Cynhadledd yn trafod dyfodol darlledu
Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn Athro yn y Cyfryngau a’r Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant.
09 Tachwedd 2017
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn cadeirio cynhadledd flaenllaw ar ddyfodol darlledu Cymraeg ddydd Iau 9 Tachwedd 2017.
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones - sydd yn Athro yn y Cyfryngau a’r Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth - yn rhoi’r anerchiad agoriadol yn y gynhadledd sy’n cael ei threfnu gan rwydwaith Dathlu’r Gymraeg, yn ogystal ag yn cadeirio’r prif drafodaeth banel ar S4C.
Ymysg y siaradwyr sydd yn cymryd rhan yn y Gynhadledd yng Nghaerdydd mae Betsan Powys (Golygydd BBC Radio Cymru), Euryn Ogwen Williams (Cadeirydd Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i S4C), Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas (Gweinidog Diwylliant, Llywodraeth Cymru), Owen Evans (Prif Weithredwr S4C) ac Iestyn Garlick (Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru).
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle pwysig i drafod darlledu yn yr iaith Gymraeg yn ei holl ffurfiau cyfoes a hynny ar gyfnod heriol i’r diwydiannau creadigol. Trwy ddod a phrif gynrychiolwyr y sector a mudiadau’r iaith Gymraeg at ei gilydd, y nod yw rhannu syniadau cyffrous a datblygu strategaethau uchelgeisiol at y dyfodol.”
Dywedodd Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg: “Mae Dathlu'r Gymraeg yn edrych ymlaen at ddiwrnod o drafodaethau amrywiol a heriol ar ddyfodol darlledu Cymraeg. Bydd siaradwyr o statws uchel yn y diwydiannau creadigol a lleisiau llawr gwlad yn rhannu syniadau ac yn cyd-drafod ar y pwnc hwn sy'n agos at ein calonnau.
"Rydym yn gobeithio y bydd y Gynhadledd ei hun yn gyfraniad at yr adolygiad annibynnol o S4C - ond byddwn yn taflu'r rhwyd llawer yn ehangach i drafod darlledwyr a dulliau darlledu eraill, gan gynnwys ar lefel gymunedol."