Gwahodd enwebiadau am Gymrodoriaethau a Graddau Anrhydedd 2018
Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r naturiaethwr a chyflwynydd teledu, Iolo Williams yn 2015.
16 Hydref 2017
Y dyddiad cau i enwebu unigolion i’w hystyried am Gymrodoriaethau a Graddau Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth 2018 yw canol nos, ddydd Llun 23 Hydref 2017.
Mae gan staff, myfyrwyr, ac aelodau'r cyhoedd hawl i gyflwyno enwebiadau.
Mae'r Brifysgol yn dyfarnu nifer o Gymrodoriaethau, Doethuriaethau, a graddau Baglor er Anrhydedd bob blwyddyn.
Caiff y Cymrodoriaethau er Anrhydedd eu dyfarnu i anrhydeddu unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.
Ymhlith y rhai a anrhydeddwyd yn lled ddiweddar y mae'r nofelydd a cholofnydd y Times, Caitlin Moran, y newyddiadurwr a chyflwynydd Robert Peston, cyn Brif Weinidog Seland newydd Julia Gillard, a'r naturiaethwr a chyflwynydd teledu Iolo Williams.
Yn 2015, dechreuodd y Brifysgol hefyd ddyfarnu Doethuriaethau a graddau Baglor er Anrhydedd.
Gellir dyfarnu gradd Doethuriaeth er Anrhydedd i rai sydd wedi bod yn llwyddiannus eithriadol yn eu maes, neu sydd â hanes hir o ymchwil a chyhoeddiadau clodwiw.
Cyflwynir gradd Baglor er Anrhydedd i unigolion sy'n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad er mwyn cydnabod gwasanaeth, cyfraniad ac ymroddiad hirdymor i'r Sefydliad; ac i aelodau'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i dref Aberystwyth a'r cylch.
Gwahoddir staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd i enwebu unigolion addas y gellir dathlu eu cyflawniadau a'u cyfraniadau, ac a fydd yn ysbrydoli cymuned y Brifysgol.
Caiff yr enwebiadau a ddaw i law eu hystyried gan y Pwyllgor Graddau er Anrhydedd a fydd yn gwneud argymelliadau priodol i Senedd a Chyngor y Brifysgol.
Mae'r wefan hefyd yn rhestru'r meini prawf y bydd y Pwyllgor Graddau er Anrhydedd yn eu defnyddio wrth ystyried yr enwebiadau.
Os ydych yn ansicr ynglŷn â chyflwyno enw i'w ystyried, gallwch ofyn am gyngor anffurfiol trwy e-bostio Ysgrifennydd y Brifysgol - ysgrifennydd@aber.ac.uk.
AU35517