Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant dysgwyr Cymraeg
Sue Jones-Davies yn derbyn Gwobr Cymraeg yn y Teulu oddi wrth yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
26 Hydref 2017
Mae cyn-Faer Tref Aberystwyth a’r berfformwraig Sue Jones-Davies ymysg criw sydd wedi eu cydnabod am eu hymdrechion i ddysgu a hyrwyddo’r Gymraeg.
Cyflwynwyd Gwobr Cymraeg yn y Teulu i Sue yn ystod Seremoni Wobrwyo Flynyddol Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg Athrofa Datblygiad Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth a gafodd ei chynnal ddydd Llun 23 Hydref.
Yn wreiddiol o sir Benfro, penderfynodd Sue ail gydio yn ei Chymraeg ar ôl symud o Lundain gyda’r teulu a dod i fyw i Aberystwyth. Bellach mae’n siarad Cymraeg gyda’u hwyresau, a’i nod nawr yw gwella ei Chymraeg ysgrifenedig a medru darllen barddoniaeth heb eiriadur.
Roedd y wobr yn un o dair i’w chyhoeddi yn y seremoni gafodd ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Medrus y Brifysgol.
Cyflwynwyd gwobr Cymraeg yn y Gweithle i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ei ymdrech i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymysg staff ac wrth iddynt ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd, a chefnogi staff sydd yn dymuno mynychu cyrsiau Cymraeg.
Dyfarnwyd Grŵp Cymraeg y Flwyddyn i Clwb Clonc Caersws. Ers 2010 mae’r clwb wedi dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr ynghyd mewn ffyrdd anffurfiol tu allan i’r dosbarth, i sgwrsio a chael ychydig bach o hwyl, a dysgu am Gymru a’i thraddodiadau.
Yn ystod y seremoni cyflwynwyd tystysgrifau arholiadau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch CBAC a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymgeiswyr llwyddiannus.
Wrth longyfarch pawb ar eu llwyddiant, dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Fel dysgwr fy hunan, gallaf werthfawrogi’r ymdrech fawr mae pob un ohonoch wedi ei wneud i gwblhau eich arholiadau yn llwyddiannus. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn awyddus i gynorthwyo pawb sydd yn dymuno dysgu neu wella eu Cymraeg boed hynny am resymau proffesiynol, i gefnogi eu plant neu am resymau cymdeithasol. Braf felly yw cydnabod y gwaith y mae Parc Cenedlaethaol Bannau Brycheiniog yn ei wneud yn hyn o beth, a’r cyfle pwysig mae Clwb Clonc Caersws yn ei gynnig i gymdeithasu yn y Gymraeg. Ac wrth gwrs, mae’n hyfryd cael cydnabod rhywun fel Sue Jones-Davies sydd wedi gwneud cyfraniad ieithyddol mor werthfawr ar yr aelwyd gartref ac yn ei chymuned leol.”
Mae dros 3,000 o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg a Dysgu Gydol Oes drwy Brifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid.
Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr gyda darpariaeth benodol ar gyfer cynnig cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd. Mae mwy o wybodaeth arlein yma.
Gwobrau Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth 2017
Gwobr Cymraeg yn y Teulu: Sue Jones-Davies
Dyma’r pedwerydd tro i Brifysgol Aberystwyth gynnig y wobr hon. Gwobr ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu. Mae Sue yn ennill taleb cwrs gwerth £100, a thocyn llyfrau £25.
Cafodd Sue ei magu drwy’r Saesneg yn Lloegr ac yn Sir Benfro, a chael ei rhoi yn y ffrwd Saesneg yn yr ysgol, er iddi gael ychydig o Gymraeg gan rai aelodau o’i theulu.
Yn ddiweddarach, ymgartrefodd yn Llundain a phriodi rhywun di-Gymraeg, a chael tri o feibion. Saesneg oedd iaith yr aelwyd yn y blynyddoedd cynnar, ond wedi symud i Gymru gyda’r bechgyn, ymroddodd Sue fwy fwy i geisio adeiladu ar yr ychydig Gymraeg a oedd ganddi, gan anfon y plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mynychodd Sue ddosbarthiadau Cymraeg gan osod un nod ar ôl y llall iddi hi ei hun, gan gynnwys arholiadau CBAC a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar yr un pryd, ceisiodd gynyddu ei defnydd o’r Gymraeg gyda’i bechgyn. Bu’n rhannol lwyddiannus gyda hyn, ond gyda dyfodiad ei hwyresau bach fe ddaeth cyfle gwirioneddol o’r newydd iddi gael sefydlu’r Gymraeg yn gadarn fel yr iaith y byddent yn ei defnyddio i gyfathrebu gyda hi, sef Nain.
Mae’r hynaf erbyn hyn yn 11 oed, a’r ieuengaf yn 7 oed, ac mae gan Sue ran greiddiol yn eu magwraeth.
Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd Sue: “Pan roen i’n ifanc ac wedi symud i ffwrdd i Loegr, colles i fy Nghymraeg yn llwyr. Ond yna, pan ddes i nôl i Gymru gyda’r plant, roen i am ail-afael ynddi. Roedd y bechgyn yn mynd i Ysgol Gymraeg Aberystwyth a finnau’n methu siarad yr iaith gyda nhw ar y pryd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi bod yn mynd i wersi, a phan aned fy wyres gyntaf penderfynais taw dim ond Cymraeg roeddwn yn mynd i siarad gyda hi. Ac fel na ma’ hi wedi bod. Mae’r cyrsiau yn grêt ac yn lot o hwyl. Ambell waith mae gwaith cartref yn her, os chi’n gweithio llawn amser ac yn edrych ar ôl yr wyresau a hyn a’r llall. Yr her nawr yw gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig a gallu darllen barddoniaeth heb orfod troi at y geiriadur drwy’r amser.”
Gwobr Cymraeg yn y Gweithle: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Dyma’r pedwerydd tro i Brifysgol Aberystwyth gynnig y wobr hon hefyd. Gwobr yw hi i gyflogwyr sy’n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Cymraeg. Mae’n gyfle i ddathlu ymdrech a chynnydd staff sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r gweithle sy’n ennill yn cael cwrs undydd am ddim yn y gweithle.
Mae’n bleser cyhoeddi mai enillwyr y wobr hon eleni oedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Bu 13 o staff y Parc yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg yn ardal Aberhonddu yn 2016/17. Mae’r Parc yn annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg o’r cychwyn, yn fewnol a gyda’r cyhoedd, ac mae nhw’n rhoi amser i staff i fynychu cyrsiau Cymraeg yn eu cymuned, gan gyfrannu at ffioedd y cyrsiau hynny.
Mae’r staff sydd wedi mynychu cyrsiau Cymraeg wedi meithrin mwy o hyder i gyfathrebu gyda’r cyhoedd.
Gan fod nifer y staff sy’n dysgu Cymraeg ar gynnydd, maen nhw nawr yn ystyried ffyrdd newydd i gydnabod eu llwyddiant.
Mewn ymateb i’r wobr, dywedodd Ceril Bevan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon heddiw. Mae’n dangos ein bod ni ar y trywydd cywir gyda’n cydweithwyr i helpu nhw i ddeall y diwylliant a’r dreftadaeth Gymreig yn ein hardal. Ein gobaith wedyn yw y byddant yn gallu mynd allan a defnyddio eu Cymraeg mewn cymunedau lleol lle mae’r Gymraeg yn hanfodol.
Ychwanegodd Bronwyn Lally o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Fel un o atyniadau mwyaf eiconig Cymru mae’n hanfodol i ni fel Parc Cenedlaethol a sefydliad ein bod yn hyrwyddo ein treftadaeth a’n diwylliant, ac mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o hynny. Rydym yn cynnig cyrsiau i staff a fydd yn eu galluogi i ddysgu neu wella eu Cymraeg ac i fod yn hyderus wrth ei defnyddio yn y gweithle.”
Gwobr Grŵp Cymraeg y Flwyddyn: Clwb Clonc Caersws
Diben y wobr hon yw dathlu llwyddiant grŵp sydd wedi dod â siaradwyr a dysgwyr ynghyd mewn gweithgareddau i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae nhw’n ennill gwobr gwerth £100 o adnoddau Cymraeg.
Enillydd y wobr hon eleni oedd Clwb Clonc Caersws.
Dechreuodd y Clwb yn 2010, a’u nod yw dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr ynghyd mewn ffyrdd anffurfiol tu allan i’r dosbarth, i sgwrsio a chael ychydig bach o hwyl, a dysgu am Gymru a’i thraddodiadau.
Maen nhw’n cyfarfod bob yn ail wythnos, ac mae nhw wedi cynnal rhaglen amrywiol iawn o weithgareddau, gan gynnwys gemau bwrdd, trafod hoff gerddi a lluniau, cwisys, a helfa drysor. Maen nhw hefyd wedi cynnal nifer o ymweliadau mor amrywiol â thaith hanesyddol o gwmpas tref Llanidloes, gerddi Gregynog, a’r Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn.
Dywedodd Delma Thomas o Glwb Clonc Caersws, ond sydd yn wreiddiol o Lan Dŵr ger Crymych: “Mae’n anrhydedd ar ran Clwb Clonc Caersws, i dderbyn y wobr am y Grŵp Cymraeg Gorau. Rwy’n gobeithio y bydd yn hwb i gael mwy o bobl i ddod i’r nosweithiau yr ydym yn eu cynnal. Mae’r clwb yn cwrdd bob yn ail nos Fercher, ac fe fyddem yn hoffi cwrdd bob wythnos achos mae angen i’r dysgwyr gael Cymraeg bob wythnos. Rydym yn trefnu gweithgareddau o bob math, siaradwyr gwadd, mynd am dripiau, ymweliadau hanesyddol, cwisiau a gemau bwrdd, canu carolau adeg y Nadolig ac ati, a’n gobaith yw darparu rhywbeth at ddant pawb.
Mae Ceris Jehu yn cynorthwyo gyda’r trefniadau. “Mae Delma’n weithgar iawn gyda Clwb Clonc, hebddi hi, ni fyddai’n bod. Mae’r wobr yn hwb mawr i ni ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i ddenu mwy o bobl i ddod atom ni i ddysgu Cymraeg.”