Aberystwyth ymhlith ‘elît’ prifysgolion
O’r 1102 o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys yn rhifyn 2018, mae Aberystwyth yn 186fed am Olygwedd Ryngwladol.
05 Medi 2017
Mae Aberystwyth, un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, hefyd yn un o brif brifysgolion y byd am ei 'golygwedd ryngwladol' yn ôl y Rhestr Prifysgolion y Byd y Times Higher Education ddiweddaraf.
Cafodd Rhestr Prifysgolion y Byd y Times Higher Education 2018 ei lansio yn Uwchgynhadledd Academaidd y Byd y Times Higher Education yn Llundain heddiw, ddydd Mawrth 5 Medi 2017, ac mae’n cynnwys y “1000 prifysgol elît” am y tro cyntaf.
Mae sefydliadau o 77 o wledydd gwahanol wedi'u rhestru, gyda chynrychiolaeth gynyddol o’r egin bwerdai sy'n dod i'r amlwg megis Tsieina a De Corea ymhlith eraill.
Seiliwyd y rhestr ar bum piler perfformiad sy'n cynrychioli maes allweddol o ragoriaeth mewn addysg uwch; Golygwedd Ryngwladol, Incwm Diwydiant, Cyfeiriadau Academaidd, Ymchwil ac Addysgu, ac mae Prifysgol Aberystwyth wedi'i rhestri yn y 350 sefydliad uchaf ledled y byd.
O’r 1102 o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys yn rhifyn 2018, mae Aberystwyth yn 186fed am Olygwedd Ryngwladol.
Yn ogystal, gwelodd Rhestr Prifysgolion y Byd y THE gynnydd yn nifer y sefydliadau o’r DU sydd wedi eu cynnwys.
O'r 93 o sefydliadau o’r DU sydd wedi eu cynnwys yn rhifyn 2018, mae Prifysgol Aberystwyth yn gydradd 39eg, ac yn cadw ei safle yn y 40 uchaf.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Rhyngwladol: "Rydym wrth ein bodd unwaith eto ein bod yn ymddangos mor uchel yn Rhestr Prifysgolion y Byd y THE, a bod y gymuned addysg wych hon wedi ei chydnabod am yr olygwedd ar amgylchedd rhyngwladol mae’n eu cynnig. Ein nod yw ysbrydoli a thrawsnewid bywydau ein myfyrwyr trwy ymchwil ac addysgu arloesol, a hynny o fewn amgylchedd sy'n gynhwysol a chefnogol, ac sy'n galluogi ein myfyrwyr i ymgysylltu â'r byd ehangach ac i groesawu ei heriau. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant diweddaraf hwn wrth inni greu profiad dysgu creadigol ac adeiladol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr Aberystwyth o bob cwr o'r byd.”
Wrth lunio Rhestr Prifysgol y Byd 2018, mae tîm data’r Times Higher Education wedi casglu cannoedd o filoedd o bwyntiau data gan fwy na 1,500 o sefydliadau ar draws y byd.
Maent hefyd wedi asesu ymatebion gan fwy nag 20,000 o academyddion i'w harolygon enw da academaidd blynyddol, ac maent wedi gweithio gyda'r cyhoeddwr Elsevier i archwilio 62 miliwn o gyfeiriadau i 12.4 miliwn o gyhoeddiadau ymchwil.
Bellach yn ei 13eg flwyddyn, lansiwyd Rhestr Prifysgolion y Byd y Times Higher Education yn 2004 gyda 400 o sefydliadau wedi'u cynnwys.
Mae Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch gorau yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017.
Roedd bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.