Cynhadledd BCSWomen Lovelace ar restr fer gwobr amrywiaeth
Aelodau pwyllgor trefnu Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2017 (chwith i’r dde) Dr Amanda Clare, Cydlynydd Siaradwyr; Dr Hannah Dee, Cadeirydd; Dr Edel Sherrat, Cydlynydd Poster a Helen Miles, Is-Gadeirydd.
12 Hydref 2017
Mae cynhadledd sy’n cael ei threfnu gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer menywod sydd yn astudio cyfrifiadureg wedi cyrraedd rhestr fer gwobr fawreddog.
Mae'r Colocwiwm BCSWomen Lovelace yn un o naw prosiect ar restr fer Prosiect Amrywiaeth y Flwyddyn yng ngwobrau Computing Women in IT Excellence Awards 2017.
Sefydlwyd y gynhadledd flynyddol yn 2008 gan ddarlithydd Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, Dr Hannah Dee, a etholwyd yn ddiweddar yn un o ferched mwyaf dylanwadol y DU mewn TG gan Computer Weekly.
Mae'r gynhadledd bellach yn cael ei rhedeg gan wyddonydd cyfrifiadureg arall o Brifysgol Aberystwyth, Dr Helen Miles.
Enwyd y gynhadledd ar ôl y mathemategydd Ada, Countess of Lovelace, sy’n cael ei hadnabod fel raglennydd cyfrifiadurol cyntaf y byd. Dathlodd y gynhadledd ei degfed pen-blwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2017.
Mynychodd dros 200 o gynrychiolwyr y digwyddiad tri diwrnod a agorwyd gan y prif siaradwr Dr Sue Black OBE, sylfaenydd BCSWomen a TechMums, menter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant technegol i famau mewn ardaloedd difreintiedig.
Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Milka Horozova o Google a Carrie Anne Philbin, Cyfarwyddwr Addysg gyda Ymddiriedolaeth Raspberry Pi, sydd hefyd wedi ei chynnwys yn un o ddeg o fenywod mwyaf dylanwadol mewn TG yn y DU gan Computer Weekly.
Ysbrydolwyd Dr Hannah Dee i sefydlu Colocwiwm BCSWomen Lovelace yn dilyn ei phrofiad cynnar o gynadleddau.
“Y gynhadledd ymchwil gyntaf erioed i mi fynychu oedd un ar olwg gyfrifiadurol yn 2004. Tua hanner ffordd drwy gyflwyno fy mhapur sylweddolais mai fi oedd yr unig fenyw yn yr ystafell, ac roedd yn eithaf rhyfedd.
“Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn yn mynychu digwyddiad menywod mewn cyfrifiadureg lle'r oedd y gwrthwyneb yn wir, ac er fy amheuon roedd yn brofiad cadarnhaol. Dyna pryd y sylweddolais y byddwn wedi mwynhau gallu mynychu digwyddiad o'r fath fel myfyriwr israddedig, ac felly fe es ati i sefydlu un.”
Wrth ymateb i’r newyddion am y rhestr fer, dywedodd Dr Helen Miles: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ein cynnwys ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth Menywod mewn TG. Mynychais fy nghynhadledd BCSWomen Lovelace gyntaf dair blynedd yn ôl, a gwnaeth gryn argraff arnaf. Rwyf wedi bod yn mynychu ers hynny ac yn falch iawn o gael cymryd y gadair. Bydd cynhadledd y flwyddyn nesaf yn Sheffiled yn anhygoel.”
Cafodd y golocwiwm gyntaf ei chynnal ym Mhrifysgol Leeds gan ddenu 60 o gynadleddwyr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae dair gwaith y maint ac mae’r rhestr o noddwyr yn cynnwys Google, BCS, GE, Bloomberg, IBM, JP Morgan, Scott Logic, Amazon a ThoughtWorks.
Hefyd ar y rhestr fer y mae; National Grid - Girls2Tech; Capgemini UK PLC - Capgemini Active Inclusion Program; University College London; Newcastle Business School, Northumbria University; KPMG - IT's Her Future; Tellermate Ltd.; Vodafone Group – ReConnect; a Cyber Security Capital - Women in Cybersecurity.
Bydd enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth Menywod mewn TG yn cael eu cyhoeddi yn Llundain ar 1 Tachwedd 2017.