Prifysgol Aberystwyth yn lansio graddau newydd mewn Ffiseg
Yr Athro Andrew Evans: “Mae'r graddau Ffiseg Peiriannol newydd wedi eu cynllunio i ddarparu sylfaen ffiseg gadarn ynghyd â sgiliau peirianneg ragorol i’n graddedigion a’u ddatblygu gyda gofynion darpar gyflogwyr mewn golwg.”
07 Ebrill 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio graddau newydd mewn Ffiseg Peiriannol wrth i Sefydliad Ffiseg (Institute of Physics) gyhoeddi adroddiad sy’n dangos bod diwydiannau sy’n seiliedig ar ffiseg yn cyfrannu mwy na £10.7 biliwn at economi Cymru yn flynyddol.
O fis Medi 2017 bydd myfyrwyr yn yr Adran Ffiseg yn Aberystwyth yn gallu dewis graddau tair neu bedair blynedd BEng neu radd bum mlynedd MEng mewn Ffiseg Peiriannol.
Ar hyn o bryd mae'r Adran yn cynnig graddau tair a phedair blynedd mewn Ffiseg; Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod; Astroffiseg; Gwyddor y Gofod a Roboteg; a Ffiseg Fathematgol a Damcaniaethol.
Bydd y cymwysterau newydd yn canolbwyntio ar beirianneg deunyddiau newydd, technoleg gofod a’r genhedlaeth newydd o gyfrifiaduron cwantwm, ac yn adeiladu ar arbenigedd ymchwil yr Adran yn y meysydd hyn.
Dywedodd yr Athro Andrew Evans, Cadeirydd y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru a Phennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae'r graddau Ffiseg Peiriannol newydd wedi eu cynllunio i ddarparu sylfaen ffiseg gadarn ynghyd â sgiliau peirianneg ragorol i’n graddedigion a’u ddatblygu gyda gofynion darpar gyflogwyr mewn golwg.
“Mae myfyrwyr sy'n dewis astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gallu tynnu ar brofiad ymchwilwyr sy'n gweithio yn uniongyrchol ar deithiau gofod blaengar i'r blaned Mawrth yn 2020 (ExoMars) a phlaned Iau yn 2023 (JUICE), ffiseg deunyddiau newydd megis graphîn a datblygu cyfrifiaduron cwantwm.”
Cyhoeddwyd manylion y cynlluniau gradd newydd yn yr un wythnos â lansio adroddiad newydd yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Y Sefydliad Ffiseg ar 'Rôl ffiseg wrth gefnogi twf economaidd a chynhyrchiant cenedlaethol yng Nghymru'.
Mae’r adroddiad, sydd wedi’i seilio ar ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes, yn dangos bod diwydiannau sy’n seiliedig ar ffiseg yn werth mwy na £10.7 biliwn yn flynyddol i economi Cymru ac yn cyflogi 6.4% o'r gweithlu.
Yn 2013 roedd diwydiannau sy’n seiliedig ar ffiseg yng Nghymru yn cyfrif yn uniongyrchol am £5.2bn gwerth gros, sef 10% o economi Cymru.
Yn 2015 roedd y sector yn cyflogi bron i 84,000 o bobl yn uniongyrchol, a 200,000 yn anuniongyrchol.
Yn ei gyflwyniad i’r adroddiad, dywedodd yr Athro Evans: "Mae Cymru’n gartref i lawer o ymchwilwyr sy’n flaenllaw ar y llwyfan ryngwladol ac sydd â rôl allweddol mewn partneriaethau rhyngwladol o bwys. Mae'n gwasanaethu fel canolfan ar gyfer llawer o fusnesau sydd wedi adeiladu llwyddiant sylweddol ar sail gwybodaeth a thechnolegau ffiseg.
"Os yw Cymru am barhau i elwa o economi uwch-dechnoleg uchel ei chynhyrchiant yn y dyfodol, mae'n rhaid iddi barhau i fuddsoddi mewn ffiseg heddiw - mewn ysgolion, mewn addysg bellach ac uwch, mewn ymchwil ac mewn busnesau sy'n ffynnu ar ffrwyth ffiseg.
"Mae’r Sefydliad Ffiseg yn gweithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid ar draws y wlad er mwyn sicrhau bod manteision ffiseg yn cael eu cydnabod a bod y buddsoddiad angenrheidiol ar gyfer ffyniant yn cael ei sicrhau."