Lansio menter ansawdd dŵr ymdrochi Cymru–Iwerddon yn Nulyn
Yr Athro David Kay o Brifysgol Aberystwyth (canol) yn lansiad Acclimatize yn Nulyn gyda’r (ch i’r dde) yr Athro William Gallagher, Coleg Prifysgol Dulyn; Yr Athro Andrew J. Deeks, Llywydd Coleg Prifysgol Dulyn; Gweinidog yn Llywodraeth Iwerddon Seán Kyne a’r Athro Wim Meijer, Coleg Prifysgol Dulyn. (Pic: Jason Clarke)
13 Hydref 2017
Mae prosiect ymchwil sy'n cael ei gefnogi gan yr UE i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru ac Iwerddon wedi cynnal ei lansiad yn Nulyn.
Lansiwyd prosiect €6.7m Acclimatize ddydd Iau 12 Hydref 2017 gan Seán Kyne TD, Gweinidog Gwladol dros Ddatblygu Cymunedol, Adnoddau Naturiol a Datblygiad Digidol yn Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon a’r Athro Andrew J. Deeks, Llywydd, Coleg Prifysgol Dulyn (UCD).
Mae’r lansiad yn dilyn cyhoeddi'r prosiect pum mlynedd gan Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC, ar 10 Mawrth 2017.
Nod y cynllun yw gwella ansawdd dŵr arfordirol yn Nghymru ac Iwerddon gan roi hwb i dwristiaeth a chefnogaeth i ddiwydiannau morol megis cynhaeafu pysgod cregyn.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu'n rhannol gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd trwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020.
Caiff agweddau Cymreig y prosiect eu harwain gan yr Athro David Kay o Ganolfan Ymchwil i'r Amgylchedd ac Iechyd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth.
Wrth drafod y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yng Nghymru ar brosiect Acclimatize, dywedodd yr Athro David Kay: “Mae blwyddyn gyntaf Acclimatize yng Nghymru yn mynd yn dda ac yn derbyn cefnogaeth ragorol gan yr awdurdod lleol perthnasol a phartneriaid asiantaeth adnoddau.”
“Dewisiwyd lleoliad astudio Acclimatize Bae Cemaes er mwyn cynorthwyo gyda cydymffurfio cynaliadwy’r safle gyda Chyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi’r Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio’r strategaethau modeli amser real diweddaraf er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd drwy ddefnyddio’r dulliau rheolaeth a modeli diweddaraf.”
“Mae’r gwaith eisoes wedi ennyn cryn ddiddordeb yn rhyngwladol ac mae data maes cynnar wedi ei gyflwyno i gymunedau polisi a gwyddoniaeth Mudiad Iechyd y Byd (WHO) a’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cyflwyniad i gynhadledd rhyng-asiantaeth y DU ar ddyfroedd ymdrochi sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam yn Nhachwedd 2017. Bydd gwaith pellach mewn safleoedd eraill, ynghyd ag astudiaeth o effeithiau newid hinsawdd, yn dechrau gyda’n partneriaid prosiect yn Hydref 2017.
Amcan y prosiect Acclimatize yw nodi ffrydiau llygredd a'u heffaith ar ddyfroedd arfordirol mewn lleoliadau trefol a gwledig, ac effaith newid yn yr hinsawdd ar lygredd.
Gyda'r data hwn, bydd modelau amser real yn cael eu datblygu i lywio effeithiau newid yn yr hinsawdd, drwy batrymau tywydd sy’n newid, gan gynnwys glaw, tymheredd a llanw sy'n effeithio ar ansawdd y dŵr mewn ardaloedd arfordirol.
Nod y prosiect yw datblygu ystod o ddulliau rheoli ymarferol, gan gynnwys offer clyfar amser real i wella ansawdd dyfroedd arfordirol o'r fath er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd morol.
Dywedodd Seán Kyne TD: "Rwyf wrth fy modd yn lansio'r fenter ymchwil Acclimatize. Yr wythnos hon, gyda Chyllideb 2018, rydym wedi sicrhau cynnydd o 43% mewn cyllid ar gyfer mentrau ynni a gweithredu yn yr hinsawdd i'n helpu ar ein taith tuag at economi carbon isel. Mae mentrau ymchwil fel Acclimatize yn bwysig iawn i gynorthwyo'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill wrth wneud penderfyniadau sy'n gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd yr arian sydd ar gael. Mae Acclimatize hefyd yn enghraifft bositif iawn o sut mae cronfeydd yr UE yn cael eu defnyddio i gefnogi economïau lleol i fynd i'r afael â llygredd ar hyd ein harfordir ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd."