Llyfrau plant yn cael eu cyflwyno i gymuned yn Japan

(Chwith i’r dde) y myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd ar eu ffordd i Yosano, Samantha Schanzer, Marged Smith, Carys Bevan, Giselle Morris a Vera Tzoanou, â detholiad o’r llyfrau y byddant yn ei cyflwyno yn ystod eu hymweliad â Japan.

(Chwith i’r dde) y myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd ar eu ffordd i Yosano, Samantha Schanzer, Marged Smith, Carys Bevan, Giselle Morris a Vera Tzoanou, â detholiad o’r llyfrau y byddant yn ei cyflwyno yn ystod eu hymweliad â Japan.

25 Ionawr 2018

Bydd casgliad o lyfrau plant yn cael eu cyflwyno i gymuned Yosano yn Japan gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ar eu hymweld yn hwyrach yr wythnos hon.

Mae dros 200 o lyfrau plant wedi eu casglu gan Carys Bevan, myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg ag Astudiaethau Theatr a Drama.

Yn wreiddiol o Ogledd Llundain, lansiodd Carys ei apêl am lyfrau ychydig cyn y Nadolig ar ôl iddi gael ei dewis i fod yn rhan o’r ymweliad diwylliannol un ar ddeg diwrnod.

Mae Carys, sydd wrth ei bodd gyda’r ymateb wrth gymdeithasau myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, wedi derbyn cyfraniadau gan ei grŵp girl-guide, y2nd Enfield Brownies, ac Ysbyty Barnet yng Ngogledd Llundain, lle mae’n gweithio fel Cynorthwyydd Fferyllfa yn ystod ei gwyliau.

Mae Carys yn un o bum myfyriwr sy’n teithio i Yosano heddiw, ddydd Iau 25 Ionawr 2018, fel rhan o gysylltiad cyfnewid a sefydlwyd rhwng y dref ac Aberystwyth gan y cyn-garcharor rhyfel, y diweddar Frank Evans.

Lansiwyd yr apêl gan Carys ar ôl iddi siarad â ffrind agos a ymwelodd â Yosana ym mis Ionawr 2017.

“Rydym yn aros gyda theuluoedd yn Yosana a dyma un ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad iddynt”, dywedodd Carys. “Mae’r ymateb i’r apêl wedi bod yn wych ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno’r llyfrau pan gyrhaeddwn ni Yosano. Mae llyfrau Saesneg yn ddrud iawn yn Japan, ac mae’r casgliad sydd gyda ni yn ddelfrydol ar gyfer dysgu Saesneg. Mae rhywbeth at ddant pawb yma, gan gynnwys casgliad cyflawn o’r gyfres comedi Peanuts / Snoopy, sydd yn boblogaidd iawn yno yn ol a glywais.”

Cymaint fu’r ymateb, bydd Carys yn dosbarthu rhai o’r llyfrau a gasglwyd i elusennau yn Aberystwyth a Llundain, ac i ward plant Ysbyty Barnet.

Cyn ei hymweliad â Yosano, cynhaliodd Carys noson gydag aelodau o’i grŵp girl-guide yn Enfield i roi blas iddynt o bethau o Japan.

Gellir darllen am y noson sydd mewn blog y mae Carys wedi’i greu ar gyfer rhannu ei phrofiadau yn ystod ei hymweliad â Yosano.

Yn ymuno â Carys ar yr ymweliad mae Samantha Schanzer myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg, Giselle Morris myfyriwr Ffiseg, Marged Smith sy’n astudio Cymraeg a Hanes, a Vera Tzoanou myfyriwr Seicoleg.

Tua dwy awr i’r gogledd o Kyoto ar arfordir gorllewinol Japan gyda phoblogaeth o tua 24,000, mae’r cysylltiad rhwng Yosano ac Aberystwyth yn dyddio’n ôl i’r 1980au, diolch i waith y cyn-garcharor rhyfel, y diweddar Frank Evans.

Yn wreiddiol o Lanwnnen ger Llambed, cafodd Mr Evans ei ddal ar ôl brwydr Hong Kong yn 1941 a’i garcharu yn Oeymam ger Yosano, lle bu’n gweithio mewn pwll nicel a gweithiau mwyndoddi.   

Yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant Roll Call of Oyeama POW Remembers, fe aeth Mr Evans yn ôl i’r gwersyll yn 1984 a chodi cofeb i’w gyfeillion ar y safle.

Yn y blynyddoedd yn dilyn hynny, ceisiodd gymodi ac adeiladu cyfeillgarwch â’i gyn-garcharorion ac arweiniodd hyn at drefniant cyfnewid rhwng Aberystwyth a Yosano.

Fel llysgenhadon ar ran y Brifysgol a Chymru, bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau diwylliannol, ymweld ag ysgolion lleol a chwrdd â chyngor y dref yn ystod eu harhosiad.

Mae ymweliadau blaenorol wedi gweld myfyrwyr yn dysgu am gelfyddydau traddodiadol Japan o liwio brethyn a gwneud nwdls, ymweld â Kyoto, prifddinas ysbrydol Japan, a dangos eu parch i gofeb ysbrydol Frank Evans yn Yosano.

Mae lle ar y daith yn cael ei gynnig i fyfyrwyr fu’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth ysgrifennu traethawd lle gofynnwyd iddynt i egluro pam y bydden nhw’n gwneud llysgenhadon da i Aberystwyth yn Japan.