Cyn-heddwas yn ymuno â phrosiect cam-drin yr henoed
Yn y llun (chwith i’r dde) mae’r Athro Alan Clarke, Cyd-Brif Ymchwilydd; Sarah Wydall, Uwch Gymrawd Ymchwil a Chyd-Brif Ymchwilydd; Lynn Rees, Gweithiwr Cefnogi Dewis/Choice yn Sir Gaerfyrddin; a’r Athro John Williams, Cyd-Brif Ymchwilydd ar brosiect Dewis/Choice.
22 Tachwedd 2017
Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gam-drin yr henoed wedi penodi gweithiwr cefnogi newydd i Sir Gaerfyrddin.
Mae’r cyn-heddwas gyda Heddlu Dyfed-Powys, Lynn Rees wedi ymuno â phrosiect Dewis/Choice yng Nghanolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth.
Ariennir Dewis/Choice gan y Loteri Genedlaethol ac mae’n archwilio cyfleoedd lles a chyfiawnder, gan gynnwys ymagweddau sifil, troseddol a theuluol ar gyfer pobl hŷn sydd wedi ei cam-drin.
Mae ymchwil gan y prosiect wedi dangos yr anawsterau sylweddol y mae dioddefwyr hŷn yn eu hwynebu wrth geisio gwasanaethau cam-drin domestig a chyfiawnder.
Fel cyn-heddwas mae gan Lynn flynyddoedd o brofiad o weithio ym meysydd cam-drin domestig a diogelu ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid Dewis/Choice yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ei rôl fel Gweithiwr Cefnogi, bydd Lynn yn gweithio gyda phobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin sy’n dioddef cam-drin gan aelodau o’r teulu.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Lynn: “Mae hwn yn brosiect cyffrous sy’n mynd i’r afael â’r broblem o gamdrin pobl hŷn, sydd yn aml wedi ei chuddio mewn lleoliadau domestig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.
Dywedodd yr Athro Alan Clarke o brosiect Dewis: “Rydym yn falch iawn o groesawu Lynn i Brosiect Dewis/Choice. Mae codi ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn elfen allweddol o’r prosiect a bydd Lynn, yn ystod y misoedd nesaf yn gweithio gyda phobl hŷn y gymuned ac yn casglu tystiolaeth o astudiaethau achos er mwyn llywio canfyddiadau’r dyfodol ag argymhellion polisi. Drwy benodi Lynn, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n sefydliadau partner yn Sir Gaerfyrddin.”
Mae prosiect Dewis/Choice hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Age Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r De, Hafan Cymru a Chymorth i Ferched Cymru.
Ym mis Ionawr 2017, lansiwyd yr ymgyrch yng Nghaerdydd gyda phenodiad Carmel Boston, ymgynghorydd profiadol mewn Trais Domestig a Thrais Rhywiol, fel gweithiwr cefnogi.
Mae Dewis yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n cynnwys cyfreithwyr, arbenigwyr ym maes troseddeg a llunwyr polisi cymdeithasol o Brifysgol Aberystwyth.
Dyfarnwyd £890,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr yn 2015 tuag at y prosiect £1.3m ar Gamdrin a Chyfiawnder yr Henoed.