Y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol yn cyrraedd safle tri uchaf prifysgolion y DU
Myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Thanh Tan Nguyen yn Hanoi, Fietnam, a dreuliodd dair wythnos yng Nghanolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ystod haf 2017.
16 Hydref 2017
Mae ansawdd y dysgu, sy'n cael ei fwynhau gan fyfyrwyr rhyngwladol sy’n dysgu Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda’r gorau yn y DU yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Gwener 13 Hydref 2017.
Mae Canolfan Rhyngwladol Saesneg (IEC) Prifysgol Aberystwyth yn drydydd yn nhabl cynghrair EL Gazette o ganolfannau Saesneg prifysgolion yn y DU.
Mae Tabl Graddio Prifysgolion y cyhoeddiad wedi'i seilio ar ddatganiadau cryno arolygwyr y Cyngor Prydeinig ac asesiadau o bymtheg maes gweithgaredd mewn canolfannau Saesneg prifysgolion.
Cynhaliwyd arolwg diweddaraf yr IEC ym mis Mawrth 2017 pan nodwyd deg ardal o gryfder gan arolygwyr y Cyngor Prydeinig a’i nodi fel Canolfan Rhagoriaeth.
Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn gyda chyfartaledd o bedwar maes cryfder a nodir ar gyfer ysgolion iaith y Cyngor Prydeinig.
Mae'r meysydd cryfder a nodwyd yn IEC Aberystwyth yn cynnwys rheoli staff, gweinyddiaeth myfyrwyr, sicrhau ansawdd, adnoddau dysgu, dylunio cyrsiau, rheoli dysgwyr, addysgu, gofal myfyrwyr, llety a chyfleoedd hamdden.
Mae deugain prifysgol yn ymddangos yn y tabl diweddaraf, gyda Phrifysgol Brighton a Choleg Prifysgol Llundain yn y ddwy safle uchaf.
Dywedodd Melanie Butler, o’r E L Gazette: “Dim ond 40 o brifysgolion Prydain sydd yn dewis cael eu harolygu gan y Cyngor Prydeinig ar hyn o bryd, ond mae eu canlyniadau yn rhagorol. Rydym yn rhestri’r 20 uchaf o ganolfannau iaith prifysgol, neu 24 i fod yn fanwl gywir. Mae’n rhyfeddol ond mae 60% o ganolfannau iaith prifysgolion ymysg y 25 y cant uchaf o’r holl ganolfannau iaith sydd wedi eu hachredu yn y DU, ac maent i bob pwrpas yn dominyddu’r tablau o ran y dysgu.”
Dywedodd Ms Rachael Davey, Cyfarwyddwr Canolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd gyda thabl diweddaraf yr EL Gazette sy'n gosod y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol ymhlith y tri uchaf o ganolfannau Saesneg prifysgolion y DU.”
“Yn yr IEC rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, o'r Eidal i Oman, o Wlad Groeg i Dde Korea, o Tsieina i Brasil. Mae gennym fyfyrwyr sy'n dod am gyrsiau pythefnos ac mae eraill yn dod ar gwrs sylfaen neu gwrs paratoadol ac yn cwblhau gradd yma yn Aberystwyth ar y diwedd.”
"Mae Aberystwyth yn lle gwych i bobl ddod i ddysgu Saesneg – lleoliad perffaith yn un o gymunedau mwyaf cyfeillgar y DU, ac wrth gwrs, ni yw Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu The Times / Sunday Times.”
"Mae'n wych cael y gydnabyddiaeth ein bod ni’n darparu profiad mor dda i’n myfyrwyr. Mae pawb yn yr IEC wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'n myfyrwyr yn llwyddo, ac yn rhoi'r profiad gorau iddynt”, ychwanegodd Ms Davey.
Mae cyn-fyfyrwyr IEC Jason Chryssikos a You Na Bae wedi croesawu’r newyddion.
Mae Jason, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn o Wlad Groeg, yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Cwblhaodd Dystysgrif Sylfaen Rhyngwladol IEC yn 2015 i wella ei sgiliau siarad Saesneg cyn cychwyn ar ei radd.
“Roedd astudio yn y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol yn brofiad gwych” meddai Jason. “Roedd yn gyfle rhagorol i ddod i adnabod pobl a chreu rhwydwaith i fy hun cyn dechrau’r gradd. Roedd y staff yn rhyfeddol, ac yn hynod groesawgar, ac roedd astudio gyda phobl o wledydd eraill yn Saesneg yn heriol iawn ond yn tynnu’r gorau allan ohonom ni.”
Mae You Na, o Dde Korea, yn astudio ar gyfer BA mewn Astudiaethau Plentyndod yn yr Ysgol Addysg. Treuliodd bum mis yn IEC cyn dechrau ar ei gradd israddedig. “Rhoddodd IEC sail gadarn i mi i fynd ymlaen â'm gwaith academaidd yn fy mlwyddyn gyntaf”, meddai Youna.
“Roedd yn wych, mor hanfodol, ac wedi fy helpu llawer. Mae'n rhaid i chi ymddiried yn y staff a'r athrawon yn IEC, maen nhw’n barod i helpu ar unrhyw ade, maen nhw mor broffesiynol. Byddem yn argymell Aberystwyth yn fawr”, ychwanegodd Youna.
Mae IEC yn darparu rhaglen gynhwysfawr o gyrsiau Saesneg, gan gynnwys cyrsiau Tystysgrif Sylfaen Rhyngwladol, cyrsiau paratoadol gradd neu feistr a chyrsiau Saesneg cyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein.