Dylanwad mawr ar bolisi tramor yr Arlywydd Obama i draddodi Darlith Flynyddol E H Carr
Yr Athro Stephen M. Walt
02 Hydref 2017
Bydd ffigwr blaenllaw yn yr astudiaeth o bolisi tramor yr Unol Daleithiau a dylanwad mawr ar bolisi rhyngwladol yr Arlywydd Obama yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 5 Hydref 2017.
Bydd yr Athro Stephen M. Walt o Brifysgol Harvard yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol E H Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mewn darlith a ddisgrifir fel datganiad mawr ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau, bydd yr Athro Walt yn trafod “US Grand Strategy after the Cold War: Can Realist Theory explain it? Should realism guide it?”.
Hon fydd darlith rhif 34 yng nghyfres 'Darlithoedd Carr', sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhyngwladol fel y gyfres ddarlithoedd ag enw fwyaf nodedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.
Dywedodd yr Athro Ken Booth o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae’n anrhydedd fod yr hynod brysur Stephen Walt, wedi cytuno i draddodi’r ddarlith hon. Mae'n ffigwr deallusol cyhoeddus mawr a diflewin yn yr Unol Daleithiau (edrychwch ar ei gyfri twitter); dywedir iddo fod yn ddylanwad mawr ar syniadau polisi tramor Obama, ac mae'n ysgolhaig eithriadol.
“Yng nghyfnod Trump, Kim Jong-un a Putin, mae natur strategaeth fawr yr Unol Daleithiau yn destun hollbwysig i ni i gyd, ac mae hwn yn gyfle i glywed dadansoddwr sydd yn enwog yn rhyngwladol yn trafod ei syniadau.”
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 6pm nos Iau 5 Hydref 2017.
Fel golygydd sy'n cyfrannu at y cylchgrawn dylanwadol Foreign Policy, yn ogystal â bod yn academydd nodedig (cyn Harvard, bu'n dysgu yn Princeton a Chicago), mae'r Athro Walt yn ffigwr allweddol yn yr astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol.
Derbyniodd sawl anrhydedd a gwobr, gyda llyfrau fel Taming American Power (2005).
Gellir dadlau mai'r llyfr a ysgrifennodd ar y cyd gyda J. J Mearsheimer, The Israel Lobby (2007), yw'r gwaith y trafodwyd fwyaf arno a’r mwyaf dadleuol ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau yn yr 21ain ganrif.
E H Carr
Daeth E.H. Carr yn bedwerydd deiliad Cadair Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth pan gafodd ei benodi yn 1936.
Ac yntau, yn nes ymlaen yn ei yrfa, wedi dod yn Sofietolegydd uchel ei barch ac yn ysgolhaig ym maes cysylltiadau rhyngwladol, Aberystwyth oedd swydd academaidd gyntaf Carr wedi gyrfa lwyddiannus yn y gwasanaeth diplomyddol.
Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, ysgrifennodd Carr ei gyfrol enwocaf, o bosibl, sef The Twenty Years Crisis, a gyhoeddwyd yn 1939.
Fe’i hystyrir yn glasur ym maes damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, ac yn un o’r testunau realaidd modern cyntaf, ac roedd y syniadau a goleddai yn ei waith yn gwbl anghymharus â’r hyn a gafwyd gan David Davies, sefydlydd y gadair.
Gadawodd Carr yr Adran yn fuan wedi’r rhyfel yn 1947, a mynd i ddarlithio i Brifysgol Rhydychen, lle cyhoeddodd glasur arall, ym maes hanesyddiaeth y tro hwn, sef What is History?
Sefydlwyd Cadair EH Carr yn 1999 ac mae’n cydnabod ysgolheictod rhagorol mewn cysylltiadau rhyngwladol.