Gwella cynhyrchu protein yn Ewrop a Tsieina
Dr Leif Skøt (dde) a Dr David Lloyd o IBERS mewn cae o arbrofion meillion ger Gogerddan. Aelodau eraill y tîm yn Aber sydd ddim yn ymddangos yn y llun hwn yw Dr Rosemary Collins a Mr Huw Powell
30 Hydref 2017
Mae gwyddonwyr planhigion o Brifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil newydd i fridio codlysiau porthiant a chodlysiau grawn, i fynd i'r afael â gofynion bwydydd protein yn Ewrop a Tsieina.
Mae grant o €5M wedi ei roi i brosiect EUCLEG (Codlysiau Ewropeaidd a Tsieineaidd) trwy raglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Dr Leif Skøt o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sydd yn arwain y gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Skøt: "Mae gan Ewrop a Tsieina sefyllfa o lefel isel o brotein cartref. Mae Ewrop yn mewnforio 30% a Tsieina 60% o gynnyrch protein planhigion y byd ar gyfer maeth dynol ac anifeiliaid.
“Fodd bynnag, mae gan y ddau gyfandir ranbarthau sydd ag amodau agro-ecolegol priodol ar gyfer cynhyrchu proteinau planhigion, a gellir cyflawni lefel uwch o annibynniaeth o fewnforion trwy gynnydd mewn cynhyrchu eu proteinau planhigion eu hunain.”
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar alfalfa a meillion coch, pys, ffa faba a ffa soia.
Dewiswyd y cnydau hyn am eu nodweddion agronomegol, perthnasedd economaidd a defnydd cyfredol yn Ewrop a Tsieina.
Nod y prosiect yw cynhyrchu mathau newydd a momentwm ffres o ran tyfu'r cnydau hyn sydd â photensial arwyddocaol.
Cydnabyddir bod datblygu systemau glaswelltir da byw sydd yn seiliedig ar godlysiau yn gonglfaen ar gyfer systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil mwy cynaliadwy a chystadleuol.
Dywedodd Dr David Lloyd, bridiwr codlysiau IBERS: “Er bod codlysiau grawn yn ganolog i brosiect EUCLEG, mi fydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gnydau porthiant a all ddarparu hyd at 2.3 tunnell fetrig o brotein yr hectar y flwyddyn, tra bod codlysiau grawn yn cyrraedd hyd at 1.3 tunnell fetrig / ha.”
Nod y tîm yw ehangu sylfaen genetig cnydau codlysiau, ac i ddadansoddi amrywiaeth genetig codlysiau Ewropeaidd a Tsieineaidd trwy edrych ar gynnyrch ac ansawdd yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.
Gan ddefnyddio'r technegau genetig diweddaraf mi fydd hyn yn arwain at ddeall pensaernïaeth enetig nodweddion bridio allweddol, ac i werthuso'r manteision a ddaw trwy ddethol genomig i greu mathau newydd o gnydau.
Bydd y bridwyr yng nghonsortiwm EUCLEG yn manteisio ar y canlyniadau hynny i greu'r mathau newydd sydd eu hangen i wella cynhyrchu protein.
Datblygir cronfeydd data chwiliadwy cynhwysfawr sy'n cynnwys data pasbort, yn ogystal â nodweddion agronomegol a genetig.
Mi fydd prosiect EUCLEG yn arwain at effeithiau amgylcheddol positif ychwanegol eraill mewn gwasanaethau ecosystemau, megis arbed ynni, gwella strwythur a chyfansoddiad y pridd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a bioamrywiaeth.