Dolenni dysgu newydd gyda Tsieina
Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Mr Xiao ZHENG, Canghellor Prifysgol WuYi yng nghwmni cynrychiolwyr o’r ddwy brifysgol ar adeg llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y ddwy brifysgol.
11 Hydref 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol WuYi yn Tsieina wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cysylltiadau agosach rhwng staff a myfyrwyr.
Daeth dirprwyaeth o Brifysgol WuYi i Aberystwyth ddydd Mawrth 10 Hydref 2017 i lofnodi memorandwm o gytundeb gyda'r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure.
Bydd y ddau sefydliad nawr yn edrych ar gydweithio pellach, gan gynnwys blwyddyn yn astudio dramor i fyfyrwyr o Tseina.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Rydym yn Brifysgol Gymreig gyda rhagolygon rhyngwladol a sylfaen ymchwil gref sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang. Ein partneriaeth newydd â Phrifysgol WuYi yw'r diweddaraf mewn cyfres o gytundebau cydweithio rhwng Aberystwyth ac uwch sefydliadau addysg ledled y byd. Edrychwn ymlaen at gydweithio ar gynigion ymchwil yn ogystal â rhannu cyfleoedd dysgu a diwylliannol eraill."
Wedi'i lleoli yn WuYishan yn Nhalaith Fujian, mae Prifysgol WuYi yn brifysgol gyhoeddus ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser ac mae ganddi sêl bendith Gweinyddiaeth Addysg Tsieina.
Mae'r Brifysgol yn rhan o safle "Safle Treftadaeth a Diwylliannol y Byd", sy'n ymestyn ar draws ardal sy’n 3,000 metr sgwâr.
Dywedodd Mr Xiao ZHENG, Canghellor Prifysgol WuYi: “Mae Prifysgol WuYi wedi ymrwymo i feithrin talent gyda phersbectif byd-eang. Mae cryfhau cydweithio allanol ar draws y byd yn un o brif flaenoriaethau Prifysgol WuYi. Mae llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yn gam pwysig i'n cydweithio rhyngwladol. Credwn y bydd Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol WuYi yn dyfnhau ymhellach ein cyfeillgarwch, ehaghu’r cydweithio a sicrhau canlyniadau cynhyrchiol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o Aberystwyth i ymweld â ni.”
Dywedodd Pennaeth y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Katerina Stivasari-Jones: "Mae gan Aberystwyth gysylltiadau â Tsieina ers blynyddoedd lawer ac rydym wrth ein bodd bod gennym nawr fframwaith ffurfiol sy'n galluogi staff Prifysgolion Aberystwyth a WuYi i gydweithio ar brosiectau cydweithredol. Rydym yn gobeithio y bydd y cytundeb hwn hefyd yn arwain at ychwanegiad gwerthfawr i'r portffolio o gyfleoedd rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr ein partner trwy ein Rhaglen Astudio Blwyddyn Dramor. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio gyda ni ac sy’n trosglwyddo credydau a enillwyd i'w prifysgol gartref. Mae cyfleoedd o'r fath yn bwysig nid yn unig o ran ehangu gwybodaeth academaidd a diwylliannol ond hefyd drwy annog amrywiaeth a rhyngwladoli ymhellach ein campws er budd y myfyrwyr sy'n dod yma am flwyddyn yn ogystal â'n myfyrwyr parhaol ni."