Cyfres Flog It y BBC yn dod i’r Hen Goleg
Paul Martin, cyflwynydd Flog it
19 Medi 2017
Bydd Flog It, rhaglen henebion boblogaidd BBC One, yn cynnal diwrnod prisio am ddim yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar ddydd Iau, 19 Hydref 2017.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ddod i’r Hen Goleg gyda hyd at dair heneb neu gasgliad y gallent fod â diddordeb i’w gwerthu. Ar ôl asesu’r eitem, bydd y perchennog a thîm o arbenigwyr yn penderfynu a yw’n cael ei ffilmio a’i anfon i arwerthiant yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mercher 8 Tachwedd 2017.
Bydd pawb sy’n dod i’r diwrnod prisio yn derbyn asesiad o’u heitemau - hyd yn oed os na fyddant yn cael eu dewis ar gyfer ffilmio neu fynd i arwerthiant.
Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, Iaith Gymraeg a Diwylliant, ac Ymgysylltu Allanol, Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r Hen Goleg yn adeilad sy’n cael ei drysori’n lleol ac yn cael ei gydnabod fel un o ddarnau pensaernïol Gothig mwyaf arwyddocaol y DU. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi neilltuo mwy na £10 miliwn i helpu i’w drawsnewid yn ganolfan dreftadaeth a diwylliannol fywiog. Rydym wrth ein bodd fod tîm Flog It yn dod atom ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig croeso cynnes i ymwelwyr. Dyma gyfle perffaith i gynulleidfa eang gael mwynhau’r adeilad rhyfeddol hwn a'i hanes diddorol.
Dywedodd y cyflwynydd Paul Martin, "Mae'n wych o beth bod Flog it yn dod i Aberystwyth; Rydw i mor falch o gael cyfle i rannu'r rhan hardd hon o Gymru gyda'n gwylwyr. Rydym bob amser yn derbyn croeso cynnes ac rwy'n gobeithio y bydd digon o bobl yn bachu ar y cyfle i ddod â'u heitemau i’w dangos i ni."
Bydd y BBC yn ffilmio pedwar rhifyn o'r sioe sy’n cynnwys yr Hen Goleg a byddant yn cael eu darlledu yn y deunaw mis nesaf. Bydd yr arbenigwyr Christina Trevanion, Raj Bisram a David Harper yn ymuno gyda’r cyflwynydd Paul Martin ar gyfer y diwrnod prisio.
Bydd BBC Flog yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AU rhwng 9.30yb a 4.00yp ar ddydd Iau, 19 o Hydref 2017. Bydd yr eitemau a ddewiswyd ar gyfer ffilmio yn ystod y diwrnod prisio yn mynd o dan y morthwyl yn Peter Francis Auctions ar ddydd Mercher 8 Tachwedd 2017.