Llwyddiant cynhadledd trawsryweddol gyntaf Aber
Ch-Dd: Kate Rose, Kate Hutchinson, Crash Wigley, CN Lester, Debra Croft a Ruth Fowler
20 Tachwedd 2017
Bywydau trawsryweddol ac anneuaidd yng Nghymru'r 21ain ganrif oedd testun cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 17 Tachwedd.
Daeth tua 65 o bobl trawsryweddol ac anneuaidd, addysgwyr, cyfeillion, teuluoedd a chefnogwyr o bob cwr o Gymru â’r Alban hyd yn oed, ynghyd ar gyfer diwrnod o weithdai a rhannu gwybodaeth, a drefnwyd gan dîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol.
Y prif siaradwr oedd CN Lester, awdur Trans Like Me a chyd-sylfaenydd y grŵp cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer pobl ifanc LGBT. Maen nhw’n academydd, cerddor, ac yn un o brif actifyddion materion trans yn y DU.
Cafwyd sesiynau gweithdai hefyd gan Crash Wigley o Stonewall Cymru, a Kate Rose o Lywodraeth Cymru, Kate Hutchinson o Diversity Role Models ac yn ogystal â CN Lester lle trafodwyd pynciau amrywiol megis gweithwyr trawsryweddol, cyfleusterau cyffredin mewn ysgolion a bod yn drawsryweddol ac ymdrin â'r cyfryngau.
Meddai Dr Debra Croft yw Cyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth:
"Dyma oedd y gynhadledd gyntaf o'i bath yng Nghymru ac roedd yn hynod o werthfawr ac yn bwysig. Mae'r galw am wybodaeth oddi wrth ysgolion, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a grwpiau yn golygu bod angen i ni ymchwilio sut y gallwn ni fel Prifysgol gyfrannu at y ddadl a gwella dealltwriaeth a chymorth yn y maes hwn o waith cydraddoldeb. Dyma ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau yn 2018".
Ychwanegodd Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Swyddog Cydraddoldeb Adnoddau Dynol:
"Mae tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol yn falch iawn o fod wedi cynnal y digwyddiad, Roedd ystod y siaradwyr a nifer y rhai a fynychodd yn dangos pa mor amserol a phwysig yw'r gynhadledd hon a’r trafodaethau ar y pynciau hyn. Mae'r adborth wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwn a chynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'n holl siaradwyr am wneud yn diwrnod yn llwyddiant."