Cofnod newydd, hir o hinsawdd Affrica’n cefnogi dyddiadau cynnar Allan o Affrica

Drilio ar Lyn Tana – y gwaddod 93 metr o hyd yw un o’r cofnodion hiraf a’r mwyaf cyflawn o hinsawdd dwyrain Affrica.

Drilio ar Lyn Tana – y gwaddod 93 metr o hyd yw un o’r cofnodion hiraf a’r mwyaf cyflawn o hinsawdd dwyrain Affrica.

18 Ionawr 2018

Mae ymchwil newydd yn dangos bod hinsawdd gogledd ddwyrain Affrica wedi ffafrio mudo gan fodau dynol modern cynnar allan o Affrica hyd at 70,000 o flynyddoedd yn gynt na’r hyn a amcangyfriwyd ac a dderbyniwyd yn eang tan yn ddiweddar.

Dan arweiniad yr Athro Henry Lamb o Brifysgol Aberystwyth, mae gwyddonwyr wedi cyhoeddi cofnod hinsoddol 150,000 o flynyddoedd o hyd o Ethiopia.

Mae’r cofnod yn dangos y byddau amgylchiadau amgylcheddol wedi caniatau cynnydd a gwasgaru bodau dynol modern cynnar o Affrica i Asia.

Roedd amcangyfrifon blaenorol ynghylch y symud Allan o Affrica yn seiliedig ar dystiolaeth enetig o wasgaru tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r cofnod newydd sydd wedi’i gasglu gan ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor a St Andrews yn deillio o graidd gwaddod 93 metr o hyd a dyllwyd o wely Llyn Tana yng ngogledd Ethiopia.

Mae Llyn Tana yn agos at safleoedd y ffosiliaid Homo sapien hynaf y gwyddys amdanynt yn nwyrain Affrica, ac at lwybrau gwasgaru tebygol drwy ddyffryn afon Nîl neu dros y Môr Coch.

O’r herwydd, mae’r cofnod creiddiol hwn o newid yn yr hinsawdd yn hynod berthnasol i ddadleuon cyfredol ynghylch dyddiadau’r gwasgaru Allan o Affrica.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddir ddydd Iau 18 Ionawr 2018 yn Scientific Reports, yn manylu ar ddadansoddiadau geocemegol o’r craidd, ynghyd â delweddu geoffisegol ar strwythur y gwaddodion o dan wely’r llyn.

Dyddiwyd y craidd gan ddefnyddio ymoleuedd, techneg sy’n pennu pryd y gwelodd gronyn o dywod olau’r haul ddiwethaf.

Dyddiwyd gwaddodion iau gan ddefnyddio dulliau radiocarbon, sy’n golygu mai dyma’r cofnodion hinsoddol daearol hiraf a’r mwyaf cyflawn o ddwyrain Affrica.

Mae’r cofnod yn dangos cyfnod hir o amodau llaith, yn gyforiog o adnoddau, o tua 130,000 i 90,000 o flynyddoedd yn ôl.

Byddai’r amgylchedd ffafriol hwn wedi galluogi poblogaethau dynol i dyfu ac ehangu i diriogaethau newydd yn Affrica a thu hwnt.

Ers hynny, mae’n debygol bod amodau cras at ei gilydd yn y rhanbarth wedi cyfyngu’r poblogaethau dynol i ambell loches laith ym mynyddoedd Ethiopia.

Dywedodd yr Athro Henry Lamb: “Mae ffosiliau a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dangos bod bodau dynol wedi byw yn gynharach nag a feddyliwyd yn Arabia, Tsieina, De Ddwyrain Asia ac Awstralia, sy’n codi cwestiynau mawr ynghylch y ffigur o 60,000 o flynyddoedd.

“Y consensws sy’n dod i’r amlwg ar sail y damcaniaethau hyn yw ei bod yn debygol bod sawl cyfnod o wasgaru o Affrica i Asia, mor gynnar â 130,000 o flynyddoedd yn ôl.

“Mae’r cofnod hwn o Ethiopia’n cefnogi’r farn honno drwy ddangos bod yr hinsawdd ar y pryd yn ffafriol iawn i gynnydd a lledaeniad bodau dynol o Affrica.”

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Henry Lamb yn ymwneud yn bennaf â newid hinsawdd Cwaternaidd, ac mae’n arbenigo ar gofnodion o waddodion llynnoedd sy’n dangos newid yn yr hinsawdd ac mewn llystyfiant.

Mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar Ddwyrain Affrica, ac yn arbennig felly Ethiopia, gan weithio gyda chydweithwyr o Addis Ababa, St Andrews, Bangor, a Cologne. Mae’n Gyd-gyfarwyddwr ar adnodd sganio creiddiau Itrax XRF.

Yn 2012 roedd yr Athro Lamb yn un o’r tîm a lwyddodd i gynyddu cywirdeb dyddio radiocarbon o 12,000 i 54,000 o flynyddoedd. Roedd y gwaith yn seiliedig ar greiddiau a dyllwyd o Lyn Suigetsu yn Siapan.