Llwyddiant i rewlifegwyr wrth iddynt dyllu rhewlif uchaf y byd
Aelodau Prifysgol Aberystwyth o brosiect EverDrill, Katie Miles a’r Athro Bryn Hubbard, yn chwifio’r faner o flaen safle dyllu rhif 3 ar rewlif Khumbu, nepell o Wersyll Cyntaf Everest.
30 Mehefin 2017
Mae gwyddonwyr newid hinsawdd wedi llwyddo yn ei hymgais i dyllu rhewlif uchaf y byd am y tro cyntaf.
Bu’r tîm o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds yn gweithio ar rewlif Khumbu yn nhroedfryniau Mynydd Everest am chwe wythnos.
Ar uchder o 5000 metr, defnyddiodd y tîm beiriant golchi ceir wedi ei addasu i dyllu i lawr i'r rhewlif 17km ar dri safle gwahanol.
Yna gosodwyd synwyryddion i gofnodi tymheredd mewnol y rhewlif a sut mae’n llifo.
Ar y safle uchaf ger gwersyll cyntaf Everest, bu’r tîm yn tyllu am dri diwrnod gan gyrraedd 150metr i’r rhewlif cyn cofnodi strwythur mewnol gan ddefnyddio camera 3600.
Roedd y daith yn rhan o brosiect EverDrill sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Leeds a’r tyllu yn cael ei arwain gan yr Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth.
Mae’r uned olchi ceir gafodd ei defnyddio gan y tîm yn cynhyrchu chwistrelliad o ddŵr poeth ar bwysedd o hyd at 120 bar - digon i dorri trwy dar-macadam garw.
Dywedodd yr Athro Hubbard: “Mae gweithio yn y maes yn dipyn o her ar y gorau, ond y tro hwn gweithiodd yr offer gystal â’r disgwyl a ninnau mor uchel, â’r awyr mor denau. O’r cychwyn roeddem yn disgwyl dod o hyd i lawer o gerrig a chreigiau yn yr ia. Byddai hynny wedi gwneud y gwaith tyllu yn fwy heriol. Ond fel gweithiodd pethau, roedd y tyllu ar y pwyntiau isaf ac uchaf yn gymharol hwylus, sydd yn dweud llawer wrthym am strwythur mewnol y rhewlif.”
Ar ben isaf Khumbu, llwyddodd y tîm i dyllu 45 metr, gan gyrraedd i lawr at wely’r rhewlif.
Ar y pwynt canol, tarodd y tîm gerrig a gwaddodion mwd a chyfyngwyd y tyllu i rhwng 15 ac 20 metr.
Bydd y data a gesglir yn cael ei gyfuno â lluniau lloeren i ddeall sut mae’r rhewlif yn symud ac yn newid dros amser, a sut y gallai ymateb i’r newidiad hinsawdd a ragwelir.
Mae Khumbu mewn ardal sy’n enwog am ei gweithgarwch seismig ac sy’n dueddol o ddioddef daeargrynfeydd mawr, ac mae’r rhewlif a’r ardaloedd cyfagos yn ffynhonnell ddŵr i tua 40% o boblogaeth y byd.
Serch hynny, mae’r argaeau a’r llynnoedd sy’n ffurfio ar y rhewlif yn golygu bod yna risg sylweddol o fflach-lifogydd i’r bobl sy’n byw i lawr yr afon.
Dywedodd yr Athro Hubbard: “Mae deall beth yn union sy’n digwydd y tu mewn i’r rhewlifoedd hyn yn hanfodol wrth ddatblygu modelau cyfrifiadurol o’u hymateb i’r newidiadau hinsoddol a ragwelir. Mae hefyd yn bwysig meithrin gwell dealltwriaeth o sut y maent yn llifo fel bod modd i ni ragweld yn well pryd mae’r argaeau sy’n ffurfio ar y rhewlifoedd hyn yn debygol o dorri, gan ryddhau llifeiriant aruthrol o ddŵr i’r dyffrynnoedd islaw. Mae hyn yn risg gwirioneddol ym mynyddoedd yr Himalaia, fel y mae mewn ardaloedd eraill megis yr Andes, ac mae ganddo’r potensial i beryglu bywydau miloedd o bobl.”
Dywedodd Dr Duncan Quincey, arweinydd prosiect EverDrill: “Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un gasglu data islaw wyneb rhewlif Khumbu. Drwy ddeall strwythur a thymhered fewnol y rhewlif a’r modd y mae’n llifo, mae modd i wyddonwyr rhagweld yn well sut y bydd y rhewlif hwn ac eraill yn yr ardal yn ymateb i newid hinsawdd dros y degawdau nesaf.”
Roedd yr ymchwilydd ol-raddedig o Ganolfan Rewlifeg Prifysgol Aberystwyth, Katie Miles yn gweithio gyda’r Athro Hubbard ar y rhewlif, ynghyd â Dr Duncan Quincey of Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol Leeds a’r Ymchwilydd Ol-Doethuriaethaol Evan Miles.
Cyn dechrau ar y gwaith tyllu bu rhaid i aelodau’r tîm ddringo i fyny i’r rhewlif dros gyfnod o 8 diwrnod er mwyn cynefino gyda’r lefelau is o ocsigen ar 5000 metr.
Bydd aelodau o’r tîm yn dychwelyd i safleoedd tyllu ar Khumbu yn hydref 2017 er mwyn casglu synhwyryddion tymheredd ac i astudio sut mae’n symud yn ystod y tymor gwlyb.
Mae data lloeren yn awgrymu bod y rhewlif yn symud mwy yn ystod tymor y monsŵn ac mae’r tîm yn gobeithio cadarnhau’r data hwn gyda data o’r rhewlif ei hun.
Yn ogystal mae’r tîm yn cynllunio ail dymor o dyllu ar rewlif Khumbu yn ystod gwanwyn 2018.
Mae’r Dr Quincey yn goruchwylio gwaith synhwyro o bell (delweddau lloeren) y prosiect.
Mae’r gwaith tyllu a’r synhwyro o bell wedi ei gyllido gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, NERC.
Yr Athro Bryn Hubbard
Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard ym mis Ionawr 2016 i gydnabod ei waith fel “ysgolhaig Pegynol mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ”.
Astudiaeth Himalaia 2018 fydd ei 30ain flwyddyn olynol i gynnwys cyfnod o waith maes rhewlifegol.
Er 1988 mae’r Athro Hubbard wedi gweithio yn Antarctica ar chwe achlysur, astudio mudiant rhewlifoedd ar uchelderau mawr yn yr Andes ym Mheriw ar dri achlysur, gweithio yn y Lasynys ar bum achlysur ac ar Svalbard wyth o weithiau, yn ogystal ag Arctig Canada a Norwy.
Cyn ymchwilio ar fasau iâ mwy egsotig y byd, cyflawnodd waith maes yn Alpau Ewrop, gan arwain neu gymryd rhan mewn gwersylloedd maes ar tua 20 achlysur.