Y chwilio am fodau dynol cynnar yn ysbrydoli arddangosfa gelf
06 Mehefin 2017
Mae arddangosfa gelf-wyddoniaeth newydd sy’n ceisio deall amgylchedd hinsoddol ein cyndeidiau cynnar i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar hyn o bryd.
Gwaith Julian Ruddock yw 2A: Earth Core: The Hominin Project, artist preswyl ar y Prosiect Drilio Safleoedd Hominin a Phaleolynoedd sy'n ceisio deall y cysylltiad rhwng newid yn yr hinsawdd ac ymddangosiad bodau dynol modern.
Ers 2012, mae'r prosiect wedi bod yn casglu cofnodion o newid yn yr hinsawdd yn ne Ethiopia sy'n ymestyn yn ôl dros 500,000 o flynyddoedd.
Ym mis Tachwedd 2014 treuliodd Julian Ruddock bythefnos ar y prosiect wrth iddynt dyllu’n ddwfn i mewn i fasn llyn sych Chew Bahir yn ardal Rifft de Ethiopia.
Canolbwynt yr arddangosfa yw delweddau sydd wedi eu tynnu ymhell islaw wyneb y llyn sych ac sydd yn rhoi cip ar y tirwedd hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ar hyn o bryd mae Julian Rudock yn astudio ar gyfer PhD mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Aberystwyth.
Mae wedi bod yn gweithio'n agos ar yr arddangosfa gyda'r Athro Henry Lamb o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prif Ymchwilydd ar Brosiect Drilio Safleoedd Hominin a Phaleolynoedd.
Mae'r cynlyn ger safleoedd lle mae'r ffosilau hynaf y gwyddys amdanynt o Homo sapiens, yn dyddio'n ôl bron i 200,000 o flynyddoedd, wedi cael eu darganfod.
Mae creiddiau gwaddod a gymerwyd o'r safle yn rhychwantu cyfnod cynharaf y dyn modern ac yn darparu tystiolaeth o'r hyn y byddai'r hinsawdd wedi bod ar y pryd.
Gallent hefyd ddatgelu gwybodaeth bwysig am pam a phryd y gadawodd dyn modern Affrica am y tro cyntaf, o bosibl mor gynnar â 130,000 o flynyddoedd yn ôl.
Esbonio Julian Ruddock: “Mae celf a gwyddoniaeth yn rhannu llawer o nodweddion, megis arsylwi ac arbrofi, ac eto’n parhau’n feysydd ymholi ar wahân i raddau helaeth.
“Wrth ddod â'r ddau faes yma at ei gilydd mewn un prosiect, mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y wyddoniaeth sy'n ceisio deall amgylchedd hinsoddol y gorffennol pell.
“I mi, mae'n deillio o ddiddordeb mewn esblygiad tirwedd, effaith pobl ar yr amgylchedd a chydnabyddiaeth o’r angen i gyfathrebu ymchwil newid hinsawdd i gynulleidfa ehangach.”
“Mae'r arddangosfa yn ymateb i'r wyddoniaeth, tirwedd ryfeddol Ethiopia a'r bobl sy’n gweithio ar y prosiect.”
Mae arddangosfa 2A: Earth Core: The Hominin Project i’w gweld tan y 10 Mehefin 2017.
Ar Ddydd Mercher 7 Mehefin bydd yr oriel ar agor yn hwyr a bydd dangosiad arbennig o'r clasur o 1959 Journey to the Centre of the Earth yn sinema Canolfan y Celfyddydau. Pris tocyn yw £3.