Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnal Brecwast Busnes
Arweinwyr busnes o bob rhan o'r rhanbarth yn y Brecwast Busnes a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Aberystwyth mewn partneriaeth â Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG)
05 Mehefin 2017
Mae arweinwyr busnes o bob rhan o'r rhanbarth wedi dod at ei gilydd ar gyfer Brecwast Busnes a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Aberystwyth mewn partneriaeth â Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG).
Roedd y digwyddiad poblogaidd yn yr Ysgol Fusnes ar gampws Llanbadarn fis Ebrill yn canolbwyntio ar adeiladu ac adfywio cysylltiadau gyda'r gymuned fusnes lleol.
Roedd cynrychiolwyr o nifer o sectorau, yn bresennol ynghyd â chwmnïau o Aberystwyth gan gynnwys Menter a Busnes ac Aber Instruments.
Dywedodd yr Athro Jo Crotty, Cyfarwyddwr yr Athrofa Busnes a’r Gyfraith: "Roedd Ysgol Fusnes Aberystwyth yn falch iawn o gefnogi MWMG drwy gynnal y brecwast busnes. Roedd yn gyfle gwych i bobl fusnes o bob rhan o'r rhanbarth gyfarfod a gwneud cysylltiadau. Mae'n hanfodol bod yr Ysgol wedi ei gwreiddio yn y gymuned fusnes lleol ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i ni arddangos a dangos sut y gallwn ddarparu cyfleoedd gyda'r cwmnïau hyn. "
Dywedodd Ceri Stephens, Rheolwr Grŵp, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru a Rheolwr Perthynas Siambr Canolbarth Cymru Fasnach: "Hoffwn ddiolch i Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth am weithio gyda ni ar y digwyddiad Brecwast Busnes. Roeddem yn gallu dod ag ystod eang o gwmnïau o bob cwr o'r rhanbarth ynghyd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o waith ein gilydd. Rwy'n edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn y dyfodol lle gallwn adeiladu ar y cysylltiad yma er lles y rhanbarth."
Mae’r Brecwast Busnes yn un enghraifft o’r ffordd mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes lleol. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol, masnachol, y llywodraeth a rhai elusennol, mae’r modiwl achrededig Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn darparu lleoliadau gwaith strwythuredig yn ystod y tymor ar gyfer myfyrwyr Busnes yn eu trydedd flwyddyn.
Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth, sy’n weithgar mewn ymchwil academaidd a pholisi ac fel ymgynghorydd, yn cynnig cyrsiau cyffrous, mewnwelediad cyfoes a datrysiadau cadarnhaol i ofynion newidiol ein byd i fyfyrwyr, gwneuthurwyr polisi a’r gymuned fusnes.
Mae MWMG yn gweithio ar ran dros 140 o gwmnïau Gweithgynhyrchu a Pheirianneg ar draws y Canolbarth a'r Gororau, i yrru twf economaidd a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer ei aelodau a'r sector yn gyffredinol.