Yr Wcráin yn cofio cyn-fyfyrwyr Aberystwyth
Andriy Marchenko, Gweinidog-Gwnsler Llysgenhadaeth yr Wcráin yn Llundain (ail o'r dde) ac Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth (canol), yn y seremoni i osod torch er cof am gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, Gareth Jones, a ddatgelodd newyn yr Wcráin ym 1932-33.
23 Tachwedd 2017
Mae Dirprwy Llysgennad yr Wcráin i'r DU wedi gosod torch er cof am gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, Gareth Jones, a ddatgelodd newyn yr Wcráin ym 1932-33.
Teithiodd y Gweinidog-Gwnsler Andriy Marchenko i Aberystwyth ddydd Iau 23 Tachwedd ar gyfer seremoni i osod torch yn Hen Goleg y Brifysgol.
Roedd dirprwyaeth Llysgenhadaeth yr Wcráin yn Llundain eisiau anrhydeddu Gareth Jones a nodi 85 mlwyddiant yr Holodomor, y Newyn Mawr a laddodd rhwng 7-10 miliwn o bobl yn y wlad.
Gareth Jones oedd un o'r newyddiadurwyr cyntaf i ddatgelu polisi bwriadol Stalin o achosi newyn ac fe'i hystyrir yn arwr yn yr Wcráin.
Yn ei anerchiad yn yr Hen Goleg, dywedodd Mr Andriy Marchenko: “Bydd coffáu 85 mlwyddiant yr Holodomor, y Newyn Mawr yn yr Wcrain yn 1932-1933 yn cychwyn yn swyddogol eleni ar 25 Tachwedd. Heddiw, rydym yn talu teyrnged i'r newyddiadurwr dewr Cymreig, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Gareth Jones. Er gwaethaf y peryglon i'w fywyd, chwaraeodd ran arwyddocaol wrth ddatgelu trosedd newyn yr Holodomor i weddill y byd a bu rhaid iddo frwydro dros y gwirionedd ar yr adeg pan yr oedd llawer yn ei wrthod yn gyhoeddus.
“Heddiw, mae 17 o wledydd gan gynnwys Canada a'r Unol Daleithiau, wedi cydnabod yr Holodomor yn yr Wcráin fel hil-laddiad. Ein dyletswydd gysegredig i’r miliynau o ddioddefwyr yr Holodomor a’r gŵr dewr Gareth Jones yw eu cofio ac adrodd eu hanes i’r byd fel un o’r tudalennau mwyaf trasig yn hanes yr ugeinfed ganrif.”
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Roedd Gareth Jones yn ieithydd dawnus a dyn o egwyddor a gyflawnodd lawer yn ei fywyd byr. Braint i ni yw cael ei gydnabod fel myfyriwr o'r Brifysgol hon ac rydym yn anrhydeddu ei ddewrder wrth siarad yn uchel am y polisïau a arweiniodd at farwolaethau miliynau o bobl gyffredin yn yr Wcráin.”
Daeth staff, myfyrwyr presennol, aelodau Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Aberystwyth a chynrychiolwyr o’r gymuned leol at ei gilydd yn yr Hen Goleg ar gyfer y gwasanaeth coffa dan arweiniad dirprwyaeth Llysgenhadaeth yr Wcráin a gosodwyd torchau er cof am Gareth Jones.
Yno hefyd oedd gor-nai Gareth Jones, Nigel Colley, a ymunodd â’r Brifysgol a’r ddirprwyiaeth o’r Wcráin i osod torch er cof am Gareth Jones islaw’r gofeb iddo sydd wedi ei gosod yng Nghwad yr Hen Goleg.
Dywedodd Nigel Colley: “Yn ein hoes o ‘Newyddion Ffug’, mae adroddiadau rhagorol Gareth Jones o Newyn 1933 i’r byd, yn enghreifftiau gwych o newyddiaduraeth ddifuant, rhwybeth sydd yr un mor bwysig nawr ag yr oedd nol yn 1933.”
Dangoswyd detholiad byr o'r ffilm nodwedd 'Bitter Harvest', a osodwyd yn yr Wcráin yn y 1930au, yn y digwyddiad hefyd.
Yn enedigol o’r Barri, enillodd Gareth Jones Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth ym 1926 cyn mynd ymlaen i raddio mewn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg o Goleg y Drindod, Caergrawnt, ym 1929.
Yn 1930, cafodd ei benodi'n gynghorydd materion tramor i'r cyn Brif Weinidog a'r cyd-Gymro David Lloyd George.
Teithiodd Gareth Jones yn eang ac yn ystod ei ymweliadau â'r hen Undeb Sofietaidd, treuliodd ddau fis yn yr Wcráin lle y gwelodd antheithiau’r newyn ei hun.
Ysgrifennodd erthyglau am y newyn ar gyfer cyfres o bapurau newydd, gan gynnwys The Times, The Manchester Guardian a'r Western Mail, ond roedd amheuon mawr gan rai am ei adroddiadau.
Cafodd Gareth Jones ei ladd gan ryfelwyr ar noson cyn ei ben-blwydd yn 30 oed, tra’n adrodd ar feddiannaeth Siapan o Fongolia Fewnol ym 1935.
Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro Swyddfa Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth, Katerina Stivasari-Jones: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth fwy na 60,000 o gyn-fyfyrwyr ledled y byd sydd oll yn cyfrannu at y byd yr ydym yn byw ynddo. Wrth i ni goffáu Gareth Jones, rydym yn cymeradwyo yr hyn a gyflawnodd fel newyddiadurwr, ei enw da a’i ymroddiad i'w broffesiwn. Mae'n parhau’n enghraifft wych i ni i gyd heddiw.”
Bu’r ddirprwyaeth o’r Wcráin hefyd yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’i hymweliad i Aberystwyth.