Pennaeth Rhaglenni newydd BBC Radio 1 o Aberystwyth
Aled Haydn Jones yn derbyn Gradd er Anrhydedd yn y Celfyddydau oddi wrth Dirprwy Ganghellor y Brifysgol, Elizabeth France, yn 2016.
16 Mehefin 2017
Penodwyd Aled Haydn Jones sydd yn enedigol o Aberystwyth yn Bennaeth Rhaglenni BBC Radio 1.
Cafodd Aled, a ddechreuodd ei yrfa yn y cyfryngau drwy weithio gyda Radio Bronglais a Radio Ceredigion, ei urddo gyda Gradd er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Brifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2016.
Ac yntau’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Penweddig, bu Aled yn astudio Astudiaethau’r Cyfryngau yng Ngholeg Abertawe.
Ymunodd â BBC Radio 1 fel cynorthwyydd darlledu yn 1998 ac yna aeth ymlaen i fod yn aelod o dîm y DJ Chris Moyles, yn gyntaf ar y sioe prynhawn, ac yna i oruchwylio lansiad rhaglen frecwast Chris Moyles yn 2004.
Aled hefyd oedd cyflwynydd rhaglen The Surgery lle bu’n rhoi cyngor i bobl ifainc fregus yn fyw ar yr awyr am chwe blynedd.
Mae hefyd wedi bod yn gyflwynydd ar S4C ar raglenni WawFfactor, Cân i Gymru ac ar ei raglen ei hun Llond Ceg yn trafod materion sy'n wynebu pobl ifainc yng Nghymru.
Yn fwy diweddar mae wedi bod yn rheoli rhaglenni a digwyddiadau penwythnos Radio 1 gan gynnwys The Teen Awards a Big Weekend.
Cafodd Aled ei Radd er Anrhydedd gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Lauren Marks ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2016.