Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi myfyrwyr
Myfyrwyr o'r Athrofa Busnes a'r Gyfraith yn Llundain ym mis Tachwedd 2017 fel rhan o Hogi’r Meddwl Busnes / Hogi’r Meddwl Cyfreithiol gyda'r Athro Elizabeth Treasure a chydweithwyr o Athrofa Busnes a'r Gyfraith a Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
23 Ionawr 2018
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cael cipolwg gwerthfawr i fywydau gwaith arweinwyr busnes a chyfreithwyr yn Llundain, diolch i gefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr.
Treuliodd y myfyrwyr o'r Athrofa Busnes a'r Gyfraith, ddeuddydd yn Llundain ym mis Tachwedd 2017 fel rhan o Hogi’r Meddwl Busnes / Hogi’r Meddwl Cyfreithiol.
Mae’r cynllun sydd wedi'i ariannu gan raddedigion Prifysgol Aberystwyth, yn dwyn ynghyd raddedigion busnes a’r gyfraith i gynnig cyngor, arweiniad, cipolwg, cyfleoedd rhwydweithio a mentora i fyfyrwyr busnes a’r gyfraith heddiw.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys rhaglen lawn o gyfarfodydd, gan gynnwys ymweliadau â Chorfforaeth Dinas Llundain, cwmni PwC, Linklaters Law a'r Goruchaf Lys.
Meddai Noratiqah Hamdan, myfyriwr y Gyfraith yn y Drydedd flwyddyn: "Roedd yn gyfle gwych i fi fel myfyriwr rhyngwladol weld sut mae'r Goruchaf Lys a'r cwmni cyfreithiol yn gweithredu yma yn y Deyrnas Unedig. Roedd yn agoriad llygad a rhywsut mae wedi newid fy meddwl o ran beth i’w wneud fel gyrfa.
Dywedodd Mary Osoteku sy’n fyfyriwr Busnes: "Roedd yr ymweliad â Llundain wedi f’ysbrydoli. Mwynheais ein trafodaethau craff am Brexit a chlywed safbwyntiau gwahanol o fewn y diwydiant a chyllid yn fawr iawn. Roedd y daith yn gyfle i gael profiad o ganolfan fusnes Llundain, ond hefyd yn ffordd i mi ryngweithio a rhwydweithio gydag arweinwyr busnes. Dw i bellach yn fwy cyfforddus ac yn edrych ymlaen at y prosesau sy'n gysylltiedig â dechrau fy ngyrfa ariannol. Dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o bethau fel hyn, sy’n dal i gyfoethogi fy mhrofiad ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Dewiswyd y myfyrwyr i fynd ar yr ymweliad drwy gystadleuaeth, a oedd yn cynnwys aros mewn gwesty am ddwy noson; ac ariannwyd y cyfan gan gyn-fyfyrwyr a'r Athrofa Busnes a'r Gyfraith.
Meddai'r Athro Jo Crotty, Cyfarwyddwr yr Athrofa: "Mae’n galonogol iawn gweld yr effaith gadarnhaol mae’r digwyddiad wedi’i gael ar y myfyrwyr, a hoffem ddiolch o waelod calon i'n cyn-fyfyrwyr am wneud Hogi’r Meddwl Busnes / Hogi’r Meddwl Cyfreithiol 2017 yn bosib. Rydym yn falch o fod yn cynnig y cyfle hwn i grŵp newydd o fyfyrwyr eto yn 2018.”
Meddai Dr Ola Olusanya, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Alumni yn yr Athrofa Busnes a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Roedd y digwyddiad deuddydd yn llwyddiant mawr, gan ysbrydoli myfyrwyr i anelu'n uchel, gan fagu eu hyder a'u gallu i gredu hynny bod modd cyflawni unrhyw beth wrth iddynt gynllunio eu gyrfa yn y dyfodol."
Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi gallu manteisio ar y cyfoeth o brofiad sydd gan ein cyn-fyfyrwyr yn ystod yr ymweliad hwn. Ein nod yw ysbrydoli ein myfyrwyr i fynd ymlaen i gyflawni pethau gwych, a pha ffordd well o wneud hyn na chyfarfod rhai sydd eisoes wedi profi eu hunain ar y lefelau uchaf. Mae hefyd yn wych gweld ein cyn-fyfyrwyr yn hwyluso Hogi’r Meddwl Busnes / Hogi’r Meddwl Cyfreithiol. Mae eu cyfraniadau, heb os nac oni bai, yn adlewyrchu eu hoffter o Brifysgol Aberystwyth ond hefyd eu parodrwydd i roi help llaw i'r genhedlaeth nesaf o raddedigion Aber.