dywedodd Darren Towers, Cyfarwyddwr Gweithredol Stonewall: “Mae Prifysgol Aberystwyth a phob un sydd wedi cyrraedd y 100 Cyflogwr Gorau wedi gwneud gwaith ffantastig. Mae cymryd rhan yn ein Mynegai yn dangos gwir ymroddiad i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Eleni, am y tro cyntaf, mae’r Mynegai wedi edrych ar beth mae cyflogwyr wedi ei wneud ar gyfer cydraddoldeb i bobl trawsrywiol yn y gweithle. Mae’r gwaith hwn yn allweddol. Yn ddiweddar fe gyhoeddon ni LGBT in Britain: Trans Report sydd yn ddangos yr anghydraddoldeb dwfn sydd yn wynebu pobl drawsrywiol ym Mhrydain heddiw. Mae hanner pobl drawsrywiol wedi penderfynu peidio rhannu hynny yn y gweithle rhag cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn. Mae rhaid i hyn newid ac mae’n galonogol gweld gymaint o sefydliadau yn ymrwymo i ymdrin â phobl drawsrywiol mewn modd cyfartal. Gyda’u cefnogaeth a’u gwaith caled gallwn greu byd lle mae croeso i weithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.”
Mae rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwyth yn cyfarfod unwaith y mis a chynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Gwener 23 Chwefror 2018 at 4.30yp yng nghaffi Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Mae manylion pellach i’w cael ar wefan Rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwyth neu gan Ruth Fowler ruf@aber.ac.uk.