Cefnogaeth ariannol Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i ddaearyddwr o Aberystwyth
Dr Hywel Griffiths, sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru
23 Hydref 2017
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i effeithiau hirdymor cynlluniau ynni micro ar afonydd Cymru wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Bydd y gwaith, dan arweiniad Dr Hywel Griffiths, arbenigwr ar systemau afonydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn astudio effeithiau cynlluniau ledled Cymru, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Glasgow a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd yr arian hefyd yn cefnogi astudiaeth o sut y gall coed a changhennau cwymp sydd wedi gostwng, dros flynyddoedd lawer, ddylanwadu ar lif y dŵr mewn afonydd.
Gobaith Dr Griffiths yw y bydd y gwaith, sydd yn cael ei ariannu gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn llywio polisi amgylcheddol ar ynni adnewyddadwy a llifogydd yng Nghymru.
“Mae’n bleser mawr derbyn y wobr yma gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, ac rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt,” meddai Dr Griffiths.
“Bydd y wobr yn fy ngalluogi i sefydlu safleoedd monitro hir-dymor ar afonydd yng Nghymru i astudio effeithiau amgylcheddol cynlluniau pwer hydro bychain a sut y mae coed mewn afonydd yn effeithio ar eu geomorffoleg. Y gobaith yw y bydd y ddau brosiect yma yn cyfrannu at bolisiau rheolaeth amgylcheddol yng Nghymru yn gysylltiedig â chynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli llifogydd mewn modd cynaliadwy.”
Dywedodd Madeleine Bidder, Cadeirydd Pwyllgor Gwobrau Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru: “Mae'r Cwmni yn falch iawn o gyflwyno’r wobr hon i Gymro ifanc sy'n wyddonydd, athro, a bardd – dyn y Dadeni gwirioneddol.”
Bydd arian o'r wobr hefyd yn galluogi Dr Griffiths i fynychu’r 17eg Gynhadledd Ryngwladol i Ddaearyddwyr Hanesyddol yn Warsaw ym mis Gorffennaf 2018.
Yno, bydd yn cyflwyno ymchwil ar y canfyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o lifogydd yng nghefn gwlad Iwerddon ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
Mae Dr Griffiths wedi cyhoeddi gwaith ar ganfyddiadau hanesyddol o lifogydd mewn llenyddiaeth Gymru o’r oesoedd canol, ac ar etifeddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol llifogydd Cwm Tryweryn.
Mae hefyd wedi archwilio llifogydd hanesyddol yn yr ardaloedd Cymreig o Batagonia a chyfraddau a phatrymau erydiad creigiau gwely afonydd yn Ne Affrica.
Yn ogystal, mae Dr Griffiths yn un o genhedlaeth newydd o feirdd sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod blynyddoedd diweddar. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwywaith, ac yn 2015 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Adlewyrchir ei ymchwil mewn llawer o’i gyfansoddiadau a bydd y wobr yn cefnogi datblygu gwefan newydd i hyrwyddo ei farddoniaeth.