Alumna Aber yn ennill Medal Ddrama’r Urdd
Mared Llywelyn Williams, enillydd y Fedal Ddrama 2017
01 Mehefin 2017
Cyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Tac ac Elái 2017.
Daeth Mared Llywelyn Williams, sy’n 24 oed, yn fuddugol gyda drama yn dwyn y teitl “Lôn Terfyn”.
Yn ôl y beirniad, roedd hon yn “ddrama afaelgar” ac roedd “safon ac uchelgais y ddrama hon yn hollol haeddiannol o’r fedal”.
Yn wreiddiol o Forfa Nefyn, fe raddiodd Mared o Brifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda gradd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr.
Aeth yn ei blaen i ddilyn cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol, gan raddio yn 2016.
Ar hyn o bryd, mae Mared yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.
Dywedodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White: “Mae pawb yn yr Adran a’r Brifysgol yn hynod falch o lwyddiant Mared yn un o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd. O’i hadnabod, rwy’n synnu dim ei bod wedi codi i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama. Mae ganddi ddawn ysgrifennu arbennig ac roedd gwthio ffiniau mewn modd gwreiddiol yn nodwedd ar ei gwaith creadigol yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig BA ac MA.”
Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2016, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd oedd yr adran orau o’i bath yn y DU gyda sgôr o 100% am safon ei dysgu ac am fodlonrwydd cyffredinol.
Mae ffigurau cyflogadwyedd yr Adran hefyd yn dangos bod 100% o’i graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth (DHLE 2016).