Agor Gofod Ffydd y Brifysgol
Chwith i’r Dde: Aled Saunders, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Daniel Long sy’n aelod o Gymdeithas y Myfyrwyr Methodistaidd, a Roger Hines o Eglwys Fethodistaidd St Paul yn Aberystwyth, yn ystod agoriad y Gofod Ffydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
03 Ebrill 2017
Cafodd Gofod Ffydd newydd ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ei agor yn swyddogol ddydd Gwener 31 Mawrth.
Darparwyd y Gofod Ffydd, sydd wedi'i leoli rhwng mynedfa Canolfan y Celfyddydau a mynedfa Undeb y Myfyrwyr, ar gyfer addoliad neu fyfyrio tawel.
Nid oes yno eiconau na symbolau crefyddol yn fwriadol ac mae hyn yn creu amgylchedd niwtral a chynhwysol ar gyfer gweddi, myfyrio a llonyddwch i fyfyrwyr a staff o bob ffydd.
Meddai Caryl Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr: “Mae'r Gofod Ffydd newydd yn arwydd o ymrwymiad y Brifysgol i groesawu amrywiaeth grefyddol, ac mae'n darparu gofod niwtral ar gyfer anghenion ffydd yr amrywiaeth eang o fyfyrwyr a staff sydd yma'n astudio. Mae'r Gofod Ffydd newydd hwn yn ategu'r gofod sydd gennym eisoes yng Nghanolfan Llanbadarn.”
Bydd Gofod Ffydd Campws Penglais ar gael bob dydd, gan gynnwys y penwythnosau, rhwng 8 y bore a 9 yr hwyr.
Gall staff a myfyrwyr y Brifysgol, a chymdeithasau ffydd Undeb y Myfyrwyr, logi'r gofod ar gyfer gweithgareddau ffydd. Ar adegau eraill, mae'r gofod ar agor i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a staff i ddibenion addoli neu fyfyrio.
AU12717