Cyflogadwyedd graddedigion Aberystwyth yn parhau i godi
29 Mehefin 2017
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio nac erioed o’r blaen.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod 95.4% o raddedigion gradd gyntaf amser llawn Aberystwyth o’r DU/UE naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw (ddydd Iau 29 Mehefin, 2017) fel rhan o arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch blynyddol yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn gosod Aberystwyth 1% ar y blaen i gyfartaledd y sector yn gyffredinol.
Dengys y data hefyd bod 75.6% o raddedigion gradd gyntaf amser llawn Aberystwyth o’r DU/UE mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach mewn swyddi o safon broffesiynol neu’n parhau gyda’u hastudiaethau ar safon raddedig.
Yn ogystal mae rhai perfformiadau nodedig ymhlith adrannau academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae 100% o raddedigion 2016 Celf, Addysg, Y Gyfraith a'r Gymraeg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl cwblhau eu cwrs, a 98.5% o raddedigion Cyfrifiadureg.
Ac mae unarddeg o adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi perfformio yn well na chyfartaledd y sector am y myfyrwyr sydd naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach.
Ar ben hynny, mae 95.4% o raddedigion Cyfrifiadureg hefyd mewn swyddi proffesiynol i raddedigion, 13.4 pwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd ar draws y sector yn y DU.
Mae Ashley Rhys Evans yn un o’r rhai a dderbyniodd radd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2016 wedi iddo sicrhau gradd Dosbarth Cyntaf BA Cymraeg a Ffilm a Theledu.
Ychydig cyn graddio, cafodd Ashley wybod bod ei gais i ymuno â BBC Cymru wedi bod yn llwyddiannus.
Erbyn hyn mae'n gweithio fel cynorthwyydd darlledu yn adran newyddion a materion cyfoes BBC Cymru.
"Rwy’n sicr bod fy ngradd yn Aberystwyth wedi bod o gymorth wrth i fi sicrhau’r swydd ddelfrydol i mi gyda’r BBC, yn enwedig yr elfennau ymarferol. Roedd yn gwrs ymarferol gyda nifer o wythnosau o brofiad gwaith gwerthfawr ac rwy'n falch iawn o ddweud bod rhai darnau o fy ngwaith wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn ystod fy amser fel myfyriwr, a bellach wedi cael eu cydnabod gan fy nghyflogwr”, meddai Ashley.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Fel Prifysgol, ein nod yw mynd â'n myfyrwyr ar daith i ble maent am fod yn y dyfodol. Mae hynny'n golygu eu paratoi yn ddeallusol ar gyfer yr heriau o'u blaenau, yn ogystal â rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y byd gwaith neu astudiaeth bellach”, dywedodd.
"Rydym wedi datblygu ystod o fentrau fel bod gan ein myfyrwyr yr wybodaeth a'r galluoedd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Rydym yn hyrwyddo interniaethau cyflogedig, rydym yn cefnogi sefydlu busnesau newydd ac arloesedd, ac rydym yn creu cysylltiadau â busnes a diwydiant. Mae'r ffigurau diweddaraf gan HESA yn dangos bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer y cam nesaf ymlaen wedi iddynt raddio.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod cynyddol eang o gyrsiau pedair blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant integredig, sy’n caniatáu i fyfyrwyr dreulio amser yn gweithio i gwmni yn eu dewis faes.
Mae’r cynnig hwn, ochr yn ochr gyda chynllun Blwyddyn Mewn Gwaith y Brifysgol sydd bellach yn ei 40fed blwyddyn, yn golygu bod gan bob myfyriwr y dewis o flwyddyn o brofiad gwaith gwerthfawr cyn graddio.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol hefyd yn darparu ystod gynhwysfawr o gyfleoedd i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu rhagolygon gyrfa, gan gynnwys yr interniaethau poblogaidd AberYmlaen.
Yn ogystal mae Athrofa Busnes a'r Gyfraith y Brifysgol hefyd wedi cyflwyno modiwl cyflogadwyedd newydd ac yn gweithio gyda sefydliadau lleol i ddarparu profiad gwaith go iawn i fyfyrwyr.
A gall graddedigion sy’n awyddus i wireddu syniadau busnes fanteisio ar raglen lawn o ddigwyddiadau arloesedd sy’n cael eu trefnu gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd fel rhan o raglen AberPreneurs, sydd yn cynnwys y gystadleuaeth syniadau myfyrwyr poblogaidd, InventerPrize.
Ac, ar gyfer y rhai sy'n chwilio am gyngor gan gylch ehangach, mae’r llwyfan cyffrous eFentora yn caniatáu i gyn-fyfyrwyr Aber gynnig mentora ac arweiniad i fyfyrwyr presennol a graddedigion ifanc.