National Theatre Wales yn troi at arbenigedd Prifysgol Aberystwyth
Bydd Mike Brookes (chwith), Cymrawd Ymchwil Creadigol, a Mike Pearson, Athro Emeritws Astudiaethau Perfformiad yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn agor y tymor 2018 NTW gyda Storm.1: Nothing Remains The Same.
05 Rhagfyr 2017
Mi fydd gweithiau gan unigolion amlwg ym myd y theatr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan amlwg o dymor newydd 2018 National Theatre Wales (NTW), sydd newydd ei chyhoeddi.
Thema’r tymor newydd fydd Pobl & Llefydd, a bydd gweithiau yn cael eu llwyfannu ledled Cymru ac ar lein mewn rhaglen a ddisgrifiwyd fel un "arbrofol, wleidyddol, amrywiol ac ysgogol".
Hon hefyd fydd rhaglen waith lawn gyntaf Cyfarwyddwr Artistig NTW, Kully Thairai, sydd wedi troi at dri aelod o staff yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth.
Bydd Mike Brookes, Cymrawd Ymchwil Creadigol yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a Mike Pearson, Athro Emeritws Astudiaethau Perfformiad yn yr Adran yn agor tymor newydd NTW gyda dau waith mawr.
Caiff Storm.1: Nothing Remains The Same ei llwyfannu ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion ym mis Chwefror 2018, a Storm 2: Things Come Apart i ddilyn yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2018.
Dyma'r ddau brosiect cyntaf mewn cylch o chwe chynhyrchiad gan Pearson a Brookes ar gyfer NTW.
Mae gweithiau aml gyfrwng diweddaraf y ddau, gafodd glod mawr am eu cynyrchiadau o The Persians (2010), Coriolan/us (2012) a Iliad (2015), yn ymdrin â dwy thema greiddiol: y gwirionedd a thystiolaeth.
Byddant hefyd yn gorffen yn 2020 gyda chreu cynhyrchiad mawr, newydd, ar raddfa fawr ar gyfer rhaglen 10fed pen-blwydd NTW.
Bydd cynhyrchiad NTW o English, ar y cyd â Quarantine o Fanceinion, yn cael ei ddylunio gan y Darllenydd mewn Senograffyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, Simon Banham.
Sefydlwyd Quarantine gan Banham a'r cyfarwyddwyr Richard Gregory a Renny O'Shea ym 1998.
Caiff English ei lwyfannu yng Nghaerdydd ym Mehefin 2018 fel rhan o Ŵyl y Llais 2018.
Bydd yn edrych ar syniadau sy'n ymwneud ag iaith, ymfudo a hunaniaeth, sut rydym yn dysgu siarad a gwrando.
Gweithiodd Banham fel dylunydd gyda Pearson a Brookes ar gynhyrchiad 2010 NTW The Persians, gwaith a enillodd wobr 'Dylunio Gorau Cymdeithas Rheoli Theatr 2010' iddo ef a Brookes.
Yn 2015 penodwyd Banham yn Gomisiynydd ar gyfer adran y Tywydd yn Arddangosfa Ryngwladol Dylunio Perfformiad Quadrennial Prague.
Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gan National Theatre Cymru enw da yn rhyngwladol am ei chynyrchiadau heriol ar raddfa fawr ac rydym wrth ein bodd bod cydweithwyr o'r Adran wedi cael gwahoddiad i wneud y fath gyfraniadau sylweddol i'w raglen ar gyfer 2018.
“Rydym yn ymfalchïo'n fawr yng ngallu ein staff i gynnal ymchwil blaengar sy'n llywio dysgu myfyrwyr ac yn meithrin profiadau a mewnwelediadau cyffrous i’n myfyrwyr. Mae gweld ein staff yn gwneud cyfraniadau enfawr i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt yn ysbrydoliaeth, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â'u gwaith ymchwil arloesol.”
Mae National Theatre Wales wedi bod yn llwyfannu cynyrchiadau Saesneg ledled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers ei sefydlu yn 2010.