Rhewlifegwr o Aberystwyth i dyllu drwy rewlif uchaf y byd
Yr Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r fyfyrwraig PhD Katie Miles a fydd yn gweithio ar rhewlif Khumbu.
11 Ebrill 2017
Mae gwyddonwyr newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Fynyddoedd yr Himalaia mewn ymgais i fod y cyntaf i dyllu’n llwyddiannus drwy rewlif uchaf y byd.
Bydd yr Athro Bryn Hubbard, sydd wedi ennill Medal y Pegynau, a’i gydweithwyr o Ganolfan Rhewlifeg Aberystwyth, yn teithio i rewlif Khumbu yn nhroedfryniau Mynydd Everest ym mis Ebrill 2017.
Byddant yn treulio hyd at chwe wythnos yn gweithio ar y rhewlif 17 cilomedr o hyd sy’n llifo o uchder o 7600 metr i tua 4900 metr ar ei bwynt isaf.
Wedi’i leoli yng ngogledd-ddwyrain Nepal, mae Khumbu yn cael ei ddefnyddio’n aml gan ddringwyr ar eu ffordd i’r gwersyll cyntaf wrth droed Everest.
Yn gweithio ar uchder o dros 5000m, bydd tîm yr Athro Hubbard yn defnyddio uned golchi ceir wedi’i haddasu’n arbennig i dyllu hyd at 200 metr i mewn i’r iâ.
Ar ôl cwblhau’r gwaith tyllu, bydd modd i’r tîm astudio strwythur mewnol y rhewlif, mesur ei dymheredd, pa mor gyflym y mae’n llifo a sut y mae dŵr yn draenio drwyddo.
Bydd y data a gesglir yn cael ei gyfuno â lluniau lloeren i ddeall sut mae’r rhewlif yn symud ac yn newid dros amser, a sut y gallai ymateb i’r newidiad hinsawdd a ragwelir.
Wedi’i leoli mewn ardal sy’n enwog am ei gweithgarwch seismig ac sy’n dueddol o gael daeargrynfeydd mawr, mae Khumbu a’r cyffiniau yn ffynhonnell ddŵr i tua 40% o boblogaeth y byd.
Serch hynny, mae’r argaeau a’r llynnoedd sy’n ffurfio ar y rhewlif yn golygu bod yna risg sylweddol o fflach-lifogydd i’r bobl sy’n byw i lawr yr afon.
“Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un geisio tyllu i rewlif Khumbu” meddai’r Athro Hubbard. “Mae gweithio yn y maes yn dipyn o her ar y gorau, ond mae’r daith hon yn cyflwyno heriau arbennig. Nid ydym yn gwybod pa mor dda y bydd ein hoffer yn perfformio ar uchder, heb sôn am sut y byddwn ni’n ymdopi â’r aer tenau.”
“Mae deall beth yn union sy’n digwydd y tu mewn i’r rhewlifoedd hyn yn hanfodol wrth ddatblygu modelau cyfrifiadurol o’u hymateb i’r newidiadau hinsoddol a ragwelir. Mae hefyd yn bwysig meithrin gwell dealltwriaeth o sut y maent yn llifo fel bod modd i ni ragweld yn well pryd mae’r argaeau sy’n ffurfio ar y rhewlifoedd hyn yn debygol o dorri, gan ryddhau llifeiriant aruthrol o ddŵr i’r dyffrynnoedd islaw. Mae hyn yn risg gwirioneddol ym mynyddoedd yr Himalaia, fel y mae mewn ardaloedd eraill megis yr Andes, ac mae ganddo’r potensial i beryglu bywydau miloedd o bobl,” ychwanegodd.
Mae’r Athro Hubbard yn gweithio ar yr astudiaeth gydag ymchwilwyr o ddwy brifysgol arall, sydd hefyd â chysylltiadau agos ag Aberystwyth.
Mae’r Dr Duncan Quincey o Brifysgol Leeds yn gyn fyfyriwr PhD ac aelod staff o Brifysgol Aberystwyth ac mae’n goruchwylio agwedd synhwyro o bell (lluniau lloeren) y prosiect. Bydd yn ymuno â Bryn yn y maes.
Mae Dr Ann Rowan yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Sheffield. Astudiodd Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n gyfrifol am ddatblygu modelau cyfrifiadurol o’r modd y mae’r rhewlif yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.
Bydd yr Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Evan Miles a’r fyfyrwraig PhD o Brifysgol Aberystwyth, Katie Miles hefyd yn gweithio gyda Bryn yn ystod yr astudiaeth.
Ariennir y gwaith gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, NERC.
Her Dechnegol
Bydd yr Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn gweithio ar uchder o dros 5000m, a bydd yn rhaid iddynt ymdopi â nifer o heriau corfforol a thechnegol.
Bydd angen codi offer sy’n pwyso tua 1500 cilogram i ben y rhewlif.
Bydd hanner yr offer yn cael ei gludo drwy’r awyr gan hofrennydd, a’r hanner arall yn cael ei gario i fyny gan Sherpaid a logwyd yn lleol, iaciad a’r tîm ymchwil.
Mae’r Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn defnyddio hofrenyddion yn gyson i gludo offer i ardaloedd anghysbell ac anodd cyrraedd atynt yn ystod astudiaethau maes.
Ar lefel y môr, byddai’r hofrenyddion a ddefnyddir gan y tîm yn gallu codi dros dunnell ar y tro fel rheol. Am resymau uchder, disgwylir y bydd y prif lwyth ar gyfer y daith hon yn llai na 200 cilogram fesul trip.
Bydd y tyllu’n cael ei gyflawni gan uned golchi ceir wedi’i haddasu’n arbennig, sy’n cynhyrchu chwistrelliad o ddŵr poeth ar bwysedd o hyd at 120 bar, sy’n ddigon i dorri trwy darmacadam garw.
Bydd y dril yn cael ei bweru gan dri generadur Honda, a disgwylir y bydd y pŵer a gynhyrchir ganddynt hyd at 50% yn llai oherwydd y diffyg ocsigen ar yr uchder hwnnw.
Bydd dŵr o’r llynnoedd ar arwyneb y rhewlif yn cael ei hidlo a’i gynhesu i ~40oC at ddibenion tyllu.
Tra bo’u hoffer yn cael eu cludo drwy’r awyr, bydd Bryn a’i gydweithwyr yn cerdded am 8 diwrnod o faes awyr Lukla wrth iddynt gynefino â’r uchelderau.
Yr Athro Bryn Hubbard
Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard ym mis Ionawr 2016 i gydnabod ei waith fel “ysgolhaig Pegynol mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ”.
Astudiaeth Himalaia 2017 fydd ei 29ain flwyddyn olynol i gynnwys cyfnod o waith maes rhewlifegol.
Er 1988 mae’r Athro Hubbard wedi gweithio yn Antarctica ar chwe achlysur, astudio mudiant rhewlifoedd ar uchelderau mawr yn yr Andes ym Mheriw ar dri achlysur, gweithio yn y Lasynys ar bum achlysur ac ar Svalbard wyth o weithiau, yn ogystal ag Arctig Canada a Norwy. Cyn ymchwilio ar fasau iâ mwy egsotig y byd, cyflawnodd waith maes yn Alpau Ewrop, gan arwain neu gymryd rhan mewn gwersylloedd maes ar tua 20 achlysur.
Yr ymweliad hwn â rhewlif Khumbu fydd ei gyntaf o ddau, gan y bydd y tîm yn dychwelyd am ail gyfnod o 9 wythnos yn 2018. Dilynir hyn bron yn syth gan daith maes 9 wythnos i’r Lasynys i astudio Rhewlif Store.