Ateb gwyddonol i atal sgriniau ffonau clyfar rhag chwalu?
Yr Athro Neville Greaves (dde) yn trafod canlyniadau gwydr tawdd yn labordy Fynhonnell Olau Uwch ym Mhrifysgol Berkeley, California.
08 Rhagfyr 2017
Diolch i ddarganfyddiad newydd gan ymchwilwyr mewn prifysgolion, mae’n bosib na fydd chwalu sgrin eich ffôn clyfar yn broblem byth eto.
Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Genedlaethol Awstralia, Institut de Physique du Globe ym Mharis, a Phrifysgol Orléans yn Ffrainc wedi bod wrthi’n astudio adeiledd gwahanol fathau o wydr newydd ar lefel atomig a sut maent yn llifo pan fyddant wedi toddi ar dymheredd o fwy na 2000 gradd.
Cyhoeddwyd y canlyniadau yn Scientific Reports, sy’n cael ei gyhoeddi gan Nature.
Maent wedi bod yn canolbwyntio’n benodol ar fathau o wydr alwmino-silicad sy’n cael eu defnyddio mewn ystod o wahanol brosesau diwydiannol, gan gynnwys gwneud sgriniau i declynnau llaw.
Mae’r Athro Neville Greaves o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn rhan o’r tîm sy’n gweithio i wella gallu’r mathau hyn o wydr i wrthsefyll hollti a chyrydu.
“Mae pawb yn gwybod pa mor rhwystredig yw hi pan fyddwch chi’n gollwng eich teclyn symudol, a’r sgrin yn hollti, a hefyd am y marciau sy’n ymddangos os yw’n gwlychu,” meddai’r Athro Greaves.
“Gyda’n gwybodaeth newydd, fe ddylai’r diwydiant allu newid adeiledd y gwydr fel y bydd y mân sianeli sydd ynddo, ac wedi eu darganfod gennym ni, yn atal craciau nanometrig rhag datblygu, er mwyn helpu sgrin eich ffôn i wrthsefyll hollti a chyrydu. Mae’r syniad yn eithaf tebyg i atal hollt mewn llen fetel rhag lledu ymhellach drwy ddrilio twll ym mhen yr hollt.”
Yn rhan o’r prosiect ymchwil, toddwyd mathau o wydr ar dymereddau o dros 2,000 gradd ac efelychwyd eu hadeiledd gan gyfrifiadau cyfrifiadurol anferth, gan alluogi gwyddonwyr i weld eu hadeiledd moleciwlaidd, union leoliadau’r gwahanol atomau, a sut mae’r gywdr tawdd yn llifo.
Ymhlith y posibiliadau eraill y mae eu gwaith ymchwil yn eu cynnig mae mathau o wydr sy’n hynod wydn a allai ddal radioniwclidau yn gaeth ac a all felly gael eu defnyddio i gadw gwastraff niwclear yn ddiogel am gyfnodau hir.
Gall y gwaith ymchwil i wydrau tawdd hefyd arwain at well modelu ar weithgarwch llosgfynyddol megis Mynydd Agung yn Bali, yn ogystal â modelu ffurfiad gwreiddiol y Ddaear a’i hwyneb.
Dyma’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect: yr Athro Neville Greaves, Wenlin Chen a Zhongfu Zhou o Brifysgol Aberystwyth; Charles LeLosq o Brifysgol Genedlaethol Awstralia; Daniel Neuville o Institut de Physique du Globe, Paris, Ffrainc; a Pierre Florian a Dominique Massiot o’r Ganolfan Deunyddiau ac Amodau Eithriadol ym Mhrifysgol Orléans yn Ffrainc.
Maent wedi cyhoeddi eu darganfyddiadau diweddaraf yn Scientific Reports – sef cyfnodolyn ar-lein agored gan gyhoeddwyr Nature.
Mae’r tîm hefyd yn cydweithio â byd diwydiant, gan gynnwys cwmni Corning yn yr Unol Daleithiau a’r Prif Labordy Gwladol Deunyddiau Silicad ar gyfer Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Dechnoleg Wuhan.