Prosiect cymunedol yn chwilio am logo newydd
Aelodau Fforwm Cymunedol Penparcau yn ymarfer gwerthu tocynnau gydag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure wrth iddynt baratoi i redeg Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yng nghwmni cynrychiolwyr o Cynnal y Cardi, Canolfan y Celfyddydau a Phrifysgol Aberystwyth.
17 Ionawr 2018
Mae menter gyffrous rhwng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth a Fforwm Penparcau yn gwahodd syniadau am logo newydd.
Daw APT, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Penparcau Gyda’i Gilydd, â phobl o ardal Penparcau ac aelodau o Fforwm Penparcau at ei gilydd i drefnu rhaglen wythnos o weithgareddau yng Nghanolfan y Celfyddydau ar y cyd gyda staff y Ganolfan yn ystod mis Mehefin 2018.
Lansiwyd APT ym mis Gorffennaf 2017 ac mae’n derbyn cefnogdaeth gan Cynnal y Cardi (sydd yn cael ei weinyddu gan Cyngor Sir Ceredigion) dan gynllun LEADER yng Ngheredigion ac wedi derbyn cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Nod y gystadleuaeth yw gwahodd pobl leol i gynnig syniadau ar gyfer logo a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli’r prosiect, wrth i’r gwaith trefnu gyrraedd ei anterth.
Bydd yr enillydd yn derbyn tocyn anrheg gwerth £30 i’w ddefnyddio yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Dywedodd Alaw Griffiths, Cydlynydd APT: “Does dim un grŵp neu gymdeithas wedi cymryd yr awenau yng Nghanolfan y Celfyddydau am wythnos gyfan erioed o’r blaen. Gan fod APT yn brosiect gwbl unigryw ac yn cynnig cyfleoedd arbennig iawn i drigolion Penparcau, rydym yn awyddus i aelod o’r cyhoedd gael y cyfle i ddylunio logo ar ei gyfer. Dwi’n edrych ymlaen i weld yr holl ddyluniadau ar ddiwedd y mis.”
O ran dyluniad y logo, yr unig amod yw ei fod yn cynnwys y teitl “APT” a’r ddwy frawddeg “Aberystwyth Arts Centre & Penparcau Community Forum Together / Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Fforwm Gymunedol Penparcau gyda’i Gilydd”.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau yw dydd Mercher 31 Ionawr 2018.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bobl o bob oedran a dylid anfon cynigion at Alaw Griffiths alg54@aber.ac.uk gan nodi enw, rhif ffôn, cyfeiriad ebost, cyfeiriad (adref neu ysgol) ac oedran.
Yn ogystal â threfnu wythnos o weithgareddau ym mis Mehefin, mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd cyson i bobl fynychu digwyddiadau yng Nghanolfan y Celfyddydau ac i ddysgu mwy am sut mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg o ddydd i ddydd.
Ar ddydd Mawrth 20 Chwefror bydd y Bartneriaeth yn cynnal Diwrnod Blasu yng Nghanolfan y Celfyddydau, gyda chyfleoedd i brofi ystod eang o weithgareddau gan gynnwys crochenwaith, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol, gweithdy radio, cerddoriaeth & drama
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnig gweithdy gweithgaredd i rieni a phlant bach.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae’r Bartneriaeth yn ei gynnig, dilynwch dudalen APT ar Facebook neu wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.