Ymchwil yn dangos sut mae pyllau rhewllyd ar wyneb rhewlifoedd yr Himalaya yn dylanwadu ar lif y dŵr
Golygfa o ran isaf rhewlif Khumbu sydd wedi ei gorchuddio dan falurion ac sy’n dangos y pyllau a chreigiau iâ sy’n nodwedd o’r wyneb. O ddeutu 500m yw lled y rhewlif yn y man hwn. Llun: Dr Trystram Irvine-Fynn
08 Ionawr 2018
Mae gwyddonwyr wedi datgelu bod llif y dŵr sy'n cynnal isadeiliedd trydan hydro a dyfrhau ym mynyddoedd Nepal ac India yn cael ei reoleiddio gan gannoedd o byllau rhewllyd mawr ar wyneb rhai o rhewlifau uchaf y byd.
Mewn papur yn y cyfnodolyn Geophysical Research Letters, mae tîm o rewlifegwyr dan arweinyddiaeth Prifysgol Aberystwyth wedi dangos bod y pyllau, sy'n ffurfio ar rewlifoedd wedi’u gorchuddio gan falurion yn yr Himalaya, yn rheoli’r graddfa llifo’r dŵr tawdd o rewlifoedd i’r dyffrynoedd islaw.
Mae llawer o’r pyllau yma o faint hyd at bum pwll nofio Olympaidd, eu rôl hydrolegol, ac yn benodol eu gallu i storio dŵr ar wyneb y rhewlif, wedi bod yn ddirgelwch tan nawr.
Yn ôl arweinydd yr astudiaeth, Dr Tristram Irvine-Fynn o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth, gallai rôl y pyllau hyn ddod yn fwy pwysig wrth i hinsawdd y rhanbarth newid.
"Gall rôl hydrolegol pyllau a malurion ddod yn fwy arwyddocaol yn y dyfodol. Drwy ddeall y prosesau hyn, gallwn ni ddod yn fwy hyderus wrth raglweld diogelu cyflenwad dŵr ac ymateb ecosystem yn yr Himalaya," meddai Dr Irvine-Fynn.
Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth: "Mae’r dŵr sydd yn rhedeg oddi ar y rhewlifoedd yn ffynhonnell bwysig o ddŵr glân ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth a chynlluniau trydan hydro. Mae dŵr sy'n llifo o ddalgylchoedd rhewlifol ym mynyddoedd uchel Asia yn adnodd dŵr allweddol i’r bobl sydd yn byw yno, ac yn dylanwadu ar y cyflenwad dŵr sydd yn cyrraedd yr iseldiroedd yn oygstal.”
Drwy weithio gyda Chanolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth, mae Dr Irvine-Fynn wedi datgelu swyddogaeth hydrolegol pyllau ar wyneb Rhewlif Khumbu yn rhanbarth Everest o Nepal.
Bu’r tîm yn monitro'r llif dŵr tawdd oddi ar Rhewlif Khumbu am bron i 200 diwrnod yn ystod tymor monsŵn yr haf.
Dangosodd mesuriadau dwysedd uchel o lif y dŵr ddau batrwm annisgwyl: yn gyntaf doedd y cyfeintiau dŵr a ryddhawyd gan y rhewlif ddim yn gydnaws gyda faint o haul a welwyd a’r newid dyddiol mewn tymheredd, ac yn ail, nid oedd llif y dŵr yn gostwng yn gyson wedi’r uchafbwynt.
Esboniodd Dr Irvine-Fynn: "Roedd patrwm gostyngiad llif y dŵr yn ddiddorol iawn ac nid yn ymddangos fel petai’n cyfateb i'r patrymau a adroddwyd arnynt ar rewlifoedd rhew glân yr Alpau neu Svalbard yn y Cylch Arctig.”
Yn ôl y gwyddonwyr, yr hyn sy’n esbonio bod patrwm llif y dŵr yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl yw’r pyllau ar malurion, sydd yn arafu’r raddfa mae dŵr tawdd yn cael ei drosglwyddo ar draws wyneb y rhewlif.
"Dydw i erioed wedi gweld y math hwn o ymddygiad yn yr holl afonydd cyfrewlifol rwyf wedi eu monitro yn fy ngyrfa broffesiynol 25 mlynedd, roedd yn eithriadol o ddiddorol ac yn dangos faint o wahaniaeth mae gorchudd o falurion yn ei wneud,” meddai Dr Philip Porter o Brifysgol Hertfordshire, prif gyd-awdur yr erthygl.
Dehongliad awduron yr astudiaeth yw bod patrwm diddorol gostyngiad llif y dŵr yn cael ei achosi gan y pyllau ar wyneb y rhewlif sydd yn arafu llif y dŵr tawdd tuag at ymyl y rhewlif - ymddygiad hydrolegol sy'n cyfateb i'r hyn a welir mewn cyfres o gronfeydd dŵr.
"Mae'r pyllau yn gallu dal y glawiad monsŵn cyfartalog bob dydd, ac felly cyfeintiau storio’r pyllau, a'r cysylltiadau rhwng y pyllau a thrwy'r malurion a fydd yn rheoli cyfraddau llif y dŵr," meddai Dr Irvine-Fynn.
Mae rhewlifoedd sydd wedi'u gorchuddio â malurion yn yr Himalaya yn uchel i fyny, lle mae tymheredd yr awyr yn oer am ran helaeth o’r flwyddyn. Mae'r hinsawdd rewllyd hon yn ychwanegu cymhlethdod at y broses a nodwyd gan dîm Dr Irvine-Fynn.
"Mae’n bwysig cydnabod bod llawer o'r rhewlifoedd sydd wedi'u gorchuddio â malurion yn yr Himalaya yn uchel i fyny lle mae’r cyfartaledd tymheredd blynyddol is-law pwynt rhewi. Gall yr haenen falurion fod wedi rhewi am ran o’r flwyddyn, ac yn dadlaith yn ystod tymor y monsŵn. Bydd y broses dadlaith hon yn newid y cysylltiadau rhwng y pyllau. Felly, mae'n ddiddorol iawn dechrau ystyried sut mae rhewlifoedd yr Himalaya, sydd wedi eu gorchuddio â malurion yn yr un modd â gwaddodion bras mewn rhanbarthau rhew parhaol megis gogledd Canada, yn ymddwyn”, meddai Dr Irvine-Fynn.
Yn ddiweddar, mae cyhoeddiadau gwyddonol wedi adrodd bod digonedd o byllau ar rewlifoedd sydd wedi’u gorchuddio â gwaddodion ar draws mynyddoedd uchel Asia.
Rhagwelir hefyd y bydd ehangder yr ardaloedd rhewlifol sydd wedi eu gorchuddio â malurion a'r pyllau cysylltiedig yn cynyddu wrth i hinsawdd yr ardal newid.
Ariannwyd y prosiect gan grantiau y Gymdeithas Frenhinol a’r Gymdeithas Geomorffoleg Brydeinig a ddyfarnwyd i gyn-wyddonwyr o Ganolfan Rewlifeg Aberystwyth; Dr Ann Rowan a Dr Duncan Quincey, sydd bellach ym Mhrifysgolion Sheffield a Leeds.
Cafwyd cyfraniadau hefyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Hertfordshire a Sheffield Hallam.
Cyhoeddwyd Supraglacial Ponds Regulate Runoff From Himalayan Debris-Covered Glaciers yng nghyfnodolyn yr AGU, Geophysical Research Letters.