Darlithydd o Aberystwyth ar restr Menywod Mwyaf Dylanwadol TG
Dr Hannah Dee
10 Hydref 2017
Am yr ail flwyddyn yn olynol, darlithydd cyfriadureg o Brifysgol Aberystwyth yw’r nawfed fenyw fwyaf dylanwadol ym maes cyfrifiadureg yn y DU yn ôl Computer Weekly.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Dr Hannah Dee ymddangos ar restr Computer Weekly o’r 50 menyw fwyaf dylanwadol sy’n gweithio ym maes Technoleg a Gwybodaeth yn y DU, ac am y tro cyntaf eleni hi yw’r unig academydd yn y 50 uchaf.
Ar y brig eleni mae un o fuddsoddwyr angel mwyaf llwyddiannus y DU a sefydlydd a chadeirydd gweithredol Founders4Schools, Sherry Coutu.
Hefyd wedi eu cynnwys mae Sarah Wilkinson, Prif Swyddog Gweithredol NHS Digital a chyn brif swyddog digidol, data a thechnoleg y Swyddfa Gartref, a Carrie Anne Philbin, Cyfarwyddwr Addysg gydag Ymddiriedolaeth Raspberry Pi.
Enwebwyd Dr Dee am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hyrwyddo merched ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac yn benodol am sefydlu Colocwiwm Lovelace BCSWomen.
Dathlodd y colocwiwm, y brif gynhadledd yn y DU ar gyfer menywod israddedig, ei degfed penblwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2017.
Mae Dr Dee ar bwyllgor BCSWomen, sef grŵp menywod Sefydliad Siartredig TG. Yn lleol, mae’n un o drefnwyr Clwb Roboteg Aberystwyth sydd yn cael ei gynnal ar ôl oriau ysgol ac yn boblogaidd iawn, ac mae’n cynorthwyo i drefnu Cafe Gwyddoniaeth Aberystwyth.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd: “Dwi wrth fy modd mod i wedi cael lle yn rhestr Computer Weekly o’r 50 menyw fwyaf dylanwadol ym maes Technoleg Gwybodaeth a hynny am y bedwaredd flwddyn o’r bron. Mae canfod mod i wedi codi i’r nawfed safle yn destun pleser (a syndod) pellach.”
“Mae cael bod mewn cwmni mor anhygoel a mor ysbrydoledig yn fraint arbennig. Mae 'na dalent gwirioneddol ymhlith menywod sy’n gweithio ym maes technoleg ac mae Computer Weekly wedi gwneud gwaith arbennig wrth feithrin, hyrwyddo ac amlygu’r talent yma drwy gyfrwng y digwyddiad blynyddol yma.”