Athro Hanes i redeg Marathon Llundain
Bydd yr Athro Phillipp Schofield yn rhedeg i godi arian ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar.
06 Ebrill 2017
Athro Hanes i redeg Marathon Llundain
Bydd Phillipp Schofield, Athro Hanes Canoloesol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhedeg Marathon Llundain sydd yn cael ei chynnal eleni ar 23 Ebrill 2017.
Bydd Phillipp yn rhedeg i godi arian ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar, elusen arbennig o bwysig i'w ddiweddar wraig, Jane, a fu farw yn 2013 o diwmor ar yr ymennydd yn 51 oed.
Bu Jane yn gweithio bron yn gyfan gwbl gyda phlant byddar yng Ngorllewin Cymru, a chyn symud i Gymru, bu Jane yn gweithio drwy gydol ei gyrfa i gefnogi plant byddar, gan ddechrau yn Ysgol Birkdale ar gyfer y Byddar yn y 1980au canol, ac yna yn Rhydychen.
Bu hefyd yn ymwneud yn agos yn Rhydychen gyda sefydlu rhaglen mewnblaniad yn y cochlea.
Dywedodd Phillipp: “Roedd y gwaith hwn yn golygu cymaint i Jane ac mae’r teulu yn teimlo bod helpu i godi arian ar gyfer NDCS yn ffordd wych o gydnabod cyfraniad gwych Jane."
Dyma'r ail dro i Phillipp redeg Marathon Llundain. ,
Ei obaith yw gwella ei amser o 2015 gan gwblhau’r cwrs rhwng 20 a 30 munud yn gyflymach.
“Mae'n gyfle gwych i redeg eto. Fe wnes i wir fwynhau’r tro diwethaf ac rwyf yn ymarfer yn galed y tro hwn yn y gobaith y gallaf hefyd gyrraedd y llinell derfyn ychydig yn gyflymach”, ychwanegodd.
Os hoffech gefnogi Phillipp a chyfrannu at y gronfa ar gyfer y NDCS, gallwch wneud hynny ar ei dudalen 'just giving' neu anfon e-bost ato prs@aber.ac.uk.