Myfyrwraig ar banel dyfarnu gwobr llyfr plant
(Chwith i'r Dde) Joanna Jeffrey, darlithydd mewn Addysg Prifysgol Aberystwyth; Sarah Gwenlan, llyfrgellydd addysg Prifysgol Aberystwyth; Samantha Attfield, myfyriwr, a Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru
30 Tachwedd 2017
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar y panel beirniadu ar gyfer un o brif wobrau llyfrau plant yng Nghymru.
Bydd Samantha Attfield, sy’n dilyn cwrs Astudiaethau Plentyndod, yn ymuno â phanel y beirniaid ar gyfer Gwobr Tir na n-Og Saesneg 2018, sy’n cael ei threfnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Samantha Attfield, sy'n hanu o Swydd Gaerlŷr: "Mae cael fy newid i fod yn un o’r beirniaid ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og yn anrhydedd fawr. Rwyf wrth fy modd cael bod yn rhan o broses mor ddifyr, ac ni allaf aros nes dechrau darllen yr holl lyfrau anhygoel sydd o dan ystyriaeth."
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn cynnal cystadleuaeth ers 2014 yn rhoi cyfle i fod ar y panel i israddedigion ail-flwyddyn sy'n astudio modiwl Llythrennedd mewn Plant Ifanc yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth.
Fel rhan o'r gystadleuaeth, gofynnwyd i'r myfyrwyr ysgrifennu adolygiad o lyfr plant ynghyd â datganiad yn amlinellu pam y bydden nhw’n aelod addas o’r panel.
Cydlynwyd y gystadleuaeth gan Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, gyda Llyfrgellydd Addysg y Brifysgol, Sarah Gwenlan, yn gweithredu fel dyfarnwr annibynnol.
Wrth siarad ar ôl i Samantha Attfield gael ei dewis fel cynrychiolydd y Brifysgol ar y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Saesneg Tir na n-Og, dywedodd Helen Jones: "Mae'n wych o beth ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwerthfawr fel hyn i fyfyrwyr y Brifysgol. Dwi'n mawr obeithio y gallwn gydweithio ar brosiectau eraill yn y dyfodol agos er mwyn hybu darllen er pleser ymhlith plant a phobl ifanc.”
Dywedodd Joanna Jeffery, sy’n ddarlithydd yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr weithio gyda sefydliad cenedlaethol ar wobr mor uchel ei bri. Rwyf hefyd yn hynod genfigennus - mae'r dewis o lyfrau eleni yn anhygoel!"
Bydd y panel beirniadu yn cwrdd ddechrau 2018 ac fe fydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth ym mis Mehefin.