Ffisegwyr o Aberystwyth yn defnyddio adnodd pelydr-x newydd arloesol i astudio deimyntau
Yr Athro Andrew Evans (rhes flaen, trydydd o’r chwith) yn agoriad labordy newydd VERSOX yn Ffynhonnell Olau Deimwnt.
14 Medi 2017
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth ymhlith y cyntaf i ddefnyddio adnodd pelydr-x newydd arloesol yn un o ganolfannau ymchwil gwyddonol mwyaf datblygedig y byd.
Datblygwyd VERSOX, sydd yng nghanolfan ymbelydredd syncrotron genedlaethol y DU yn Swydd Rhydychen, gan dîm o wyddonwyr sydd yn cynnwys yr Athro Andrew Evans, pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr Athro Evans yw cadeirydd Grŵp Gweithredol Defnyddwyr VERSOX, buddsoddiad o rai miliynau o bunnoedd a gyflenwodd ei ‘olau cyntaf’ ym mis Mehefin 2017.
Ar ddechrau Awst 2017 bu’r Athro Evans a chydweithwyr o’r grŵp ymchwil Ffiseg Deunyddiau yn Aberystwyth yn defnyddio’r adnodd newydd i astudio deimyntau.
Roedd eu gwaith yn canolbwyntio yn benodol ar nano-ddeimyntau, sy'n mesur 5 nanomedr ar draws. Byddai dros filiwn o’r deimyntau yma yn ffitio ar glopa pin.
Mae'r tîm yn astudio sut y gellid defnyddio'r deimyntau bychain iawn hyn sy'n cael eu cyflenwi gan DeBeers i wella'r modd y caiff cyffuriau eu cyflwyno i’r corff ar gyfer trin cyflyrau megis cancr.
Mae VERSOX, a gymerodd bum mlynedd i’w ddatblygiad a’i adeiladu, yn rhan o Ffynhonnell Olau Deimwnt (Diamond Light Source) ar Gampws Ymchwil ac Arloesedd Harwell yn Swydd Rhydychen.
Cynlluniwyd Ffynhonnell Olau Deimwnt i weithio fel microsgop anferth drwy harneisio pŵer electronau i gynhyrchu pelydrau golau llachar y mae gwyddonwyr yn medru eu defnyddio i astudio unrhyw beth o ffosilau i beiriannau jet, firysau a brechlynnau.
Mae VERSOX yn un o gyfres o labordai a elwir yn 'beamlines' sy'n cipio’r pelydrau golau llachar, gan roi i ymchwilwyr beiriant sydd 10,000 gwaith yn fwy pwerus na microsgop traddodiadol.
Cyfleuster pelydr-X meddal hyblyg yw VERSOX sydd wedi'i gynllunio ar gyfer astudio elfennau gan gynnwys y rhai sy'n hanfodol ar gyfer bywyd: carbon, nitrogen ac ocsigen.
Dywedodd yr Athro Evans: “Mae VERSOX yn cynnig offeryn unigryw ar gyfer datblygu deunyddiau yn y dyfodol, gan ei fod yn caniatáu i ymchwilwyr astudio strwythurau atomig, natur gemegol a chyfansoddiad yr arwynebau o dan bwysau sydd bron yn amgylchol (ambient), gan ddarparu data byd go-iawn pwysig ar gyfer ystod eang o ddeunyddiau a chymwysiadau.
“Bydd y cyfleuster o fudd i ystod amrywiol o feysydd gwyddonol, gan gynnwys fferylliaeth, electroneg, cemeg amgylcheddol a chadwraeth treftadaeth, ac rydym yn falch iawn taw'r grŵp o Aberystwyth yw un o’r cyntaf i’w ddefnyddio,” ychwanegodd.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arbenigo mewn ffiseg arwynebau deimwnt a gorchuddion gyda moleciwlau, metelau, inswleiddwyr a graffin, a hefyd yn y modd y mae deimyntau yn ymateb i olau er mwyn hwyluso’r gwaith o greu strwythurau cwantwm newydd.
Mae Aberystwyth yn un o wyth prifysgol partner i ennill Canolfan Ddysgu Ddoethurol mewn Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Deimwnt gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol.
Mae gwaith y Ganolfan yn addo llawer o dechnolegau arloesol sy'n seiliedig ar ddeimwnt a mewnwelediadau gwyddonol gwreiddiol.
Mae myfyrwyr PhD o'r Brifysgol yn defnyddio'r dulliau pelydr-x meddal sydd ar gael trwy VERSOX i astudio’r rhyngwynebau rhwng deimwnt, nano-ddeimyntau a moleciwlau organig ar gyfer eu defnyddio ym meysydd electroneg, cyfrifiadureg cwantwm a chyflenwi cyffuriau.
Mae’r Athro Evans, sydd yn awdurdod byd-eang ar arwynebau deimwnt, yn siaradwr gwadd yng Nghyfarfod ac Arddangosfa’r Hydref 2017 y Gymdeithas Ymchwil Deunyddiau Ewropeaidd sy'n agor yn Warsaw, Gwlad Pwyl, ddydd Sul 17 Medi.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.