Dyddiad cau ysgoloriaethau mynediad
Enillwyr Ysgoloriaethau Agored 2017, Jan Zajec, Morgan Lee a Niamh Kerrigan
10 Ionawr 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn atgoffa ymgeiswyr i beidio â cholli allan ar gymorth ariannol posibl ar drothwy’r dyddiad cau ar gyfer eu harholiadau mynediad, sef 18 Ionawr 2018.
Gall Ysgoloriaethau Mynediad fod yn werth hyd at £2,000 y flwyddyn i ddarpar fyfyrwyr, yn ogystal â chynnig diamod.
Caiff y grantiau a’r cynigion eu dyfarnu ar sail canlyniadau dau arholiad 1.5 awr o hyd sy’n cael eu gosod gan y Brifysgol ac sy’n agored ar gyfer unrhyw gynllun gradd israddedig.
Gall ymgeiswyr sefyll yr arholiad naill ai yn y Brifysgol Ddydd Mawrth 30 Ionawr 2018 neu yn ysgol neu goleg y myfyriwr cyhyd â bod Swyddog Arholiadau yn cydsynio.
Dywedodd Swyddog Gwobrau Academaidd y Brifysgol, Kylie Evans: "Rydym yn ymroddedig i feithrin amgylchedd o gyfleoedd cyfartal yma yn Aberystwyth ac mae'n hysgoloriaethau yn fodd o gynorthwyo a gwobrwyo myfyrwyr sydd am lwyddo ym maes addysg uwch.
"Bydden i’n annog ymgeiswyr sydd am astudio gyda ni o fis Medi 2018 ymlaen i gofrestru ar gyfer ein harholiadau Ysgoloriaeth Mynediad a hynny erbyn 18 o Ionawr. Rydyn ni gyd yn gwybod am y costau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau prifysgol ac mae cael cymorth ariannol o’r fath yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn - felly rhowch gynnig arni."
Un a dderbyniodd Ysgoloriaeth Agored ar ol sefyll arholiad Ysgoloriaeth Mynediad yn 2017 yw Niamh Kerrigan o Birmingham, sydd bellach yn astudio Daearyddiaeth yn Aberystwyth.
“Aberystwyth oedd fy newis cyntaf, felly y prif beth a wnaeth fy annog i ymgeisio am yr Ysgoloriaeth Mynediad oedd y cyfle i gael cynnig diamod,” dywedodd Niamh.
“Pan gefais y llythyr yn dweud fy mod wedi cael yr ysgoloriaeth roeddwn yn crio dagrau llawenydd! Roedd fy nheulu yn falch iawn ohonof hefyd. Roedd gwybod fy mod wedi gwneud yn dda yn deimlad braf iawn, a rhoddodd hyn hyder i mi ar gyfer fy arholiadau Safon Uwch. Mae hefyd yn edrych yn dda ar fy CV,” ychwanegodd.
Daw Jan Zajec o Ljublijana, Slovenia, a derbyniodd Ysgoloriaeth Agored yn 2017 ar gyfer dilyn gradd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth.
“Oni bai am yr Ysgoloriaeth, ni fyddwn wedi medru fforddio astudio yn y DU, felly roeddwn yn hapus iawn i’w derbyn,” dywedodd Jan.
“Mae’r cymorth ariannol yn werthfawr iawn, ac mae’n dda bod deiliaid Ysgoloriaeth yn cael byw mewn llety Prifysgol am gyfnod y cwrs. Byddwn yn argymell yn gryf i eraill ymgeisio i gystadleuaeth yr Ysgoloriaeth Mynediad – mae’r broses yn rhwydd ac mae siawns da o lwyddo!” ychwanegodd.
Un arall a sicrhaodd Ysgoloriaeth Mynediad yn 2017 yw Morgan Lee o Cheddington, sydd bellach yn astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth.
“Roedd trefnu sefyll yr arholiadau yn fy ysgol yn hawdd iawn ac roeddwn yn teimlo bod y cwestiynau yn ddigon eang i’m galluogi i wneud yn dda,” dywedodd Morgan.
“Mae’r cyfle i dderbyn cynnig diamod yn werth y straen o sefyll arholiad. Roeddwn yn teimlo mor nerfus wrth afael yr amlen oedd yn cynnwys y canlyniadau, bu bron i mi beidio â’i hagor, ond roeddwn wrth fy modd pan agorais hi. O fewn hanner awr roedd fy holl deulu ledled y wlad wedi clywed y newyddion! Gwnaeth y cynnig diamod dynnu’r pwysau oddi ar fy arholiadau a’m galluogi i ganolbwyntio ar wneud fy ngorau... ac mae’r arian ychwanegol bod amser yn ddefnyddiol,” ychwanegodd.
Mae pob ymgeisydd sy’n llwyddo yn yr arholiad mynediad yn cael cynnig diamod o le yn y Brifysgol, yn ogystal â gwarant o le i fyw mewn un o neuaddau preswyl y Brifysgol trwy gydol eu hamser fel myfyriwr israddedig.
Mae gan y Brifysgol ystod eang o ysgoloriaethau, gwobrau teilyngdod a bwrsariaethau sy’n werth hyd at £ 15,000 y flwyddyn. Am fanylion llawn, gweler ein gwefan. https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/fees-finance/scholarships/.