Prifysgol Aberystwyth yn lansio arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig
Wyn Morris (Chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.
13 Mehefin 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw ar ffermwyr yn ardal Heddlu Dyfed-Powys i gyfrannu at astudiaeth newydd o droseddau mewn ardaloedd gwledig.
Mae'r Astudiaeth Troseddu Gwledig yn cael ei harwain gan Wyn Morris a Dr David Dowell o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg.
Mae’r holiadur ar bapur ac ar-lein tan Ddydd Gwener 30 Mehefin 2017, yn gofyn am fanylion am ffermydd a phrofiadau ffermwyr o droseddau sy'n gysylltiedig â ffermydd.
Mae hefyd yn ceisio barn ffermwyr ar agwedd yr heddlu tuag at achosion o ddwyn o ffermydd a'u hymddiriedaeth yn eu cymunedau lleol, yr heddlu a'r system gyfreithiol.
Bydd y canfyddiadau'n sail i ddatblygu camau newydd gan Heddlu Dyfed-Powys i daclo troseddu mewn ardaloedd gwledig a darparu cyngor i ffermwyr ar y ffordd orau i roi gwybod am ladrad fferm.
Dywedodd y Seicolegydd Troseddol Dr Gareth Norris: “Mae'r astudiaeth hon wedi cael ei chynllunio i gael gwell dealltwriaeth o wir faint troseddu mewn ardaloedd gwledig a'r heriau sy’n wynebu’r gymuned amaethyddol a'r heddlu. Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio'r modd y mae troseddau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hadrodd a'u cofnodi yn y dyfodol, ac yn tynnu sylw at ddifrifoldeb y broblem o droseddau yng nghefn gwlad.”
Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd gan y Rhwydwaith Troseddu Gwledig Cenedlaethol (National Rural Crime Network NRCN) yn 2015, gallai gwir gost troseddau gwledig yng Nghymru a Lloegr fod yn fwy na £800m, yn sylweddol uwch nac amcangyfrifon blaenorol.
Nododd astudiaeth a gyhoeddwyd gan NFU Mutual yn 2016 bod beiciau ATV/cwad, peiriannau fferm ac offer masnachol, a da byw yn y pum eitem uchaf i gael eu targedu gan ladron.
Ychwanegodd Dr Norris: "Mae'r dystiolaeth yn awgrymu taw grwpiau troseddau trefnedig sydd yn gyfrifol am lawer o'r lladrata o ffermydd. Maent yn gwybod am beth y maent yn chwilio ac mae ganddynt farchnad barod ar gyfer eu henillion. Mae dwyn defaid a gwartheg yn galw am wybodaeth arbenigol am y diwydiant, nid yn unig i ddal a chludo’r anifeiliaid, ond hefyd i’w prosesu a’u gwaredu yn gyflym heb adael ôl troed.
“Ar wahân i'r gost ariannol, mewn rhai achosion mae ffermwyr yn colli anifeiliaid sydd yn ffrwyth cenedlaethau o waith bridio. Mae’r sgìl effeithiau yn sylweddol uwch na’r anghyfleustra tymor byr o golli ambell anifail”, ychwanegodd.
Mae'r astudiaeth wedi derbyn cefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) a Chynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru Cyf.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys: "Mae ardal Heddlu Dyfed-Powys yn un o’r mwyaf gwledig a’r ardal blismona fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae gennym lawer o gymunedau gwledig ac rydym wedi ymrwymo i ddeall yn llawn anghenion a gofynion yr holl grwpiau, cymunedau a sectorau busnes. Bydd yr arolwg hwn yn cefnogi Heddlu Dyfed-Powys drwy ein galluogi i ddeall y pwysau unigryw sy'n wynebu ardaloedd gwledig, ac yn arbennig y troseddau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar amaethyddiaeth, a bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy'n bodloni’r gofynion hyn yn effeithlon. Yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys, rwy’n ymroddedig i ymgysylltu'n rheolaidd â phob cymuned drwy ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau o fewn prifysgolion lleol i gefnogi hyn, ac yn annog pobl i gymryd rhan er mwyn rhoi gwybod i ni am y materion hyn.”
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda heddluoedd ledled Cymru i dynnu sylw at effaith ddinistriol troseddu gwledig a phwysigrwydd cael tîm troseddau gwledig penodol ers nifer o flynyddoedd. Mae'r newid parhaus i’r tirwedd troseddu mewn ardaloedd gwledig yn destun gofid cynyddol, yn enwedig os yr ydym yn ystyried faint o droseddau sydd ddim yn cael eu hadrodd, a chredwn yn gryf bod angen cydweithio’m well er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym yn annog ein haelodau i lenwi'r arolwg, gan y bydd y canfyddiadau’n sail i gamau newydd sy'n cael eu datblygu gan Heddlu Dyfed-Powys i daclo troseddau mewn ardaloedd gwledig, ac yn ddefnyddiol ar gyfer darparu cyngor i ffermwyr ar y ffordd orau i roi gwybod am ladrad fferm.”
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Stephen James: "Mae troseddu gwledig yn rhywbeth a fydd wedi cyffwrdd y rhan fwyaf o fusnesau fferm mewn un ffordd neu'r llall ar ryw adeg - mae wedi bod yn broblem i’r diwydiant am flynyddoedd lawer. Mae NFU Cymru yn croesawu’r astudiaeth newydd hon ac yn annog ffermwyr ar draws Dyfed-Powys i gyfrannu eu barn a chynorthwyo’r heddlu i ddod o hyd i ffyrdd newydd i fynd i'r afael â'r broblem hon.”
Mae’r Astudiaeth Troseddau Gwledig ar gael yma: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/astudiaeth-trosedd-wledig-1
Mae copïau papur ar gael gan Wyn Morris, Ysgol Fusnes Aberystwyth dmm@aber.ac.uk / 01970 622513.