Ffilm myfyriwr o Aberystwyth ar restr fer gwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol
Meleri Morgan, cynhyrchydd Dwy Chwaer a Brawd sydd wedi ei henwebu ar gyfer gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am y ffilm Ffeithiol orau.
24 Ionawr 2018
Mae ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.
Mae Dwy Chwaer a Brawd gan Meleri Morgan yn bortread dadlennol o fywyd teuluol mewn pentref gwledig ar gyrion Aberystwyth sy’n cynnwys dwy chwaer a brawd yn eui nawdegau.
Prosiect blwyddyn olaf yw’r ffilm ac mae wedi ei chynnwys ar restr fer y dosbarth Ffeithiol yn y gwobrau sydd yn cael eu cynnal yn Theatr yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, yng Nghaerdydd ddydd Mercher 31 Ionawr 2018.
Graddiodd Meleri mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2017 ac mae nawr yn hyfforddi i fod yn athro ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Meleri: “Mae’r enwebiad ar gyfer gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol wedi fy synnu’n fawr. Pan chi’n gweithio’n galed i orffen darn o waith prifysgol mae’r agwedd greadigol yn gallu diflannu gan eich bod yn canolbwyntio cymaint ar gwblhau’r darn mewn pryd. Ond nawr, wrth edrych yn ôl a gweld ymateb pobl i’r ffilm, mae’n gret ac anodd dod o hyd i’r geiriau i fynegi hyn. Rwy’n falch bod pobl eraill yn mwynhau’r ffilm gymaint ag y gwnes i fwynhau ei gwneud.”
"Crëwyd y ffilm fel rhan o'r modiwl Ffilm Greadigol Annibynnol, ac felly cwblhawyd popeth, o'r gwaith camera i’r golygu yn annibynnol. Dewisais astudio Drama yn Aberystwyth ac yna cefais brofiad o weithio gyda'm tiwtor a’r newyddiadurwr darlledu profiadol Elin Morse, a chymaint fu fy mwynhad o’r profiad fel i mi gynhyrchu fy ffilm fy hunan Dwy Chwaer a Brawd. Mae’r darlithwyr yma yn Aberystwyth wedi bod yn rhagorol, mor gefnogol ac yn gwbl broffesiynol. Maent yn rhoi beirniadaeth glir o'r hyn sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio pan fyddwch yn creu ffilm, a'r hyn y gallwn ddisgwyl ei wynebu yn y diwydiant.
Ychwanegodd: “Aesthetig y ffilm i mi ydy’r tri chymeriad arbennig a hoffus iawn, a dyma oedd fy mhrif ffocws wrth greu dogfen arsylwol. Yn syml, roeddwn yn ceisio dal y tri chymeriad yn eu cynefin. Ni fyddwn wedi llwyddo heb y gefnogaeth a gefais yn ogystal â'r her adeiladol a wynebwn a hynny mewn awyrgylch greadigol. Credaf fod yr her wedi cryfhau’r cyfanwaith a'i fod wedi cyfrannu at lwyddiant y ffilm.”
Eisoes mae Dwy Chwaer a Brawd wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, gan iddi ennill gwobr Ffilm Ryngwladol Orau gan Fyfyriwr yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford, Iwerddon, ym Medi 2017.
Dywedodd Elin Morse, Darlithydd mewn Cynyrchiadau Cyfryngol yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd fel Adran bod gwaith Meleri wedi cael ei gydnabod gydag enwebiad ar gyfer un o wobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol. Mae hyn yn adlewyrchiad o ragoriaeth ei gwaith ac yn dilyn ei llwyddiant haeddiannol yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford.”
Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol newydd lansio gradd newydd mewn creu ffilm.
Datblygwyd y radd BA Creu Ffilm gan y cynhyrchydd ffilm profiadol Huw Penallt Jones sydd wedi cwblhau a chyflwyno dro 200 o ffilmiau dros y 32 mlynedd ddiwethaf.
Mae clodrestr cynyrchiadau Huw yn cynnwys Cold Mountain (2003, Uwch Gynhyrchydd), The Edge of Love (2008) a Patagonia (2010).
Cafodd y rhaglen newydd gyffrous hon ei datblygu er mwyn cwrdd â gofynion y byd ffilm yn y 21ain ganrif ac mae wedi ei hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau dysgu am agweddau ymarferol gwneud ffilm hir.
I ddysgu mwy am wneud ffilm a chyrsiau eraill sydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu dilynwch y ddolen hon.