Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dysgu UMAber 2017
Dr Neil Taylor (canol) o’r Adran Gyfrifiadureg yn derbyn Gwobr Dysgu Arbennig oddi wrth Lauren Marks, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro yn noson Gwobrau Dysgu 2016. Credit: Alex Stuart & AJFS Photography
28 Ebrill 2017
Mae rhestr fer Gwobrau Dysgu 2017 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi’i chyhoeddi.
Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau ar gyfer y tair gwobr ar ddeg, a chafwyd enwebiadau gan staff mewn dau ddosbarth - Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn a’r Wobr Arwain Cydraddoldeb.
Mae’r categorïau yn cynnwys Darlithydd y Flwyddyn, Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn, Tiwtor Personol y Flwyddyn, Gwobr Dysgu Arloesol ac Adran y Flwyddyn.
Yn ogystal, mae categori Clod Arbennig sy'n cydnabod gwaith neu gyfraniadau arbennig i fywyd myfyrwyr nad ydynt efallai yn perthyn yn amlwg i un o'r categorïau eraill.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo fawreddog sydd yn cael ei chynnal gan UMAber yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Wener 5 Mai.
Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae’r gwobrau’’n cydnabod cyfraniad staff sy’n addysgu a’r rhai nad ydynt yn addysgu, a chynrychiolwyr academaidd ar draws y Brifysgol am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Bydd y canlyniadau yn cael eu trydar yn fyw ar y noson gan @Prifysgol_Aber a @UMaberSU.
Mae’r rhestrau terfynol ar gyfer Gwobrau Dysgu 2017 fel a ganlyn:
Darlithydd y Flwyddyn
- Mark Whitehead (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
- Annie Winson (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
- Ved Prukash Torul (PA Mawrisiws)
- Michael Roberts (Hanes a Hanes Cymru)
Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn
- Jackie Hedley (Mathemateg)
- Stephen Fearn a David Lewis (Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg)
- Helen Stockley-Jones (Y Ganolfan Chwaraeon / Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
- Kieran Quaine (Mathemateg)
- Carly Jackson (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
- Philip Perry (Addysg)
- Adrian Mironas (IBERS)
Goruchwyliwr y Flwyddyn (Ôl-raddedig)
- Daniel Burgarth (Mathemateg)
- Lucy Taylor (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
- Helen Whiteland (IBERS)
- Russ Morphew (IBERS)
Goruchwyliwr y Flwyddyn (Israddedig)
- Andrew Davenport (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
- Jim Provan (IBERS)
- Brendan Coyle (Y Gyfraith a Throseddeg)
- Sarah Riley (Seicoleg)
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
- David Cutress (IBERS)
- Adrian Mironas (IBERS)
- Patrick Kavanagh (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
- Alexandros Koutsoukis (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
Gwobr Ddysgu Arloesol
- Matthew Philips (Hanes a Hanes Cymru)
- Nikolas Perdikis (Busnes)
- Jukka Kiukas (Mathemateg)
- Susan Busby (PA Mawrisiws)
Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Ffion Llewelyn (Y Gyfraith a Throseddeg)
- Homagni Choudhury (Busnes)
- Kim Kenobi (Mathemateg)
- Sarah Dalesman (IBERS)
Gwobr Adborth Eithriadol
- Ian Harris (Busnes)
- Martyn Powell (Hanes a Hanes Cymru)
- Kader Izri (Ieithoedd Modern)
- Hazel Davey (IBERS)
Gwobr Cam Nesaf
- Brendan Coyle (Y Gyfraith a Throseddeg)
- Alison Pierse (Dysgu Gydol Oes)
- Adrian Mironas (IBERS)
- Jim Provan (IBERS)
Gwobr Arwain Cydraddoldeb
Cyhoeddir yr enillydd ar y noson
Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
Cyhoeddir yr enillydd ar y noson
Adran y Flwyddyn
- Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
- Ffiseg
- Seicoleg
- Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu