Llwyddiant i lun o’r iCub yn dysgu wrth chwarae
‘iCub and Eve’. Mae Eve, sy’n bedair oed, a’r robot iCub yn eistedd wrth fwrdd sydd yn llawn o deganau lliwgar. Yn fuan iawn mae’r ddau’n adeiladau tyrau ystyrlon. Mae Eve yn gorffen y dasg cyn yr iCub ac yn dathlu ei llwyddiant â gwên fawr ar ei hwyneb.
04 Ebrill 2017
Mae delwedd o robot dynolffurf sy’n dysgu sut i chwarae oddi wrth blentyn ifanc wedi dal sylw beirniaid cystadleuaeth ffotograffiaeth wyddonol Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianyddol a Ffisegol (EPSRC).
Yn y llun ‘iCub and Eve’ mae Eve, sy’n bedair oed, a’r robot iCub yn eistedd wrth fwrdd sydd yn llawn o deganau lliwgar.
Yn fuan iawn mae’r ddau’n adeiladau tyrau ystyrlon. Mae Eve yn gorffen y dasg cyn yr iCub ac yn dathlu ei llwyddiant â gwên fawr ar ei hwyneb.
Tynnwyd y llun gan Sandy Spence ac fe’i ysbrydolwyd gan waith ymchwil Dr Patricia Shaw yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a dyfarnwyd y drydedd wobr i’r llun yn y dosbarthu ‘Pobl a Sgiliau’.
Hon yw'r drydedd ddelwedd mewn cyfres i brofi llwyddiant yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth wyddonol yr EPSRC.
Yn 2015 enillodd 'The Greatest Discovery', oedd yn dangos yr iCub yn 'gwrando' ar y plentyn yng nghroth ei fam Ayesha Jones, y wobr gyntaf yn nosbarth 'Pobl' y gystadleuaeth.
‘iCub and the tutor’ oedd y llun yn 2016 a oedd yn cynnwys Caiya, merch Ayesha a oedd yn flwydd oed erbyn hynny, yn eistedd wrth y bwrdd ac yn chwarae gyda'r iCub. Roedd y llun hwn hefyd yn fuddugol yn y dosbarth 'Pobl'.
Yn 2015 dyfarnwyd £560,000 gan yr EPSRC i Grŵp Roboteg Ddeallus Prifysgol Aberystwyth ar gyfer prosiect ymchwil tair blynedd lle maent yn gweithio gyda seicolegwyr datblygiadol i gynorthwyo robotiaid i ddysgu mwy am ffiseg gwrthrychau a sut i ddefnyddio gwrthrychau fel offer.
Esbonia Patricia Shaw, darlithydd mewn Cyfrifiadureg ac aelod o’r Grŵp Roboteg Ddeallus: "Yn ystod babandod mae plant yn dysgu o’u profiadau o'r byd o'u cwmpas. Trwy chwarae gyda gwrthrychau maent yn adeiladu dealltwriaeth o'r gwrthrychau a sut i'w defnyddio, ynghyd â chysyniadau am ffiseg sylfaenol y byd, megis sefydlogrwydd gwrthrych.
"Yn y gwaith ymchwil hwn, rydym yn modelu sut mae babanod ifanc yn dysgu ac yn ei gymhwyso i robot dynolffurf. Y nod yw datblygu mecanwaith ar gyfer robotiaid i ddysgu am ffiseg sylfaenol y byd drwy ddeall gwrthrychau. Rydym wrth ein bodd bod ein gwaith wedi ei gydnabod am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’n gyfle gwych i rannu gyda phawb yr hyn yr ydym yn gweithio i’w gyflawni."
Cyhoeddwyd enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Gwyddoniaeth yr EPSRC ddydd Llun 3 Ebrill 2017.
Roedd pum categori yn y gwobrau eleni: ‘Eureka & Darganfod’, ‘Arloesi’, ‘Pobl & Sgiliau’ ‘Offer & Chyfleusterau’ a ‘Rhyfedd a Rhyfeddol’.
Enillydd y brif wobr yw 'Graphene - IPA Ink' gan James Macleod o Brifysgol Caergrawnt, sy’n dangos powdr graffit mewn alcohol, sy’n cynhyrchu inc dargludol.
Y beirniaid eleni oed Martin Keene, Golygydd Lluniau Grŵp y Press Association; Dr Helen Czerski, Darlithydd yn Adran Peirianneg Fecanyddol Coleg Prifysgol Llundain a’r Athro Tom Rodden, Dirprwy Brif Weithredwr yr EPSRC.
Dywedodd Dr Helen Czerski: “Yn aml mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn canolbwyntio gymaint ar fanylion technegol eu hymchwil ac o bosibl yn ddall i’r hyn y mae pawb arall yn ei weld yn gyntaf: estheteg eu gwaith. Mae gwyddoniaeth yn rhan o’n diwylliant, ac yn medru cyfrannu mewn cynifer o ffyrdd gwahanol. Mae’r gystadleuaeth hon yn atgof hyfryd o agweddau emosiynol ac artistig gwyddoniaeth, ac mae’n wych bod ymchwilwyr yr EPSRC wedi canfod y cyfoeth hwn yn eu gwaith eu hunain.”
Wrth longyfarch yr enillwyr a'r cystadleuwyr, dywedodd yr Athro Tom Rodden, Dirprwy Brif Weithredwr yr EPSRC: "Mae safon y ceisiadau i’n cystadleuaeth yn dangos bod ymchwilwyr sy’n cael eu cyllido gan yr EPSRC yn awyddus i ddangos pa mor hardd a diddorol y mae gwyddoniaeth a pheirianneg yn medru bod. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran; roedd beirniadu yn anodd iawn.”
‘Mae’r lluniau rhyfeddol yma yn ffordd dda iawn o adeiladu pontydd rhwng y cyhoedd a’r ymchwil y maent yn ei gyllido, ac ysbrydoli pawb i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.”
Derbyniodd y gystadleuaeth dros 100 o geisiadau gan ymchwilwyr sy'n derbyn cyllid EPSRC.
Mae’r delweddau a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd, ynghyd â disgrifiadau, i gyd ar gael i'w lawr-lwytho o wefan yr EPSRC www.epsrc.ac.uk.