Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Gŵyl y Gyfraith a Throseddeg
05 Ionawr 2018
Goblygiadau cyfreithiol ceir di-yrrwr ac a ydy plant mor ifanc â 10 oed yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng ymddygiad ‘troseddol’ a ‘drwg’, dyna fydd dwy o’r themâu fydd yn cael eu trafod yng Ngŵyl y Gyfraith a Throseddeg gyntaf Prifysgol Aberystwyth.
Trefnir yr Ŵyl ddiwrnod gan staff Ysgol y Gyfraith Aberystwyth ac fe'i cynhelir yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 10yb a 5yh ddydd Gwener 19 Ionawr 2018.
Ymysg y pynciau eraill ar yr agenda bydd cam-drin yr henoed, statws cyfansoddiadol Cymru, gwleidyddiaeth Addysg Uwch, a sut gall cyfreithwyr fod yn feirdd a cherddorion.
Mae’r diwrnod wedi ei ddisgrifio fel "celf ar y gweill", llawn cyflwyniadau a sgyrsiau difrifol, hwyliog, dadleuol, ysbrydoledig ac anghyffredin, cyfraniadau cerddorol a barddol a “digwyddiadau” eraill, a thaith ddiddorol drwy hanes yr Adran.
Daw rhaglen y bore i fwcwl gyda ‘Dywedwch wrthym rywbeth nad ydym eisoes yn ei wybod am y Gyfraith a Throseddeg’, sioe banel gan fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Aberystwyth.
Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
“Dathliad yw’r Ŵyl o bobl a gwaith y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth - y gorffennol, presennol a'r dyfodol”, meddai'r trefnydd Dr Uta Kohl, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth.
"Rydym wrth ein bodd bod yr Arglwydd Elystan Morgan, Dafydd Llywelyn Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys a Throseddu, yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood, Paul Rowland o Wales Online ac un o gyfeillion hir-dymor yr adran Dr Tim Brain, cyn Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw yn ymuno â chydweithwyr o'r Adran am ddiwrnod llawn amrywiaeth a ddylai fod yn addysgiadol ac yn ddifyr, ac yn cynnig rhywbeth o ddiddordeb i bawb, boed yn fyfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr neu aelodau o’r gymuned leol; mae croeso i bawb."
Yn ei anerchiad, bydd yr Arglwydd Elystan Morgan, sydd yn raddedig yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi, yn gofyn a’i statws Dominiwn a ddylai fod i Gymru yn y dyfodol.
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, darlithydd yn yr Adran tan ei ethol ym mis Mai 2016, yn trafod troseddeg a phlant mewn cyfweliad gyda’r ddarlithwraig mewn troseddeg Dr Kathy Hampson.
Bydd sesiwn y prynhawn yn agor gyda Paul Rowland, golygydd WalesOnline a golygydd-bennaeth Media Wales, yn trafod gwleidyddiaeth Addysg Uwch gyda Mark Isherwood, yr Aelod Cynulliad Rhanbarthol Torïaidd a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aber.
Ac yna, yn sesiwn olaf ond un y prynhawn, bydd cyn Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw, Dr Tim Brain, a raddiodd yn y gyfraith o Aberystwyth, yn trafod y syniad o heddlua cydsyniol yn ei sgwrs 'Policing by Consent - Myth and Reality'.
Sefydlwyd Adran y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, y gyntaf yng Nghymru, yn 1901.
Gŵyl y Gyfraith a Throseddeg: Rhaglen y dydd
Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfydyddau Aberystwyth
Y Bore 10yb – 1yp
10:00yb Yr Athro Philip Rawlings yn cyfweld â Richard Ireland ‘Goodbye to all that – Reflections on the History of the Aberystwyth Law School’
Taith ddifyr drwy hanes yr Adran(nau) a fydd yn gofyn “Pam codi Ysgol Gyfraith mor bell o’r llysoedd cyfreithiol?” a “Beth oeddem yn feddwl o gyfrifiaduron yn y 1980au?”. Datgelir eitemau gwalltog o’r archif gan gynnwys wig a’r coiffures a ymddangosodd yn fideo gyntaf yr Adran.
10:30yb Sarah Wydall, yr Athro John Williams a’r Athro Alan Clarke – ‘Taking on Elder Abuse’
‘Cyflwyniad i Dewis Choice: prosiect cymunedol sydd yn taclo trais yn y cartref a straen oddi wrth ofalwyr ymysg pobl hŷn yng Nghymru.
Helen Holt – troseddegydd a llais gwych
11:00yb Yr Arglwydd Elystan Morgan – ‘The Future of Wales – a Dominion?’
11:30yb Yr Athro Chris Harding – ‘Creative Talent – Law, Song and Dance, and the Alabama 3’
Barddoniaeth a cherddoriaeth, y Gyfraith a Throseddeg. Sut gall cyfreithwyr fod yn feirdd a cherddorion: arddangosiad ymarferol a stori Larry Love, Alabama 3, ‘Woke up this morning, got myself a gun’, a bod yn fyfyriwr y Gyfraith yn Aberystwythyn yr 1980au.
Yr Athro Melanie Williams – ‘Poetry, Playwriting, John van Druten, and the Law and Literature Tradition’
Y Gyfraith a llenyddiaeth, iaith greadigol a dadl. Cerdd ar gyfer ein cyfnod ni, a hanes John van Druten – o’r gyfraith, i theatr, i ffilm, a bod yn ddarlithydd yn y gyfraith yn Aberystwyth yn y 1920au.
Dr Catrin Huws – ‘The Cream Coloured Clock by the Bed by the Door’
12:00yp Dr Kathy Hampson - ‘Keeping Kids out of Trouble’ mewn trafodaeth gyda Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn
12:30yp ‘Tell us something we don’t already know about Law and Criminology’ – Sioe banel wedi’i threfnu gan ein myfyrwyr.
Y Prynhawn 2yp – 5yp
2:00yp Paul Rowland mewn trafodaeth gyda Mark Isherwood, cyn-fyfyriwr ac Aelod Cynulliad Cymru: ‘The Politics of HE’
2:30yp ‘The Trial of the Three Little Pigs’ Cyfarwyddwr Artistig Myfyrwyr Israddedig: Jan Holloway
3:00yp yr Athro Diane Rowland a Dr Uta Kohl - ‘Regulating the Geeks or are the Geeks regulating Us’
Ai’r technegwyr sy’n ein rheoli ni, ac a’i Silicon Valley sy’n gyfrifol? Beth yw goblygiadau ceir heb yrwyr, rhyngrwyd nad yw’n niwtral, deallusrwydd artifisial a data mawr? Ac a allwn ymddiried yn Facebook i fod ar ein hochr ni a beth bynnag, beth yw ein hochr ni?
Dr Kathy Hampson ar y cello
3:45yp Dr Olaoluwa Olusanya - Ffilm am gyn-filwyr
4:00yp Dr Tim Brian cyn Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw - 'Policing by Consent - Myth and Reality'
4:30yp Dr Lloyd Roderick, William Hines a Richard Ireland – ‘Night at the Library’
Dilynwch Bill, Lloyd a Richard o amgylch Pisa’r bympthegfed ganrif, eiconoclastiaeth y Rhyfel Cartref, teulu Shelley, y fynwent Brotestannaidd yn Rhufain, rhai ffosilau Ffrengig hynafol a’r Ddeddf Diwygio Mawr.