Gwahodd myfyrwyr mentrus i ymgeisio am InvEnterPrize 2018
Lansio InvEnterPrize 2018. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn ennill £10,000.
13 Tachwedd 2017
Mae rhifyn 2018 o gystadleuaeth menter myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei lansio, gyda gwobr o £10,000 i'r ymgeisydd buddugol.
Bellach yn ei phedwerydd rhifyn, mae InvEnterPrize yn cynnig cyfle i fyfyrwyr entrepreneuraidd gyflwyno eu syniadau i banel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus ac amlwg, dan gadeiryddiaeth yr Athro Donald Davies o Goleg Imperial, Llundain.
Bydd y cais llwyddiannus yn gallu buddsoddi ei enillion mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r ddyfais neu syniad cychwyn busnes.
Hefyd, i’w ennill eleni mae blwyddyn o ofod swyddfa am ddim yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth, i’r sectorau bio-wyddoniaeth, gwyddorau bywyd ac amaethyddol.
Ond mae llawer mwy i InvEnterPrize nac ennill y brif wobr.
Bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu chwilio am gyngor arbenigol a mynychu cyfres o weithdai a chyflwyniadau sydd yn cael eu harwain gan bobl busnes llwyddiannus, wrth iddynt ddatblygu eu cynigion terfynol, gan dderbyn cyngor gwerthfawr ar hyd y daith.
Gwahoddir rhestr fer o blith yr ymgeiswyr i gyflwyno’u cynigion busnes i banel o feirniaid ar ffurf Dragon’s Den ar ddydd Llun 19 Mawrth 2018.
Lansiwyd rhifyn 2018 o’r gystadleuaeth ddydd Llun 13 Tachwedd gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Treasure: “Mae'n bleser mawr gennyf lansio InvEnterPrize 2018. Mae prifysgolion yn chwaraewyr allweddol o ran cynnal a hyrwyddo gweithgaredd economaidd yn eu hardaloedd lleol, ac mae eu hymchwil arloesol yn sail i lawer o ddatblygiadau technolegol ein hoes ni. Yn yr un modd, yr ydym am annog creadigrwydd, gwreiddioldeb a mentergarwch ymhlith ein myfyrwyr, ac rwy'n falch iawn o weld InvEnterPrize yn cynnig y cyfle i ddatblygu a lansio menter fusnes a gyrfa lwyddiannus.”
Bydd cystadleuwyr eleni yn gobeithio efelychu llwyddiant Kar-go, a gipiodd brif wobr yn 2017.
Cerbyd dosbarthu di-yrrwr yw Kar-go a ddatblygwyd gan y myfyrwyr Ariel Ladegaard ac Aparajit Narayan, a’r cyn-fyfyriwr Pasi William Sachiti.
Cyflwynwyd siec am £10,000 i Ariel a Pasi gan Alana Spencer, enillydd The Apprentice.
Dywedodd Cadeirydd panel beirniadu InvEnterPrize, yr Athro Donald Davies: “Rwy'n falch iawn o fod unwaith eto ar y panel beirniadu ar gyfer InvEnterPrize. Bu Aberystwyth yn gymorth mawr i mi sefydlu fy ngyrfa ac mae’n hyfryd cael y cyfle i annog cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i fyd busnes. Rydym yn chwilio am sbarc yn ein henillydd neu dîm buddugol; mae angen i’r syniad i fod yn unigryw ac yn gyraeddadwy, ond rydym hefyd am fyfyriwr neu fyfyrwyr sydd yn credu yn eu cynnyrch a bod ganddynt y dycnwch i lwyddo.”
Noddir InvEnterPrize drwy gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, ac mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
Datblygwyd y cysyniad gwreiddiol dros nifer o flynyddoedd gan hyrwyddwr entrepreneuriaeth y Brifysgol, Tony Orme.
Yn y lansiad dywedodd Tony: “Drwy InvEnterPrize mae ein myfyrwyr yn cael mynediad i rai o'n cyn-fyfyrwyr busnes mwyaf dylanwadol; cyfle i’w holi a darganfod cyfrinach llwyddiant. Mae'r arian yn gymorth gwych tuag at gostau cychwyn busnes ond y cyngor a'r cymorth fydd fwyaf gwerthfawr. Rydym yn ffodus bod gennym raddedigion sydd am roi rhywbeth yn ôl a gweithio gyda'r myfyrwyr, ac mae eu haelioni mewn amser a chyllid yn ysbrydoliaeth.”
Lansiwyd InvEnterPrize yn 2012, a’r enillydd cyntaf oedd Jake Stainer a'i wefan ddysgu iaith www.Papora.com.
Dywedodd Jake Stainer: “Roedd y syniad am Papora wedi bod gen i ers rhai blynyddoedd ond nid oedd gen i unrhyw fath o gyllid. Yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth penderfynais wneud cais. Ar ôl ennill, aeth InvEnterPrize â’m busnes i'r lefel nesaf ac rwyf wedi llwyddo i gyflawni cymaint o bethau na fyddai wedi bod yn bosibl o'r blaen. Mae Papora yn tyfu bob mis, diolch i InvEnterPrize.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Jagger; "Gall Gwobr InvEnterPrize olygu cymaint i rywun sydd â syniad gwych y mae angen y cymorth a'r arweiniad ariannol er mwyn ei sefydlu. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyn-fyfyrwyr sy'n parhau i gyfrannu mor hael tuag at Gronfa Aber sy'n cyllido’r wobr ariannol ac i’r cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd yn rhoi o’u hamser i fod ar y panel beirniadu.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd entrepreneuraidd ymhlith myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff. Mae rhagor o wybodaeth am AperPreners ar lein yma.