Trafod manylion gradd milfeddygaeth ar y cyd yn Aberystwyth
Chwith i’r dde: Yn y llun ar ôl y cyfarfod ymgynghori mae'r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth; Yr Athro Will Haresign, Canolfannau Gwyddoniaeth Milfeddygol Cymru; Dr Robert Abayasekara, RVC; Kate Sullivan, Milfeddygon Ystwyth; Hazel Wright, Undeb Amaethwyr Cymru; Les Eckford, Cymdeithas Milfeddygol Prydain; Phil Thomas, Iechyd Da; Dr Mike Rose, IBERS.
19 Rhagfyr 2017
Cafodd cynlluniau i ddod â hyfforddiant meddygaeth filfeddygol i Aberystwyth eu trafod mewn cyfarfod bord gron arbennig gyda chynrychiolwyr o'r sector milfeddygol ac iechyd anifeiliaid yng Nghymru.
Clywodd y cyfarfod ymgynghori sut mae Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol yr RVC yn Llundain yn cydweithio ar gynigion ar gyfer gradd BvetMed ar y cyd.
Ymhlith y sefydliadau a gynrychiolwyd yn y digwyddiad roedd Cymdeithas Milfeddygol Prydain, consortiwm milfeddygon annibynnol Iechyd Da, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Undeb Amaethwyr Cymru, Canolfan Wyddoniaeth Filfeddygol Cymru, Cymdeithas Milfeddygol Moch, Cymdeithas Milfeddygol Defaid, Cymdeithas Ceffylau Prydain, Cyswllt Ffermio, yr RSPCA ac eraill.
Wrth agor y cyfarfod, dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni gyd yn cytuno fel academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant fod angen darpariaeth hyfforddiant milfeddygol o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae'r economi wledig yn dibynnu'n fawr ar gynhyrchu anifeiliaid ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfleoedd hyfforddi milfeddygon yng Nghymru.
“Mewn ymateb i'r angen hwn, mae cynrychiolwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a'r RVC yn trafod manylion darparu gradd BVetMed ar y cyd a byddwn yn parhau i fireinio ein cynigion dros y misoedd nesaf. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'r diwydiant yng Nghymru a’r llywodraeth wrth inni weithio tuag at wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol.”
Rhoddwyd gwybodaeth bellach i'r cyfarfod ynghylch sut y byddai'r cynllun ar gyfer gradd ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a'r RVC yn gweithio.
Eglurodd Dr Robert Abayasekara, sy'n cadeirio Pwyllgor Ansawdd Dysgu'r RVC, y byddai myfyrwyr yn treulio'r ddwy flynedd gyntaf yn IBERS Prifysgol Aberystwyth cyn trosglwyddo i Gampws Hawkshead yr RVC am dair blynedd.
Yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn, byddai myfyrwyr ar y radd BVetMed ar y cyd yn dychwelyd i Gymru i dreulio cyfnod penodol ar leoliadau allanol.
“Mae cytundeb cyffredinol ar yr angen am hyfforddiant meddygaeth filfeddygol yng Nghymru, ond mae costau sefydlu ysgol filfeddyg newydd sbon yn agos at £50m. Mae'r bartneriaeth arfaethedig hon rhwng yr RVC a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnig ateb i'r angen i sicrhau cyflenwad o filfeddygon yng Nghymru,” meddai Dr Abayasekara.
“Mae yna debygrwydd rhwng y ddau sefydliad. Yr RVC yw'r ysgol filfeddygol hynaf yn y byd Saesneg ei hiaith. Mae gan Aberystwyth draddodiad o gyflwyno cyrsiau gydag elfen iechyd anifeiliaid sylweddol ac eisoes yn cynnig saith rhaglen BSc yn yr ardal hon. Gallwn weithio gyda'n gilydd i helpu i lunio atebion i'r problemau recriwtio sy'n wynebu milfeddygon, yn enwedig ym maes iechyd anifeiliaid mawr.”
Mae gwybodaeth bellach am gyrsiau iechyd anifeiliaid yn IBERS i’w cael arlein.